Dim refferendwm

27 Meh

Dyma lywodraeth yr Alban yn cyhoeddi na bydd gyrru ymlaen am refferendwm yn y dyfodol agos. Gweld beth a ddaw o’r Brexit i ddechrau, ac ati …

Daliaf innau at fy nghred na bydd Brexit o gwbl, ond ’tae waeth am hynny heddiw.

Bydd y pleidiau Prydeinig yn croesawu’r cyhoeddiad fel buddugoliaeth fawr iddyn nhw. Mae hynny’n naturiol. Ond gadewch inni ofyn eto, pam yr oedden nhw gymaint yn erbyn? Ofn colli wrth gwrs. Bydd hyn yn rhyddhad mawr i’r unoliaethwyr, ond fe’i darlunnir fel cam yn ôl ar ran yr SNP, ac fel arwydd o wendid. Hynny’n naturiol hefyd.

Ond, i fod yn gyson â dadl y blog hwn droeon o’r blaen, dywedaf eto mai gwell peidio bod yn gaeth i’r syniad o refferendwm. Anaml y mae’n offeryn da mewn gwleidyddiaeth. ‘Mae wythnos yn amser hir …’. Mae pedair blynedd eto tan etholiad Senedd yr Alban. Fe all etholiad San Steffan ddod yn fuan … ond fe all beidio. Does wybod beth a ddaw.

O’r gorau, taweled y sôn am refferendwm. Bwried yr SNP ymlaen ag atgyfnerthu ei safle, a chynyddu ei mwyafrifoedd eto os yn bosibl. Os daw’r awr a’r cyfle, datganed ei bwriad i gyhoeddi annibyniaeth yr Alban, a gadawed i’r OCHR ARALL weiddi am refferendwm.

 

Advertisements

3 Ymateb to “Dim refferendwm”

  1. Marconatrix Mehefin 27, 2017 at 11:56 pm #

    Ydi, wir, dyna fel mae petha yn yr Alban. Ond beth am Gymru fach druan rwan?

    • glynadda Mehefin 29, 2017 at 11:25 am #

      Yn wir, pwy a ^wyr? A yw’r Alban wedi cymryd cam hanesyddol yn ^ol? Ac am ‘Gymru fach druan’, ai dyma’r diwedd? Mae mudiad newydd YES CYMRU’n barnu’n wahanol. Cawn weld, cawn weld …

      • Marconatrix Gorffennaf 4, 2017 at 9:22 am #

        Dwi newydd wedi gweld eich ateb uchod. Rhaid i fi chwilio _Yes Cymru_ dwi’n meddwl. “Dyddiau Dlddorol” yn wir 🙂

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: