Ydi, mae hi’n ddrwg. Dyn o’i go’ yn Arlywydd America. Dyn annymunol iawn yn Arlywydd Rwsia. Y lladdfeydd ofnadwy yn y Dwyrain Canol. Ffrainc, unwaith yn rhagor, yn fflyrtian ag eithafiaeth adain-dde.
A dowch i Gymru. Argyfwng Y Cymro, sef ein hargyfgwng ni, y dosbarth proffesiynol Cymraeg, a’n hargyfwng fel Cymry’n gyffredinol. Sef bod llai ohonom.
Ond y peth gwaethaf un. Edrychwch eto ar flog 9 Mawrth.
Dywedaf eto, dyma’r mater pwysicaf i godi yng Nghymru o fewn fy nghof gwleidyddol i, a’r peth gwaethaf – os gwneir y dewis anghywir.
Ein hatgoffa’n hunain.
(a) O dan ‘Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn’ mae hawl i gynghorwyr wrthod cynnig ‘a fyddai, oherwydd ei faint, raddfa neu leoliad yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned’.
(b) Yn dilyn pwysau gan gwmni Horizon, mae adroddiadau y bwriedir newid hyn i ddarllen: hawl i wrthod ‘cynigion a fyddai yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned nad ellir ei osgoi neu ei liniaru yn foddhaol trwy ddefnyddio mecanwaith priodol i sicrhau mesurau lliniaru addas neu y gwneir cyfraniad i leihau’r effeithiau hynny.’
Ar ran nifer o fudiadau sy’n gwrthwynebu’r newid mae eu hysgrifennydd, Ieuan Wyn, wedi tynnu sylw i ddechrau at wrthuni’r gair ‘sylweddol’. Mae rhyw niwed bach yn iawn, ydi?
Ymhellach, ac yn gwbl briodol, mae’r mudiadau’n gwrthwynebu’r newid geiriad, sydd (yn ôl a ddeallwn) mewn ‘fersiwn ymgynghorol’ o’r polisi, hwnnw i’w ystyried gan arolygydd ar ran llywodraeth Cymru, yntau i gyflwyno’i adroddiad ym mis Mai. Fel y dywed Ieuan mewn gohebiaeth â’r cynghorwyr, mae ‘lliniaru’ yn rhagdybio niwed.
Ac am y ‘cyfraniad i leihau’r effeithiau hynny’ – ‘hwdiwch, mil o bunnau at Fenter Iaith Môn. Cerwch i ffwrdd yn blant da rŵan.’
Efallai fod gan yr arolygydd yr hawl i orfodi’r newid. Byddai hynny’n ddrwg, a drwg iawn hefyd. Ond gwaeth, a llawer iawn gwaeth eto, fyddai bod mwyafrif cynghorwyr y ddwy sir yn cydsynio.
Os digwydd hynny, dyna’i diwedd hi. Waeth heb â sôn a siarad ymhellach. Dyna’n diwedd ni’r Cymry. Diwedd. Dyna ni.
Ble saif, er enghraifft, ymgeiswyr Plaid Cymru yn yr etholiad sydd ar ddod? O blaid (a) uchod, ynteu o blaid (b)? Cwestiwn syml iawn.
Dyma ddwy adnod:
‘O diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef?’ (Mathew 5: 13.)
‘A hon yw’r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni.’ (Ioan 3: 19.)
Yng ngoleuni’r ddamnedigaeth ni ddaw neb i ‘achub’ Y Cymro.
Mae Llais Gwynedd – sydd â bron 20 o ymgeiswyr yn etholiadau’r Cyngor Sir ym mis Mai – wedi bod yn gyson feirniadol o’r Cynllun Datblygu ar y Cyd bondigrybwyll fel yr hoelen olaf yn arch y Gymraeg. Ond yn anffodus nid yw Plaid yn rhannu’r un weledigaeth – ac am hynny y bydd bythol gywilydd arnynt.