Y noson o’r blaen mi wyliais bennod gyntaf ffars ddu, ddu Evelyn Waugh, Decline and Fall. Roedd hi’n dechrau gyda chriw o labystiaid gor-gyfoethog Prifysgol Rhydychen yn malu eu coleg yn dipiau yn eu diod ac yn ymosod ar gyd-fyfyrwyr diniwed. Roedd eu dillad yn hynod o debyg i siwtiau cinio clwb y Bullingdon yn y llun enwog.
Bellach dyma’r ‘Bullers’ a’u tebyg wedi ei gwneud-hi go iawn. Y llanast mwyaf yng ngwleidyddiaeth Prydain o fewn cof neb ohonom.
A’r bennod ddiweddaraf yn y ffars hon? Jebel Taric, yn yr Arabeg Gwreiddiol, neu fel yr ydym ni’n ei hadnabod, Gibraltar !
Dyn hynod ddeallus a bardd gwreiddiol a diddorol dros ben oedd Robert Browning. Ond cafodd yntau ei foment o benwendid ymerodrol wrth daro cip drwy’r tawch ar y lwmpyn o graig lle trig y mwncwns ac sydd mor gysegredig yng ngolwg y Prydeiniwr:
Nobly, nobly Cape St. Vincent to the North-West died away,
Sunset ran, one glorious-blood-red, reeking into Cadiz Bay;
Bluish ’mid the burning water, full in face Trafalgar lay;
In the dimmest North-East distance dawned Gibraltar, grand and grey.
‘Here and here did England help me; how can I help England ?’ – say
Whoso turns as I this evening, turn to God to praise and pray,
While Jove’s planet rises yonder, silent over Africa.
Nid ffôl o gerdd, cofiwch, – pa mor ffôl bynnag yw’r syniad.
Yn groes i Loegr-a-Chymru (waeth inni arfer â’r heiffenau bellach) pleidleisiodd Preswylwyr y Graig 97 % dros aros yn y Gymuned Ewropeaidd. Mae Theresa am amddiffyn eu hawl i’r pen, – yn wahanol i hawl gwlad arall, nes atom, sydd hefyd am aros i mewn. A heddiw mae’r Gweinidog Amddiffyn, Michael Fallon, a’r cyn-arweinydd Torïaidd, Michael Howard, am i’r Santes fod yn Thatcher arall ac arwain Lloegr unwaith eto i ryfel buddugoliaethus yn erbyn yr hen ‘Sbaengwn’ yna (chwedl Morrisiaid Môn) !
Ble mae Syr Francis Drake ?
Gwamalrwydd o’r naill du eto. Sôn yn hapus braf am fynd i ryfel yn erbyn gwladwriaeth sydd, tan ddydd yr ymwahaniad – os daw hwnnw hefyd – yn gyd-aelod â ni yn y Gymuned, ac yn gyd-aelod o NATO. Mae’r Sefydliad Prydeinig y tro hwn wedi ei osod ei hun mewn twll ofnadwy, a’i strancio yn y twll yn mynd yn fwy honco bob dydd. Darllenwch, mewn difrif, flog Craig Murray ar y bennod ddiweddaraf hon !
Yn y cyfamser, os na ddaw rhywbeth yn o sydyn i’r adwy, dyma ninnau’r Cymry’n wynebu tranc ein hunig bapur newydd cenedlaethol, wythnosol. Does gennym bellach ddim cyfryngau i’n hatgoffa’n hunain o argyfwng Prydeindod ac i ddal ar yr awr.
Pathetig o bobl.
Gadael Ymateb