O Washington i Wynedd

16 Ion

Nid yn annisgwyl, parhau y mae’r sylwebu a’r dadansoddi, y darogan a’r arswydo wrth inni nesu at ddiwrnod urddo’r Trymp yn arlywydd, – neu ei ‘sefydlu’, ac arfer iaith y capel. (A pharhau â’r derminoleg ymneilltuol, cafodd ei ‘godi’ ddiwrnod yr etholiad ym mis Tachwedd, ac eisoes ei ‘ordeinio’ mewn seremoni fach dawel rai dyddiau’n ôl. Erys ‘ei sefydlu ar yr eglwys’, ond clywn fod rhai o ‘hoelion wyth yr enwad’ yn gwrthod bod yno.)

Ymhlith y daroganau y mae rhyw ddisgwyl gan ei wrthwynebwyr y bydd rhyw sgandal bersonol neu’i gilydd yn bwrw Trympyn oddi ar ei glwyd cyn y daw pedair blynedd i ben. Mentraf feddwl yn wahanol. Peth sy’n effeithio ar ddyn parchus yw sgandal; nid yw Trump yn ddyn parchus nac erioed wedi amcanu bod. Y math o stori a ddymchwelodd Profumo ac a andwyodd lywodraeth Macmillan, nid yw’n debyg o fennu dim ar ddyn sy’n gwawdio pobl anabl yn ei ralïau cyhoeddus ac yn ymffrostio mewn cau-bod-llonydd i ferched. Po fwyaf di-chwaeth yr â’r arlywydd newydd, mwyaf y bydd yn plesio’r rheini a bleidleisiodd iddo.

A dyna sy’n dychryn rhywun fwyaf. Ers pan wyf i’n cofio mae’r Americanwyr wedi ceisio ethol dyn o’i gof, a’r tro hwn maent wedi llwyddo. Neu ethol, o leiaf, ddyn ac iddo feddwl a deallusrwydd plentyn, a hwnnw’n blentyn drwg. Gwyddai o’r cychwyn fod iddo ddeunydd cefnogaeth gref ymhlith dynion gwynion anwybodus ac anneallus o’r dosbarth gweithiol, ac aeth yn syth am y gefnogaeth honno. O’r blaen yr oedd rhywbeth yn atal ymgeiswyr arlywyddol, hyd yn oed y gwirionaf ohonynt, rhag dweud yn agored yr hyn y byddai’r garfan helaeth hon yn dymuno’i glywed; ond ni bu’r fath atalfa ar Trump. Dyma esiampl a all demtio eraill i’w dynwared.

Os gwna’r gwleidydd hwn unrhyw ddaioni, fe’i gwna drwy ddamwain – ac mae peth felly’n digwydd weithiau. Fe’i hetholwyd nid i wneud da ond i wneud drwg, gan etholaeth ddrwg-ewyllysgar, ‘bloody-minded’, chwedl y Sais. Pam yr oedd hi gymaint mwy felly y llynedd nag yr oedd hi wyth a phedair blynedd ynghynt pan etholwyd ac yr ailetholwyd Obama, mae’n anodd dweud. Y cyfan a wyddom yw bod hyrddiau o wallgofrwydd yn cydio mewn etholwyr weithiau, heb unrhyw reswm amlwg; fe’i gwelsom ar raddfa fechan yn Sir Fôn yn 1979.

* * * *

Yn yr Alban mae yna ddechrau paratoi ac ymfyddino at refferendwm arall, gyda chynhadledd o 800 yn Glasgow yr wythnos diwethaf yn ystyried y camau cyntaf. Fel yr wyf wedi dweud droeon, trueni bod yn rhaid dibynnu ar refferendwm; dylai mwyafrifoedd seneddol i’r SNP fod yn ddigon o warant dros symud ymlaen. Ond erys cysgod refferendwm 2014, ac mae’n debyg y teimlir na ellir dod allan o’r cysgod hwnnw ond drwy bleidlais arall.

Mae’r ymreolwyr yn gwbl sicr eu meddyliau na bydd pleidlais eleni, ac na byddant yn ei dymuno. Y flwyddyn nesaf ? Dibynna lawer ar gamrau Brexit. Hyder o ennill, dyna’r maen prawf, fel y mae’r cenedlaetholwyr yn pwysleisio’n gyson. Cyn sicred ag y gellir proffwydo unrhyw beth, gallwn broffwydo na bydd ymgyrch NA y tro nesaf; neu os bydd un, y gellir ei chrynhoi mewn dau air, ‘Ruth Davidson’. Ni bydd hen geffylau fel Gordon Brown, Alastair Darling a Jim Murphy yn mentro i’r maes eto, dim ffiars o beryg.

Wedi dweud hynny, cydnabyddwn efallai y bu i’r ymgyrch NA y tro diwethaf, drwy fod mor sâl, helpu codi’r bleidlais IE o’r 25% cychwynnol i’r 45% ar y diwrnod. Dywed Alex Salmond hyn yn ei atgofion. Llawn mor effeithiol ag ymgyrch NA mewn rhai sefyllfaoedd yw’r ffactor ‘drysu hwyl’ neu ‘sboilsbort’. Unwaith y dechreua rhywbeth godi hwyl, ymateb greddfol un garfan o gymdeithas yw mynd yn fwyfwy cysetlyd a thaflu mwy o ddŵr oer. ‘O-o-o-o-o-o, maen nhw isio rwbath i neud, tydyn ?’ Unwaith eto, rhai o etholiadau Môn yn y 1970au.

* * * *

Yn GOLWG, 12 Ionawr, stori fach ddigon diddorol am gynnydd aelodaeth a gweithgarwch Llafur yn etholaethau Gorllewin Cymru. Cefnogaeth i Corbyn, meddir, a diamau mai dyna’r gwir. Ond fel yr ydym wedi crybwyll o’r blaen, a digon o rai eraill wedi pwysleisio, un peth yw brwdfrydedd aelodau gweithredol, peth arall yw hyder etholwyr. Weithiau gall y ddau beth fynd gyda’i gilydd, gyda’r cyntaf yn arwain at yr ail, fel sy’n digwydd yn gyffredinol yn hanes Plaid Cymru. Ond yn achos Llafur mae anhawster arbennig, sef ofn mwyafrif y gwleidyddion etholedig, ac ofn trwch y pleidleiswyr hefyd, o’r hen beth hwnnw, egwyddor.

Os gwêl Llafur ryw adfywiad bach, yn enwedig yn etholaeth Ceredigion, gall hynny fod o ychydig gymorth i Blaid Cymru drwy ddenu peth o bleidlais y colegau a’r mewnlifiad oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol. Ond pwy ŵyr beth fydd wedi digwydd cyn yr awn i’r bythau bach eto ? Os bydd Brexit wedi bod, ni bydd UKIP mwyach, a dyna fwy o bleidleisiau ar gael i Lafur a Thori ym mhob etholaeth. Gwylied Plaid Cymru ei hun, ie hyd yn oed yn Arfon a Meirion-Dwyfor. Ac os daw etholaeth newydd ‘Môn ac Arfon’ dyna ddeunydd llanast arall.

* * * *

Yn awr at bwmp y pentref. Yn ôl stori ar wefan newyddion BBC Cymru heddiw, nid oes gan Ysgol Tryfan, yma ym Mangor, gae rygbi ! Dyma inni ofnadwy ! Sut y gall gwareiddiad fynd yn ei flaen, dywedwch ? Oes eisiau unrhyw beth i wneud cae rygbi ac eithrio ychydig o laswellt ac ychydig o fwd ? Ond yn wir mae gennym lai o’r rheini, gyda’r holl godi tai a chodi hostelau a fu yn ddiweddar.

Yn sgil y stori hon, adroddir hefyd fod deuddeng miliwn o bunnau wedi dod i’r fei yn un o gronfeydd yr awdurdod addysg. Trueni na ddaeth neb o hyd i’r celc hwn cyn cau fy hen ysgol yng Ngharmel. Ond dyna ni.

Yn yr un eitem dyfynnir y farn y byddai campws 3-19 oed yn ateb rhai o anghenion Bangor yn well y dyddiau hyn, anghenion yr addysg Gymraeg yn arbennig. Cyfeirir at esiampl y Bala. Ond nid awgrymir, hyd yma beth bynnag, pa enwad crefyddol a fyddai’n ei redeg.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: