Yr iâr a’r atom

2 Rhag

Diddorol oedd darllen (GOLWG 360) am gwmni niwclear Horizon yn prynu cwt ieir i ysgol ym Môn. Da iawn yntê. F’atgoffa am stori mewn hen, hen gomic ers talwm, ‘Sexton Blake and the Atom Eggs’. (‘Seston Blêc’, chwedl un o gymeriadau Wil Sam.)

Fel arall y clywais i. Bydd rhai o’r darllenwyr, rwy’n siŵr, yn cofio stori anfarwol Tom Parry Jones yn ei gyfrol Teisennau Berffro. am yr Inspector Baw Ieir yn mynd o gwmpas Sir Fôn i brisio’r nwydd hwnnw ar ran cwmni mawr o Loegr. Yr hyn a ddeallaf i yw fod y cwmni baw ieir yn rhoi rhodd o bum can miliwn o bunnau i gwmni Horizon tuag at adeiladu Wylfa B, gyda pheth o’r arian hefyd yn mynd i Brifysgol Niwclear Bangor i’w helpu allan o’i thwll ariannol.

Pa adroddiad sy’n gywir, dwedwch?

Advertisements

Un Ymateb to “Yr iâr a’r atom”

  1. Marconatrix Rhagfyr 2, 2017 at 4:26 pm #

    CBI = Cwmni Baw Ieir, felly ???

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: