Gwleidyddol

19 Medi

Ie, ‘rhyddid nid annibyniaeth’ meddai Saunders Lewis yn 1926, yn y datganiad cyntaf o amcanion y Blaid Genedlaethol newydd.  Gallwn weld beth oedd ganddo.  (1)  Yn ei eiriau ei hun; ‘Nid hyd yn oed ryddid di-amod. Ond llawn cymaint o ryddid ag a fo’n hanfodol i sefydlu a diogelu gwareiddiad yng Nghymru; a rhyddid yw hwnnw a fydd nid yn unig yn lles i Gymru, ond hefyd yn fantais ac yn  ddiogelwch i Loegr a phob gwlad arall a fo’n gymydog inni.’   (2)  I S.L. a chyd-sefydlwyr y Blaid, yr oedd blas rhethreg cenhedlaeth o’r blaen ar y gair ‘annibyniaeth’; fe ganwyd ac fe areithiwyd cymaint amdano gan yr union genhedlaeth ag oedd wedi goddef y Welsh Not yn yr ysgolion.

Ond effaith datganiad 1926 fu gwneud y Blaid Genedlaethol dros y degawdau wedyn a hyd at y dydd hwn yn ansicr beth yr oedd am alw’r math o ymreolaeth yr oedd yn ei geisio.  ‘Statws Dominiwn’ oedd y geiriau ym mlynyddoedd canol yr ugeinfed ganrif.  Golygai hyn annibyniaeth i bob pwrpas, gan mai dyna oedd – ac sydd – gan Awstralia, Seland Newydd a Chanada;  ond galluogai beidio â defnyddio’r gair anesmwythol.   Arddelwyd ‘annibyniaeth’ yn weddol ddiweddar gan Gynhadledd y Blaid, ond erys cryn betruster i drafod beth y mae’n ei olygu ac yn wir i’w grybwyll  mewn llenyddiaeth etholiad.

Y drwg gyda ‘rhyddid’ yw nad yw’n ddynodiad cyfansoddiadol. Tri o’r rheini sydd: datganoli, ffederaliaeth ac annibyniaeth.  Mae’r datganoli gennym, ond gyda theimlad cynyddol nad yw’n ateb i’n problemau,  a bellach hefyd y sylweddoliad y gellir ei ddwyn oddi arnom.  (‘Power devolved – power retained’, ys crynhodd J. Enoch Powell flynyddoedd llawer yn ôl.)  Am y ffederaliaeth, rwyf wedi ceisio dweud mewn blogiau o’r blaen fy nheimlad ei fod wedi ei oddiweddyd gan amgylchiadau.   Erys annibyniaeth.

Gan hynny roeddwn yn falch o ddod adre gyda mi o’r Eisteddfod gopi o’r llyfryn ,Annibyniaeth yn dy Boced / Independence in your Pocket a gyhoeddir gan y mudiad ‘Yes Cymru’.  Nid wyf am ei adolygu’n drefnus o gwbl, dim ond nodi rhai meddyliau sy’n codi wrth ei ddarllen.

Yn y ‘Cyflwyniad’ darllenwn:   ‘Mae gwladgarwch at Gymru yn ddwfn yn ein pobl.  Fe’i gwelir yn amlwg ym mhob gêm rygbi neu bêl-droed, yn ei holl amrywiaeth ac angerdd modern, cymhleth.  Ond nid rhywbeth a deimlwn ar ddiwrnod gêm yn unig yw Cymreictod.  Mae’n rhywbeth y bydd pob un ohonom ni’n dod ar ei draws yn ein bywyd pob dydd, yn ein hymwneud â’n cymdogion a’n cydweithwyr, ein teuluoedd a’n cyfeillion.’

Gan gadw’r ffrwyn ar fy hen, hen argyhoeddiad nad oes unrhyw gysylltiad rhwng teimlad cae chwarae a theimlad gweddill bywyd, dewisaf  heddiw beidio â gwrthddadlau’r paragraff hwn.  Gosodaf ar y bwrdd yn hytrach beth arall sydd o leiaf mor wir.  ‘Yn ddwfn yn ein pobl’ yr un pryd yn union, mae’r gwrthwyneb.  Mewn sefyllfa ar ôl sefyllfa, dewis ar ôl dewis, daw allan mai’r ail beth mwyaf amhoblogaidd gan bobl Cymru yw’r iaith Gymraeg; ac mai’r peth mwyaf amhoblogaidd o’r cyfan yw eu bodolaeth eu hunain.

‘Pam lai?’  Gofyn pennod o’r llyfryn (t. 10).  Yr ateb yn nwfn calon rhan helaeth o boblogaeth Cymru, ac ymddengys yn ddigon aml mai’r rhan helaethaf, yw ‘am fod y Cymry’n bobl israddol’. Credir hyn, yn naturiol, gan (a) y mewnfudwyr neu’r coloneiddwyr, fel y credodd coloneiddwyr erioed ac ym mhob man am ‘y brodorion’.  Ond fe’i credir (b) gan y ‘brodorion’ eu hunain hefyd oherwydd rhyw bethau sy’n mynd yn ôl ymhell.  Ni ellir gwneud dim ynglŷn ag (a).   Ond a ellir rywfodd, ryw dro, ddiddyfnu (b) o’u cred yn eu hisraddoldeb eu hunain?   A all unrhyw beth beri hynny ond dymchweliad y wladwriaeth Brydeinig unedol?

Llwyddiannau Plaid Genedlaethol yr Alban gyda’i pholisi diedifar o annibyniaeth a’i hamharodrwydd llwyr i ystyried dim llai, dyna, o bob ffactor, y prif ffactor sy’n peri ei bod yn gynyddol anodd i ninnau ystyried unrhyw ddewis arall.   Ffurfiwyd ‘Yes Cymru’ yn 2014, a thybed a wyf yn iawn wrth glywed rhyw gymaint o dôn cyn-etholiad-Mai-’17 yn y llyfryn?  Y prif beth a ddigwyddodd yn yr etholiad hwnnw oedd bwrw mudiad annibyniaeth yr Alban gryn dipyn yn ôl.  Digwyddodd hyn drwy rym a phenderfyniad y sefydliad unoliaethol, a thrwy’r adnoddau oedd ganddo at ei alw, sef y papurau newydd  – nac anghofiwn hyn.  Ac nac anghofiwn chwaith am y BBC.   Ein disgwyliad rhwng Mehefin ’16 a Mai ’17 oedd y byddai Brexit yn cryfhau’r awydd am annibyniaeth yr yr Alban, ac yng ngrym y disgwyliad hwnnw y cyhoeddodd Nicola ei bod yn mynd am refferendwm arall.  Ond mae wythnos yn amser hir …   A all yr SNP adennill peth tir cyn etholiadau nesaf Holyrood a San Steffan, ynteu a ydym yn wynebu cyfnod hir o encilio ac ymrannau, fel sy’n dueddol o ddigwydd yng ngwleidyddiaeth yr Alban?  Ond pa beth bynnag a ddigwydd, nid yw’r SNP yn mynd i newid ei nod cyfansoddiadol.  ‘Annibyniaeth’ fydd yr alwad o hyd, boed blynyddoedd llwm neu flynyddoedd llawn, ac mae hynny’n gosod rhyw reidrwydd arnom ninnau.  Dyna’r unig ddewis ar y bwrdd bellach.

Am hynny rhaid croesawu ffurfio ‘Yes Cymru’, a dechrau creu canghennau ohono, a dechrau cynnal gweithgareddau, a chyhoeddi’r llyfryn hwn.  Ymddengys bod cenhedlaeth newydd ynglŷn ag ef, a byddai’n dda iawn gallu meddwl ei fod yn cynrychioli peth o’r ysbryd a fu mor amlwg yn ei absenoldeb yn ystod yr ugain mlynedd o ddatganoli.

A oes gwrthwynebiad?  O’r blaen ar y blog mi adolygais y gyfrol Pa Beth yr Aethoch Allan i’w  Achub?  (2013), ac yn rhai o benodau’r gyfrol hon fe gawn ddarllen y safbwynt na bydd annibyniaeth, nac unrhyw radd bellach o ymreolaeth, nac unrhyw ddatganoli, na dim o’r peth a elwir yn ‘genedlaetholdeb sifig’ yn help o gwbl tuag at y prif beth, sef diogelu’r Gymraeg, neu a’i roi fel arall sicrhau parhad y Cymry.  Ar yr olwg gyntaf gall y safbwynt hwn ein hatgoffa o ddau beth arall, annibynnol ar ei gilydd.  (1)   Rhybudd brawddeg olaf y ddarlith Tynged yr Iaith.   (2)   Hen draddodiad ‘cenedlaetholdeb diwylliannol’, seiliedig ar y dybiaeth nad oes yng Nghymru genedl wleidyddol ac mai trwy weithgareddau diwylliannol yn unig y gellir gobeithio goroesi.  Dyma safbwynt y mae’n rhaid ei barchu ac sydd fel petai’n magu rhyw berthnasedd newydd yn amgylchiadau’r blynyddoedd hyn.  Dim ond cofio bod rhai o’i brif gynheiliaid hefyd yn Brydeinwyr gwleidyddol o argyhoeddiad ac na buont heb ryw wobrau bach am fod felly.

Gan annog pawb i ddarllen  –  neu ailddarllen – Pa Beth yr Aethoch Allan … ?   a dal i ystyried ei ymresymiadau, yr wyf am roi’r wrth-ddadl i’r hyn y ceisiais ei grynhoi yn y paragraff diwethaf.  Deillia problem y Gymraeg o’r gred neu’r teimlad fod y bobl yn israddol.  Arwydd, bathodyn yw’r iaith. Ymreolaeth, statws gwleidyddol cyfartal â Lloegr, yw’r ateb, y feddyginiaeth, i’r teimlad o israddoldeb.  Petai mewn unrhyw fodd yn fater o ddewis rhwng y Gymraeg ac ymreolaeth, ni ddylem betruso am funud.  Ond nid felly y mae.  Ymgais agored i ddymchwel y wladwriaeth unedol (ac yn y pen draw, i orfodi Lloegr i’w hailgreu ei hun), drwy hynny yr adferir hyder coll y Cymry, ac o hynny y deillia adferiad y Gymraeg.  A glywaf eto’r rhybudd ‘ond ystyriwch Iwerddon’?   Ie, perthnasol ddigon o hyd.  Ni theimlodd y Gwyddel mo’r israddoldeb, mae ganddo wladwriaeth ers ymron i ganrif, – ac edrychwch ar yr Wyddeleg.  Gwir yn sicr, ond cynnyrch ffactorau gwahanol rwy’n meddwl.  Oherwydd Protestaniaeth, creodd y Cymry, o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen a chydag atgyfnerthiad mawr yn y ddeunawfed,  gwlwm o sefydliadau a fu’n gynhaliaeth i’w hiaith.  Ni allai hynny ddigwydd yn Iwerddon.

Camau a moddion tuag at yr annibyniaeth?  Sonia’r llyfryn am (a) refferendwm a (b) confensiwn cyfansoddiadol.  Am y refferendwm fel dyfais yr wyf wedi mynegi digon o amheuon mewn blogiau blaenorol;   y drwg bellach yw ei fod wedi dod yn gymaint rhan o’r dodrefn gwleidyddol fel ei bod yn anodd ei osgoi.   Am y confensiwn cyfansoddiadol, dyma yn sicr beth i’w ystyried ac i’w gynllunio’n ofalus.  Dylid mynd ymhellach.  Dylid galw senedd, os oes modd o gwbl dyfeisio dull boddhaol o gynrychiolaeth ynddi.  Bu rhai ohonom yn gobeithio y gellid gwneud hyn ar gyfer chwe chanmlwyddiant Senedd Machynlleth, 2004.   Wn i ddim a hoffai hyrwyddwyr ‘Yes Cymru’ ddarllen hen ysgrif a gyhoeddais yn Barn, Rhagfyr/Ionawr 2003/04.

 

 

 

Advertisements

2 Ymateb to “Gwleidyddol”

  1. William H Owen Medi 20, 2017 at 10:24 am #

    Cytuno nad yw’n bosibl mesur gwres cenedlaetholdeb drwy gefnogaeth chwaraeon. Wedi’r cyfan mae cynifer y tu allan i’r stadiymau sy’n byw yng Nghymru heb y diddordeb lleiaf yn hynt ein timau cenedlaethol. Mae’n hawdd i’r rhai sy’n byw yma osgoi popeth Cymreig. Drwy deledu lloeren mi allant fyw’n hapus yn gwylio sianeli rhanbarthol y tu allan i Gymru. Hynny yw nid oes raid cymhathu a’u bro fabwysiedig.

    • glynadda Medi 20, 2017 at 11:33 am #

      Diolch William.

      A gweler o ran diddordeb; (1) ‘Hen Lyfr Bach Lloyd George’, t. 18, eitem 22. (2) Stori’r hen G.A. ‘Y Llyfrau Gwyrddion’ yn y gyfrol ‘O’r India Bell a Storïau Eraill’.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: