Neb yn Malio ?

30 Ion

A’r ddeiseb yn erbyn gwahodd Trump ar ymweliad gwladol yn tyfu fesul y degau o filoedd ers ddoe, cyhoeddodd y trefnwyr fap sy’n dangos nerth y gefnogaeth drwy wahanol rannau’r deyrnas. Caergrawnt, Rhydychen a Llundain yn frwd. Dyna ni, chware teg iddyn nhw am y tro. Cymru’n amrywio. Un peth sy’n ein taro – hyd yma beth bynnag – difaterwch cymoedd Deheudir Cymru. Gyda ymddiheuriadau i Crwys felly:

A yw’r Valleys heddiw’n malio
Fod y Trymp yn dod i de?
Pa le mae’r hen radicaliaeth, —
Wedi boddi yn Cardiff Bay?
A yw ysbryd brwd brawdgarwch,
Cri cyfiawnder a’r un stwff,
Oddi ar gladdu S.O. Davies
Wedi rhoi eu holaf bwff ?

Afon Wysg sy’n rhedeg eto
Trwy Gasnewydd tua’r môr, –
Ond a welwn dyrfa’r Siartwyr
Ar ei thaith yn unol gôr?
Tonypandy ? Hanes echdoe.
Dic Penderyn ? Dim ond myth:
Ni cheir mwy ond Stephen Kinnock
Gydag ambell Owen Smith.

Meini mud uwchben Tredegar, —
Unig gof y brwydro fu ?
Ble mae ysbryd ’rhen Keir Hardie ?
Dim ond enw ar ei Dŷ.
A oes yma rai sy’n hidio
Am a fu neu ynteu ddaw,
Tra mae twpdra’r oes yn bridio
Difaterwch ar bob llaw ?

Oes, mae ambell lecyn golau –
Cyn terfynu, cofiwn hyn:
Eto’n cyrraedd pen y polau,
Diolch byth, mae’r hen Paul Flynn.
Gwleidydd gorau Cymru heddiw
A thrwy’r Senedd oll o’r bron,
A’r hen werthoedd eto’n loyw
Ac yn angerdd yn ei fron.

Diolch eto am Neil McEvoy, –
Biti bod ei Blaid mor wan,
Ond boed eto hwb i honno
Wedi llwyddiant ’rhen Leanne.
Dyma dri sy’n cynnal gobaith –
MacEvoy, Leanne a Paul:
Torred gwawr ar Gymru eto,
A’r hen nerthoedd eto’n ôl

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: