Cantrefi’r Gwaelodion

27 Rha

sganYn rhifyn cyfredol Y Faner Newydd cawn y map hwn sy’n dangos beth a ddigwydd i Ynys Brydain a rhannau o Iwerddon “os bydd y cynhesu byd-eang yn parhau a lefel y môr yn dal i godi” Nid yw’r eitem yn dweud wrthym pa bryd y gallwn ddisgwyl y llifeiriant, sef pa bryd y byddai’n ddoeth i mi godi fy mhac o’m trigfan ar lawr gwlad ac anelu am yr hafod fynyddig y soniais amdani mewn blog o’r blaen. Ymhen blwyddyn? Canrif? Mil o oesoedd maith?

Wn i ddim a ydym i fod i gymryd unrhyw gysur o fod “Palas Buckingham a’i rwysg”, Senedd San Steffan, Sgwâr Trafalgar a Big Ben i gyd o dan y dyfroedd. Un peth sy’n sicr, bydd pobl Llundain wedi heidio i Gymru erbyn hynny.

Fel y gwelwn ar y map, daw dial Capel Celyn ar Lerpwl, ynghyd â’r rhan fwyaf o Swyddi Caerhirfryn a Chaer, a Dyffryn Dyfrdwy. Dyffryn Clwyd wedi mynd yn ffiord hefyd. Brysiwn i wella’r A55 felly ar gyfer mewnlifiad (ac nid o ddŵr) i Arfon a Meirion. A bydd raid cael pont anferth lle mae Llanelwy heddiw.

Dau a fyddai’n hapus pe baent yn fyw fyddai hen benaethiaid gwlad Rheged, Urien ac Owain ei fab. Dyna deyrnas Rheged yn sefyll yn bur gadarn, ond “Brynaich a Deifr”, sef Northumbria, bron wedi darfod amdani.

Saif y rhan fwyaf o’r Alban yn solet. Ond gofid yw gweld y difrod i dir isel y Canolbarth, yn cynnwys dinasoedd Din Eiddyn a’r Glas Gae.

Mae’r Ynys Werdd, fe sylwn, wedi mynd yn nifer o ynysoedd gwyrddion bychain. Gallwn gymryd y bydd y rheini oll, gyda’r Alban, yn dal yn aelodau o’r Gymuned Ewropeaidd. Gyda hwy hefyd bydd siroedd Gorllewinol, sef Catholig, hen dalaith Wledd, gan adael y siroedd Protestannaidd wedi eu llwyr wahanu, ac yn dal felly yn yr undeb dedwydd â Lloegr a Chymru Frexitaidd (sef ‘Ynys Brydain’ y traddodiad llenyddol a hanesyddol, o’i chyferbynnu â’r Ynys Brydain ddaearyddol).

Bydd y dŵr yn llepian ar risiau ffrynt ei tŷ ni, – cael a chael efallai. Ond wrth edrych drosodd at Fôn, pa beth a welaf draw? Bydd y Fam Ynys yn ffrwtian yn ymbelydrol dan y dŵr. Ond na phoener: i ohirio diwedd a braw yr hollfyd bydd cynghorwyr Môn, prentisiaid Coleg Menai a phobl ifainc chweched dosbarth Ysgol David Hughes oll yn eu siwtiau deifars yn tendio’r ddwy Wylfa yn y dyfnderoedd nos a dydd. Bydd yn berffaith saff.

Gan obeithio felly fod gennym ambell flwyddyn mewn llaw eto cyn y gwireddir darogan gwlyb Y Faner Newydd, dymunaf Flwyddyn Newydd Dda i ddarllenwyr y blog yn y nesaf o’r blwyddi hynny, 2017.

Advertisements

2 Ymateb to “Cantrefi’r Gwaelodion”

  1. Geraint Jones Rhagfyr 27, 2016 at 8:12 pm #

    “Fesul ty, nid fesul ton
    Y daw’r mor …”

    O edrych yn fanwl ar fap Y Faner Newydd, rydw i bron yn siwr y bydd Caerdydd hefyd yn gydymaith i “lawer dinas dlos”. Beth ddylai’n hymateb i’r posibilrwydd hwn fod ? Ai gorfoledd ? A fydd allfudiad mawr o Iypi-Gymry’r Fro Gymraeg yn allfudo unwaith yn rhagor, ond y tro hwn i fyny’r A470 yn hytrach nag i lawr ?

    Y gwir amdani yw fod y boddi mawr yn digwydd eisoes a fawr neb o hil Cunedda’n poeni dim.

    I gloi mewn gobaith. A glywsoch chi, rhen Glyn, am fardd o Gymro (na, nid Mynyddog y tro hwn) o’r enw Iorthryn Gwynedd a ymfudodd i America ac a’n sicrhaodd y bydd yr iaith Gymraeg fyw yno hyd yn oed yn nyddiau’r claer gymylau tanllyd ? Ie, “pan grochfloeddia yr archangel”, ac ar ddyfodiad “y dydd diweddaf mawr”, bydd popeth yn iawn ar yr hen iaith, Meri Huws a Lord Ellis Thomas of Conway. Dyma’i eiriau :

    ” Bydd Cymry glan Americ
    Mewn pur Gymraeg o hyd,
    Yn seinio’r hen ganiadau …”

    Oni ddylem oll ffoi rhag rhaib Llundain a Chaerdydd ‘over the pond’ ?

    Fesul ty ACCCCC fesul ton. Tybed ?

    Hwntw Mawr

    • glynadda Rhagfyr 27, 2016 at 11:38 pm #

      Neu i’r Wladfa yndê. Fe ddylai Cwm Hyfryd fod uwchlaw’r dilyw, siawns gen i.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: