Dyma etholiadau’r cynghorau sir yn dod, ac enwau’r holl ymgeiswyr yn hysbys.
Fe wynebir cyngor newydd Gwynedd, beth bynnag fydd ei gyfansoddiad gwleidyddol, gan y cwestiwn pwysicaf i ddod i’w sylw yn ei holl hanes, sef a newidir y polisi iaith a chynllunio i gyd-fynd â dymuniadau cwmni Horizon.
Bydd gofyn dewis rhwng:
(a) Y GEIRIAD GWREIDDIOL. Y gall cynghorwyr wrthod cynnig a “fyddai, oherwydd ei faint, raddfa neu leoliad yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned”.
a
(b) Y GEIRIAD NEWYDD, a awgrymir yn dilyn pwysau gan Horizon. Fod hawl i wrthod “cynigion a fyddai yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned nad ellir ei osgoi neu ei liniaru yn foddhaol trwy ddefnyddio mecanwaith priodol i sicrhau mesurau lliniaru addas neu y gwneir cyfraniad i leihau’r effeithiau hynny.”
Mae’r gair ‘sylweddol’ yn (a) yn dramgwydd ynddo’i hun, ond down at hyn eto. Y cwestiwn heddiw i’r ymgeiswyr, hen a newydd, yw : a ydych o blaid (a) ynteu a ydych o blaid (b) ? Mae’r dewis yn berffaith glir a syml ac nid oes lle i amwysedd. Mater o’n parhad ni’r Cymry ydyw.
Byddai’n dda meddwl fod digon o ymgeiswyr yn y maes a fydd yn gwbl derfynol ddiamwys yn erbyn (b) ac na chytunant â’r newid polisi hwn mewn unrhyw sefyllfa na than unrhyw amodau.
Fel un sydd bellach wedi mynd yn bleidleisiwr achlysurol iawn i Blaid Cymru, dywedaf wrth ymgeiswyr y Blaid : os dangoswch unrhyw amwysedd ar y cwestiwn hwn mi fotiaf yn eich erbyn, hyd yn oed pe bai raid imi fotio i goes brwsh.
Na foed unrhyw wamalu ar y mater hwn, y mater pwysicaf a all fyth ddod i’ch sylw.
Da iawn. Oes bwriad anfon y neges at bob ymgeisydd (trwy e-bost)?
Er gwybodaeth bu Pwyllgor Cynllunio Parc Eryri’n trafod y Cynllun Datblygu Lleol ddydd Mercher. Ceisiais ddiddymu’r gair “sylweddol” – oherwydd ei amwysedd – o Bolisi 18 sef y byddid yn “gwrthod datblygiad fyddai, oherwydd ei faint, graddfa neu leoliad, yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned”. Fodd bynnag methaint fu fy ymdrech ar ôl i BOB UN o aelodau Plaid Cymru ar y Pwyllgor – gan gynnwys y deilydd porffolio iaith yng Nghabinet Cyngor Gwynedd – bleidleisio yn erbyn fy ngynnig. Y wers yw peidiwch â phleidleisio dros ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholiad ym mis Mai os ydych am warchod Cymunedau Cymraeg Gwynedd oherwydd os y bydd Plaid yn cael grym eto’r tro yma bydd difodiant ein hil “mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw”. Rydych wedi’ch rhybuddio.