Cwestiwn i enillwyr Gwynedd: pwy fydd yn rheoli? Chi? Ynteu Horizon?

5 Mai

“Gobaith yn drech na phrofiad” oedd crynodeb enwog Dr. Johnson o’r penderfyniad i ailbriodi. Gallai’r hen dwmpath ddweud rhywbeth tebyg am lwyddiant Plaid Cymru yn etholiadau Gwynedd ddoe. Yn Arfon a Meirion mae o hyd garfan gref o ffyddloniaid â’u pleidlais dros yr hyn y dylai Plaid Cymru fod, ac sy’n fodlon edrych heibio unwaith yn rhagor i’r hyn yw hi ac a wna hi. Gyda chau ysgolion, cau llyfrgelloedd, torri ar ymweliadau’r lorri ludw, codi’r tâl ychwanegol ar wastraff gardd, fe ymdrechodd hi’n galed i golli. Ond dyma ennill tir, a sicrhau mwyafrif dros bawb.

Yn awr mae gofyn i’w 41 cynghorydd, rhai hen a rhai newydd, benderfynu’n sydyn ar rai pethau. Nos Lun, rwy’n deall, byddant yn ethol arweinydd i’r cyngor. Rhaid iddynt hefyd ystyried a dod i benderfyniad ar y mater mwyaf sy’n debyg o’u hwynebu, y mater mwyaf yn hanes yr awdurdod hyd yma, a’r mater mwyaf i ni’r Cymry heddiw.

Pwy fydd i reoli?

Chi, ein cynrychiolwyr, wedi i ni eich ethol ddoe?

Ynteu cwmni Horizon?

Mae’r dewis yn llachar o glir, a dyma fo unwaith eto:

(a) O dan Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn fel y saif mae hawl i gynghorwyr wrthod cynnig “a fyddai, oherwydd ei faint, raddfa neu leoliad yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned”.

(b) Yn dilyn pwysau gan Horizon, fe gynigir newid hyn i ddarllen: hawl i wrthod “cynigion a fyddai yn achosi niwed sylweddol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned nad ellir ei osgoi neu ei liniaru yn foddhaol trwy ddefnyddio mecanwaith priodol i sicrhau mesurau lliniaru addas neu y gwneir cyfraniad i leihau’r effeithiau hynny.”

O blith y 41 heddiw, a oes gennym fwyafrif, dyweder 22, a fydd yn bendant a therfynol yn gwrthod (b)? Ac a fydd wedyn, am resymau sydd wedi eu gwyntyllu ddigon, yn dileu’r gair “sylweddol” o (a)?

Os nad oes, dyna’i diwedd hi.

Meddyliwch yn galed dros y Sul yma, gynghorwyr.

Gadael sylw