Yr hen, hen broblem

31 Aws

Pryder a phanic ofnadwy heddiw, yn ôl Newyddion S4C a BBC Cymru Fyw.

Gostyngiad o 10% oddi ar 2013 yn nifer y Cymry sy’n mynd i brifysgolion “Grŵp Russell”, sef “rhai o brifysgolion mwyaf nodedig y DU”.

Hynny yw, dim digon o’n plant galluocaf yn gadael Cymru.

Mae llywodraeth Cymru’n cymryd sylw ac yn addo cymryd camau i ddelio â’r broblem, sef yw hynny ymorol bod y gwaedu mawr o Gymru bob mis Medi yn parhau ac efallai’n cynyddu. Sefydlwyd eisoes ryw “Rwydwaith Seren” i ofalu bod hyn yn digwydd.

Beth am ddelio â’r wir broblem, a’r hen broblem, sef y gwrthwyneb? Y ffaith bod yr ecsodus flynyddol ddidrugaredd hon yn sicr o adael Cymru’n dlotach, dwpach gwlad, ac yn un o’r ffactorau sy’n sicr o ddwyn yn nes ein difodiant terfynol, a hynny cyn pen llawer o amser.

Yr wyf wedi traethu llawer ar hyn dros y blynyddoedd diwethaf, mewn print ac ar y blog. Nid wyf erioed wedi dweud dim am gymhellion unigolion, nac yn dweud hynny heddiw, nac yn bwriadu ei ddweud eto. Ffenomen gymdeithasegol sydd yma, sef dosbarth proffesiynol di-hyder yn ewyllysio’i ddinistr ei hun. A’r broblem yn endemig ymhlith y dosbarth proffesiynol Cymraeg, a Chymraeg-ddibynnol. Ac fel yr wyf wedi dweud ddegau o weithiau o’r blaen, mae’n rhaid wrth ateb cyffredinol, gwrthrychol, amhersonol, sef rhoi gwobrau ariannol anwrthodadwy o uchel i’r myfyrwyr sy’n dewis aros yng Nghymru. Ni ddywedaf mai dyna a ddylai llywodraeth Cymru ei wneud; dywedaf yn hytrach mai dyna y byddai llywodraeth Cymru yn ei wneud pe bai hi’n gwir ddymuno adeiladu ac atgyfnerthu’r wlad dan ei gofal.

Gadewch inni’n hatgoffa’n hunain unwaith eto. Am gyfnod byr, ganol y degawd cyntaf, ildiodd y llywodraeth Lafur i berswâd y tair plaid arall a dechrau rhoi rhyw fymryn o fantais i’r rhai a arhosai yng Nghymru. Yr oedd peth ffrwyth yn dechrau dangos. Ond daeth hyn oll i ben pan wnaed cytundeb “Cymru’n Un” rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ac mae lle i dybio fod a wnelo hynny ag argymhelliad gan banel dan gadeiryddiaeth yr Athro Merfyn Jones.

Heddiw daeth rhyw ebwch bach ar yr ochr iawn oddi wrth Blaid Cymru, ond mae eisiau llawer iawn mwy. Mae eisiau dyrnu Llafur yn galed iawn ar y mater hwn, mater hollol ganolog i’n parhad. Ond a allwn ddisgwyl hynny bellach gan “wrthblaid” sydd wedi colli cymaint o hygrededd? (Sut y daw hi byth dros benderfyniad diweddar ei chynghorwyr yng Ngwynedd, dyn a ŵyr.)

§

A chyda llaw. Mae adroddiad Cymru Fyw yn cynnwys y gystrawen anfad, fabïaidd, ddiystyr “TYDI’r rhan fwyaf o brifysgolion HEB ostwng …” Olygyddion BBC Cymru Fyw, prynwch gopïau o’m llyfryn i, Iawn Bob Tro (£8.00, gyda disgowntiau am archebion da), astudiwch dudalen 43 a dysgwch y wers cyn cyhoeddi SGRWTSH fel hyn eto.

Advertisements

2 Ymateb to “Yr hen, hen broblem”

  1. Alwyn Gruffydd Medi 3, 2017 at 11:00 am #

    Buasai cyfyngu’r £6,000 o ddiscownt yn ffioedd myfyrwyr sy’n mynychu colegau Cymru’n unig yn ddechrau da. Ond hyd y gwelaf i does na neb sy’n troedio coridorau grym ym meddu ar y weledigaeth i awgrymu hynny. Ai am eu bod wedi anfon eu plant eu hunain i Loegr yw’r maen tramgwydd? Er bod Prifysgol Cymru wedi bod yn ddigon da byth i’r rhieni!

    • glynadda Medi 3, 2017 at 5:22 pm #

      Arweinir dyn i feddwl fod cenhedlaeth o genedlaetholwyr erbyn hyn wedi magu cenhedlaeth o Brydeinwyr. Mae enghreifftiau amlwg ac enwog, a llawer o enghreifftiau mwy dinod hefyd. Pam yn union y digwyddodd hyn? Cwestiwn i’r arbenigwr mewn seicoleg gymdeithasol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: