Cyn bod y noson ar ben …

1 Hyd

Ni wyddom eto beth fydd y ffigurau o’r gorsafoedd hynny lle llwyddwyd i bleidleisio. Ambell sylw ‘mewn pensel’ felly.

Ar ôl poeni’n gynharach heddiw fod pymtheg o blismyn wedi eu hanafu, bu raid i’r prif gyfryngau Prydeinig erbyn Newyddion 10.00 adrodd am anafu cannoedd o’r Cataloniaid, a bu raid iddynt ddangos peth o drais arswydus yr heddlu Ffrancoaidd.

Dros y We, a diolch am hynny, gallwn gael darluniau llawer llawnach o’r llanast a grewyd gan wladwriaeth Sbaen, ac o nerth y gwrthsafiad hefyd.

Darlun, er enghraifft, o dyrfa gref wedi cau am nifer o’r plismyn fel na allai’r rheini symud. Bu’r dyrfa’n drugarog dros ben. Gallasai wneud yr hyn a wnaeth rhai o chwarelwyr Arfon ar ‘noson plismyn Manceinion’ yng Nghaernarfon, 1910. Fe geir yr hanes hwnnw mewn amryw o gofiannau Lloyd George, rhai yn gywirach na’i gilydd efallai. Yr adroddiad y byddaf i’n dibynnu arno yw eiddo E. Morgan Humphreys yn y gyntaf o’i ddwy gyfrol Gwŷr Enwog Gynt, tt. 15-17. Diwedd y stori fu i blismyn Manceinion gael eu hebrwng at y trên y bore wedyn i’w hanfon adref, – heb eu helmedau.

Darlun hefyd o’r fyddin fawr o dractorau yn treiglo’n bwyllog i lawr rhyw stryd gan ddod rhwng y plismyn a’r bobl a fynnai bleidleisio. Aeth fy meddwl yn ôl i Gapel Celyn. Onid oedd yno ryw ddau neu dri thractor a allasai gau’r ffordd yn 1957?

Heno bu raid i’r cyfryngau swyddogol ddweud, a dangos, rhai pethau. Croes i’r graen rwy’n sicr, oherwydd mae refferendwm y Cataloniaid, fel refferendwm y Cwrdiaid ddeuddydd yn ôl, yn embaras mawr i’r Sefydliad ledled y byd.

Gobeithio yn awr y bydd digwyddiadau heddiw o gymorth i fudiadau ymreolaeth eraill. Gobeithio y cymer y Sgotiaid sylw. Bu’r Cataloniaid yn gefnogol iawn iddyn nhw yn 2014.

Lle Cymru druan yn hyn oll ? Rhy ddigalon yw meddwl. Eto i gyd, cofiwn hyn:

Rwy’n cofio’n dda iawn mai’r mantra yn hanner cynta’r 1960au, y peth diogel, derbyniol i’w ddweud a’i gredu mewn cylchoedd a’u hystyriai eu hunain yn ddoeth a blaengar, oedd bod y byd yn symud yn ddi-droi’n-ôl at unedau mwy. Heddiw mae’r byd yn wahanol iawn.

Gallwn roi dyddiad a lleoliad i ddechrau’r newid. Caerfyrddin. 14 Gorffennaf 1966.

 

 

 

 

Advertisements

4 Ymateb to “Cyn bod y noson ar ben …”

  1. Jig Hydref 1, 2017 at 10:34 pm #

    Dim ond gobeithio- ddaw ein dydd…..
    Y tristaf yw gweld y gwledydd ‘gwar’ yn anwybyddu’r sefyllfa, neu hyd yn oed yn waeth yn cymryd ochr’ r gormeswyr. Adlais o’r 30au?

    • glynadda Hydref 2, 2017 at 9:10 am #

      Hanner maddau i’r Blaid Dorïaidd, ond meddyliwch mewn difrif am erthygl olygyddol y Guardian !! Gweler blog diweddaraf Craig Murray.

  2. Dei Tomos Hydref 2, 2017 at 10:51 am #

    Diolch am ein hatgoffa am ‘chwarelwyr Arfon’

    • glynadda Hydref 2, 2017 at 11:20 am #

      Noson i’w chofio ! Byddaf yn meddwl yn aml, petai Ll.G. wedi digwydd bod yn AS dros Sir Gaernarfon, yn hytrach na’r Bwrdeistrefi piwus, ansicr, gallasai hanes fod yn wahanol iawn. Gw. fy llyfr ‘Camu’n ^OL’, t. 98.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: