Stori ryfedd

20 Awst

Stori fach ryfedd o’r Alban ddoe. Nicola Sturgeon, yn ôl adroddiad GOLWG 360, ‘yn anhapus gydag enw ei phlaid’. ‘Pe gallwn droi’r cloc yn ôl i ddyddiau sefydlu fy mhlaid, fyddwn i ddim yn dewis yr enw Scottish National Party.’ Pa enw arall fyddai hi wedi ei roi tybed? A’r peth rhyfedd yw fod hyd yn oed y ffurf gymharol niwtral, ‘national’ yn ei phoeni, heb ddod at y ffurf a fu’n fwy tramgwyddus i rai pobl, ‘nationalist’.

Yn ei blynyddoedd cynnar ‘Plaid Genedlaethol Cymru’ oedd enw’r blaid sydd bellach heb enw ystyrlon, ac yn Saesneg fe’i gelwid ‘The Welsh Nationalist Party’. Am ryw ugain mlynedd nid ymddengys y bu hyn yn dramgwydd i neb. Ond yn wir, yn y ddarlith a’r pamffled Egwyddorion Cenedlaetholdeb (1926), y datganiad cyntaf un o bolisi a chyfeiriad y blaid, fe rybuddiodd Saunders Lewis yn berffaith glir y gall ‘cenedlaetholdeb’ olygu gwahanol bethau, a bod rhai o’r pethau hynny yn bendant i’w hosgoi. (Yr un ddarlith sy’n cynnwys y siars enwog ‘rhyddid, nid annibyniaeth’. O ddarllen y geiriau yn eu cyd-destun, gellir gweld yn iawn beth a olygai S.L. ; ond dyma ddatganiad a achosodd lawer iawn o drafferth.)

Rhwng hynny a diwedd yr Ail Ryfel Byd bu’r ffurfiau annerbyniol ar genedlaetholdeb ar waith yn Ewrop, – ond mewn cyfuniad. Yr oedd Nazïaeth yn union yr hyn yr honnai fod, sef ‘sosialaeth genedlaethol’. Coctel marwol ydoedd o ffurfiau gwenwynig ar sosialaeth ac ar genedlaetholdeb fel ei gilydd. Y ‘cenedlaetholdeb’ a gafodd y rhan fwyaf o’r bai yn y gwledydd democrataidd wedi’r rhyfel; llwyddwyd rywsut neu’i gilydd i esgusodi’r ‘sosialaeth’, a ddylasai ddwyn o leiaf hanner y cyfrifoldeb am y cyflafannau erchyll. Ond cyfeiriai Saunders Lewis yn wastad at ‘sosialaeth Hitler’, ac yn hynny yr oedd yn iawn.

Parhaodd y swildod ynghylch ‘cenedlaethol’ a ‘cenedlaetholdeb’, ac amlwg ei fod yn bodoli o hyd. Ond os ydym yn mynd i boeni mwy am hyn, onid y pen-draw ddylai fod gollwng y gair ‘Cenedlaethol’ o enwau Llyfrgell, Amgueddfa, Eisteddfod, Cynulliad a ‘Choleg Cymraeg’? A’i ollwng yr un modd o enwau sefydliadau … ym … ‘Cenedlaethol’ yr Alban?

Porthir yr ofnau a’r petrustod yn gyson gan yr hen wladwriaethau ymerodrol a’u lladmeryddion, ac yn fwyaf oll gan y wladwriaeth Brydeinig, h.y. Seisnig. Ni bu’r cenedlaetholwr mwyaf yn y byd, sef y Sais, erioed yn genedlaetholwr wrth gwrs. O na, gwladgarwr, ‘patriot’ bob amser. ‘Gwladgarwch’ (patriotism) yw’r un neis; arferir gan Saeson. ‘Cenedlaetholdeb’ (nationalism) yw’r un ddim-yn-neis; arferir gan bobloedd israddol. Y gwir yw fod y ddau derm yn gyfnewidiadwy, a chyn barnu unrhyw ‘genedlaetholdeb’ dylem bob amser edrych beth sy tu ôl i’r ‘-oldeb’, sef edrych ar holl swm polisi’r blaid sy’n ei galw’i hun yn ‘blaid genedlaethol’. Os edrychwn felly ar ‘genedlaetholdeb’ Cymreig neu Albanaidd, buan y down i weld mai ei swm a’i sylwedd, ei ystyr, yw ‘gwrth-imperialaeth’. A’i ddeall felly, pwrpas ‘cenedlaetholdeb’ yw sefydlu gwladwriaeth. Unwaith y sefydlir y wladwriaeth nid oes angen cenedlaetholdeb, er y gall yr hyn a fu’n ‘blaid genedlaethol’ ddal i’w harwain, am mai ganddi hi yr oedd y weledigaeth o’i chreu. O ran hynny, nid oes angen gwladgarwch ychwaith mewn gwladwriaeth annibynnol, ac eithrio lle bo ynddo ddyhead i newid neu i ail-greu’r wladwriaeth, fel yn anthem Blake, ‘Jerusalem’. Ble bynnag y mae gwladwriaeth, y duedd a’r perygl yw i ‘wladgarwch’ fynd i olygu agwedd ufudd neu daeogaidd tuag at y wladwriaeth honno, sef yn ymarferol tuag at y dosbarth sy’n rheoli’r wladwriaeth.

Wn i ddim beth arall i’w gynnig mewn ymateb i sylw annisgwyl Nicola …

§

… Ond ’rhoswch! Hanner munud! Mae newydd fy nharo!

Os yw’r ‘cenedlaethol’ yn broblem, beth am i’r SNP wneud fel ei chyfatebydd Cymreig, a’i galw’i hun yn ‘A Party’ ?

Byddai’n sgubo’r wlad !!

 

Advertisements

5 Ymateb to “Stori ryfedd”

  1. Marconatrix Awst 20, 2017 at 12:26 pm #

    Ar hyn o bryd, o leia, enw gwell i’r SNP fydde ‘falla “Scottish Independence Party / Pàrtaidh Neo-eismeileachd na h-Alba”, sef “Plaid Annibyniaeth yr Alban”. Dyna, dwi’n credu, fydde dewis NS os yn bosib …

    Am y gân ‘Jerusalem’, mae hi’n awgrymu fod England yn bod ‘nôl yn y ganrif gyntaf, dim sibrwd am Brydain. Dyna i chi Patriotism pur y Sais, ond oes?

    • glynadda Awst 20, 2017 at 1:35 pm #

      Roedd TIR Lloegr yno, neu dir yr hyn a DDAETH y Lloegr, ac mae hyn yn iawn at bwrpas y gerdd, hyd y gwelaf i. Cân am ‘Loegr amgen’ yw hi, cân am ail-greu Lloegr yn ôl gwerthoedd gwahanol i’r ‘gwladgarwch’ banál, traddodiadol. Dylai fod yn anthem genedlaethol Lloegr newydd, annibynnol. Ond tasg Cymru a’r Alban yw dwyn y lloegr honno i fodolaeth, tasg nas cyflawnir byth gan y ‘Chwith Seisnig’. Diolch Marconatrix.

      • Marconatrix Awst 20, 2017 at 3:59 pm #

        Dwi’n gref ar blaid y Loegr Amgen ‘na, ‘run beth â awdur y gân, ac un ardderchog ydi hi.

        OND i’r Sais arferol “yn y stryd” does dim gwahaniaeth rhwng ‘Lloegr’ a ‘Phrydain’, boed hynny mewn amser neu mewn tirwedd. Felly, sywaeth, mae’r gân ‘na â’i chyffelyb yn bwydo eu cenedolaetholdeb/imperialaeth isymwybodol nhw.

  2. Richard Owen Awst 21, 2017 at 9:50 pm #

    Ysgrif dda iawn, Glyn Adda. Mae’r cenedlaetholwyr wastad tan gabl, er eu bod yn amrywio’n fawr iawn yn eu daliadau. Ychydig sy’n gwneud y pwynt fod Attlee a Stalin yn disgrifio’u hunain yn ‘sosialwyr’, sy’n dangos cymaint o amrywiaeth oedd a sydd o fewn y gwersyll hwnnw hefyd. Ond rhaid anghytuno â chi ar un pwynt: mae gan y blaid genedlaethol Gymreig enw ystyrlon, sef ei henw swyddogol, a’r enw a ymddengys ar y papur pleidleisio, sef ‘Plaid Cymru – The Party of Wales’.

    • glynadda Awst 22, 2017 at 8:21 am #

      Ond mae aelodau, yn cynnwys arweinwyr — a llawer o sylwebyddion o’r tu allan yr un modd — yn dal i’w galw hi’n PLAID. A gwelir posteri a thaflenni yn dweud ‘PLAID. Plaid Cymru’. Nyts !!’

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: