Os mai (b) fydd y dewis, dyna’i diwedd hi

14 Ebr

Dyma lythyr yr oeddwn wedi gobeithio’i weld yn Y CYMRO heddiw. Dyna ni. Trio eto,
Annwyl Olygydd,

Diddorol oedd darllen (Y CYMRO, 7 Ebrill) am “gam ymlaen” tuag at adeiladu Wylfa B (neu “Wylfa Newydd”) trwy i’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear gymeradwyo cais cwmni Horizon am Drwydded Safle. Cam arall tuag at yr un nod fyddai bod Cynghorau Sir Gwynedd a Môn, drwy eu “Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd”, yn awr yn newid eu polisïau iaith a chynllunio er mwyn rhwyddhau’r ffordd i’r cwmni niwclear.

Yn union wedi’r etholiadau ddechrau Mai bydd gofyn i’r ddau gyngor newydd wneud dewis rhwng dau eiriad polisi. Gallwn ddweud heb rithyn o betrustod mai dyma’r dewis pwysicaf i wynebu’r ddau awdurdod oddi ar eu sefydlu, ac yn wir y dewis mwyaf tyngedfennol erioed yn hanes llywodraeth leol yng Nghymru.

Bydd gofyn dewis UN AI (a) NEU YNTEU (b) isod:

(a) O dan Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn mae hawl i gynghorwyr wrthod cynnig “a fyddai, oherwydd ei faint, raddfa neu leoliad yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned”.

(b) Yn dilyn pwysau gan gwmni Horizon, mae adroddiadau y bwriedir newid hyn i ddarllen: hawl i wrthod “cynigion a fyddai yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned nad ellir ei osgoi neu ei liniaru yn foddhaol trwy ddefnyddio mecanwaith priodol i sicrhau mesurau lliniaru addas neu y gwneir cyfraniad i leihau’r effeithiau hynny.”

Man gwan yn (a) yw’r gair “sylweddol” yna, a dylai’r ddau gyngor ei ailystyried. Ond yn gyntaf oll down at y dewis clir a syml rhwng (a) (fel y saif) a (b), ac ar y mater hwn dylai pob ymgeisydd yn yr etholiadau ateb i’w gydwybod ac i’r cyhoedd. Ystyr (b) yw nad y cynghorau eu hunain fyddai’n llunio polisïau mwyach, ond cwmni Horizon. Byddai’n ddiwedd llywodraeth leol.

Mae’r dewis yn arbennig berthnasol, mentraf awgrymu, i ymgeiswyr Plaid Cymru. Os mai (b) fydd eu dewis, dyna’i diwedd hi. Diwedd pob ymddiriedaeth yn y Blaid. Diwedd llawer peth arall hefyd.

Dafydd Glyn Jone

Bangor

Ac yn awr darllenwch yr adroddiad ar yr un mater Y CYMRO heddiw, t, 3.

Advertisements

2 Ymateb to “Os mai (b) fydd y dewis, dyna’i diwedd hi”

  1. moelfre Ebrill 15, 2017 at 8:15 am #

    Cytuno yn gryf. Mae gennym brofiad yma yn LLanaelhaearn pan yn ceisio a datblygu tyrbin gwynt cymunedol lle y bu i ni gynnwys adroddiad ardrawiad iaith fel rhan or cais cynllunio. Ymateb y swyddogion oedd nodi 1. Nid oedd rhaid i ni wneud hyn. 2. Toedd dim gwerth yn yr adroddiad ac nad oedd ei angen ar gyfer gwneud penderfyniad ar y cais cynllunio ei hyn,Yn yr un modd fe wrthodwyd adroddiad ar fuddion economaiddd y datblygiad er bod yr incwm ir pentref yn 3 miliwn dros 20 mlynedd. Fe wrthodwyd y cais ar sail effaith ar fwynderau yr olygfa. Wrth gwrs gyda Wylfa B mae’r achos economaidd yn cael sylw blaenllaw ac mae’r effaith ar fwynderau yn eilradd. Mae eu agwedd at yr iaith yn sarhad ac os y bydd opswin b yn cael ei fabwysiadu bydd yn bechod anfaddeuol. Mae angen i aelodau fod yn ddewr a mynd yn groes i swyddogion a herio eu penderfyniadau sydd ar ddiwedd y dydd yn un lygeidiog a rhagfarnllyd.

    • glynadda Ebrill 15, 2017 at 9:56 am #

      Ac o blith cynghorwyr Plaid Cymru mae gofyn inni wybod gan bwy mae’r sylwedd. Beth yw’r sefyllfa ym Môn,wn i ddim, ond yng Ngwynedd byddai gofyn i BC ennill tua 38 sedd i sicrhau mwyafrif dros bawb a rheolaeth ar y cyngor. O blith y nifer hwnnw, byddai’n dda petai yna fwyafrif, dyweder 20, a fyddai’n barod i ddatgan na byddant yn cydsynio ar unrhyw gyfrif nac mewn unrhyw sefyllfa â’r newid geiriad y mae Horizon yn pwyso amdano. Os ceir yr ugain hwnnw, dylent wedyn ethol arweinydd i’r cyngor o’u plith eu hunain, ac iddo yntau/hithau ddewis cabinet o rai cwbl gadarn ar y mater hwn, a rhai nad ydynt hyd yma wedi baeddu eu dwylo drwy ganiatáu i bethau fynd i’r fath stad. Llaw farw fu Plaid Cymru yng Ngwynedd dros y blynyddoedd diwethaf — ymosod ar gymunedau drwy gan ysgolion a llyfrgelloedd, cwtogi gwasanaethau’r amgylchedd, a’r helynt chwerthinllyd ynghylch ysgolion ardal y Bala. Dyma gyfle i’r Blaid ganfod ei ffordd yn ôl tuag at ei gwir bwrpas a thuag at wireddu dymuniadau ei chefnogwyr hir-ymarhous. Ble mae’r ugain?

      Gwerth dwyn i gof hefyd, pan soniwyd gyntaf am y newid geiriad, mai arweinydd Cyngor Môn (Annibynnol) a fynegodd anfodlonrwydd, nid arweinydd Cyngor Gwynedd (PC)

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: