Neges Nicola

14 Maw

Amrywiaeth o benawdau da y bore ’ma:

Daily Express – HOORAY ! MPs VOTE TO TRIGGER EU EXIT

Western Mail – Brexit could tear UK apart as Scots head for new vote

The Times – Sturgeon ambushes May

The Guardian – May’s Brexit plan upstaged as Sturgeon seizes her moment

i – Future of the UK in doubt

Daily Telegraph – The new battle for Britain

Scottish Daily Mail – SNP’s DAY OF BETRAYAL

Y ddwy ddiwethaf yn rhai go dda, ond mae’r wobr heddiw am y pennawd mwyaf plentynnaidd yn mynd i’r Daily Mail (Llundain) :

HANDS OFF OUR BREXIT, NICOLA !

Mae gwefannau’r cenedlaetholwyr Albanaidd heddiw’n bur werthfawrogol, e.e. Craig Murray’n blês ar y neges, y modd y cyflwynwyd hi a’r amseriad.

Ie, sylwedd yw’r peth pwysicaf wrth gwrs. Ond fel y cydnebydd pawb mae delwedd yn bwysig hefyd. Llwydda Nicola i gyfleu’n wastad ei bod hi’n gwybod ble mae’n mynd a sut i fynd yno, yn wahanol i Brif Weinidog arall y gallem ei henwi, sy’n gwella’n feunyddiol ei dynwarediad argyhoeddiadol o iâr ddŵr wedi ffrwcsio.

Mae’r blog hwn yn ddigon aml wedi mynegi amheuaeth o refferenda. Ond dyna ni, mae’r SNP yn teimlo, mae’n debyg, bod yn rhaid iddi ddod allan o gysgod y refferendwm o’r blaen, ac mai dyma’r unig ffordd. Ni ddywedodd Nicola yn derfynol y bydd refferendwm. Dweud a wnaeth y bydd yn gofyn i’w Senedd wneud cais am un, a dweud tua pa bryd y bydd un, os bydd un. (Un cyngor bach. Crybwyllodd ‘rhwng Hydref 2018 a Gwanwyn 2019′. Ond peidier â’i gynnal yn y gaeaf. Tywydd drwg – hwyl ddrwg, fel yn hunllef 1979.) Erys un OS arall, sef cydsyniad llywodraeth Llundain.

Os na cheir y cydsyniad hwnnw, dyna’r ysgogiad i seneddwyr yr Alban gymryd hynt tuag Arbroath.

Byddai’n WELL pe gellid symud ymlaen fel hyn, sef bod y Blaid Genedlaethol yn datgan, os caiff hi fwyafrifoedd un waith eto yn etholiadau Holyrood a San Steffan, y cymer hi hynny fel trwydded i gyhoeddi annibyniaeth yr Alban. Ond nid yw’r amserlen yn caniatáu hynny. Cyn y cynhelir yr un o’r ddau etholiad, bydd Brexit wedi digwydd. Neu heb ddigwydd. (Daliaf, hyd yma, i gredu mai’r ail.)

Yn ôl at yr ymhlygiadau i ninnau’r Cymry. Pryd, sut, y gallwn gael gan bobl ddechrau meddwl am y rheini? Wrth nesu at ddiwedd Prydeindod (1965) gofynnodd J. R. Jones: ‘A oes sefyllfa a dynn y gorchudd oddi ar ideoleg Prydeindod ? … Sut y mae dinoethi ideoleg Prydeindod i drwch poblogaeth Cymru a rhoi dannedd yn y dinoethiad drwy ddefnyddio fel ein “sefyllfa ddinoethol” gyflwr y gellir cael gan drwch y boblogaeth i weld eu bod ynddo? … Gallai Lloegr, er enghraifft, o orfod ohoni gyfaddef o’r diwedd i’w haul fachludo, golli ei gallu oesol i fesmereiddio’r Cymry.’

Gall popeth fynd o chwith, wrth gwrs, fel y gwnânt yn aml, chwedl un o feibion enwocaf yr Alban, yn helyntion dynion a llygod. Ond efallai, efallai ein bod yn agos iawn – yn beryglus o agos – at y ‘sefyllfa ddinoethol’ hon. Heb wasg a chyfryngau, a heb fudiad cenedlaethol ag unrhyw siâp arno, sut mae cael y Cymry i weld a deall y sefyllfa?

Dyna dy broblem, Gymro.

Advertisements

4 Ymateb to “Neges Nicola”

  1. Dei Tomos Mawrth 14, 2017 at 6:04 pm #

    Diolch am flogiad arall synhwyrol, ac ysbrydoledig. Chefais i fawr o amser i ddarllen dim heddiw ond roedd ddoe yn ddiwrnod mawr. Llafur yn ei gadael yn y caca eto, Clegg a Soubry, pwy fasa’n meddwl y byddwn i am ganmol rheini, wnaeth unrhyw safiad o werth o be welais i, am y gweddill … wel o leia mae hi wedi bod yn braf heddiw ac mae’r dydd yn ymestyn. Mae lle i fod yn ddiolchgar.

  2. Harri Mawrth 14, 2017 at 11:48 pm #

    Onid problem Cymru yw diffyg digon o Gymry? Mae rhuddin y gymdeithas Gymreig yn shitrws ac amhosib ei hadfer, Brexit neu ddim Brexit.

    • glynadda Mawrth 15, 2017 at 10:28 am #

      Calon y gwir, Harri. “Rhuddin y gymdeithas Gymreig yn shitrws” : pa well enghraifft na Gwynedd a Môn yn newid eu polisïau iaith a chynllunio i blesio Horizon ?

      Rwyf wedi penderfynu ers blynyddoedd fod inni dri dewis. (1) “Rhoid gif-yp”. (2) Dal i gredu. (3) Dal ati heb gredu, rhag ofn y daw rhywbeth o rywle. Hyd yma, cadwaf at y trydydd dewis. A ddaw rhywbeth o’r “sefyllfa ddinoethol” y sonia JRJ amdani? Ond cytunaf, hyd yn oed os daw rhywbeth, rydym fel Cymry yn sobor o amharosd ar ei gyfer. Mae ein hadnoddau wedi mynd yn wan ddifrifol.

      • Marconatrix Mawrth 15, 2017 at 6:46 pm #

        Wel, mae’r Alban yn agored am fewnfudwyr … nôl i’r Hen Ogledd felly yn hytrach na chael eich llyncu gan Little England y Toriaid?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: