Duw’n dal i drio

9 Rhag

Yn ôl GOLWG 360 mae un o gynghorwyr Môn yn anhapus ynghylch gosod y Gymraeg yn iaith weinyddol, fewnol y Cyngor Sir. Yr wythnos nesaf bydd y Cynghorydd Shaun J. Redmond yn cyflwyno cynnig y dylid cael refferendwm cyn cymryd y fath gam.

Fel yr wyf wedi dweud droeon ar y blog, bydd Rhagluniaeth o bryd i’w gilydd yn gyrru pethau fel hyn i weld a wna’r Cymry gynhyrfu, ymysgwyd a gwneud rhywbeth ohoni. Y Llyfrau Gleision, Tryweryn, George Thomas &c &c, mae’n rhestr hir. Cawn weld beth a ddigwydd y tro hwn. Yn gyntaf, pwy fydd yn eilio a chefnogi cynnig Mr. Redmond?

A marciwch chi – os nad ydyw wedi digwydd eisoes – bydd yn demtasiwn fawr i Newyddion BBC Cymru ac ITV – ie, yn cynnwys Newyddion S4C – gynnal vox pop yn Llangefni ar y mater, er mwyn i bobl gael dweud pethau fel “mae o’n mynd i gau pobol allan, tydi”, “ma’ isio cael y goreuon, ’does” a “nhw sy’n dŵad â gwaith”. (Ac ar yr agwedd olaf, gweler Meddyliau Glyn Adda, t. 167.)

Dyna ni, mae Duw’n dal i drio.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: