Môn i fyny, Gwynedd i lawr

12 Rhag

Adroddiadau newydd ein cyrraedd am benderfyniadau dau gabinet y pnawn yma.

Cabinet Môn yn gadarn dros y bwriad i weinyddu’n fewnol drwy’r Gymraeg. Cam sylweddol, arwyddocaol ymlaen, oherwydd dyma’r math o neges y mae ymgeiswyr am swyddi yn ei ddeall. Yn rhy aml mae cynrhoni gwrth-Gymreig yn cael rhwydd hynt ac yn llwyddo: ond nid y tro hwn. Yn awr dilyned Ceredigion a Sir Gâr heb ymdroi.

Stori wahanol iawn, trist a thrychinebus, o gabinet Gwynedd, sydd, yn ôl yr adroddiadau, newydd benderfynu rhoi hanner miliwn o bunnau o’n harian prin tuag at Ganolfan Awyrofod Llanbedr, Meirion – neu ‘Yr Ysgol Ddrôns’.

Oes mae defnydd sifil a digon buddiol i’r adar hyn. Pwysleisiwyd hynny y pnawn yma gan gyfarwyddwr canolfan Llanbedr, ond gan addef bod yna ddefnydd milwrol yn ogystal. Mae hyn braidd fel y sicrwydd a gawsom dro yn ôl gan Rhun ab Iorwerth, ei fod ‘o blaid ynni glân HEFYD’.

A gawn ni drafodaeth gan y cyngor llawn yng Ngwynedd, inni gael gweld unwaith eto, fel gyda’r polisi tai, ‘gan bwy mae’r sylwedd, a phwy sydd heb y gwir’?

I helpu cynghorwyr Plaid Cymru i benderfynu, dyma hen lun.

Saunders-Lewis-DJ-Williams-and-Lewis-Valentine

Ac i’ch atgoffa, yn awr yn y siopau mae ail argraffiad Meddyliau Glyn Adda, lle cewch ragor o hanes PENNAU DEFAID cabinet Gwynedd.

Clawr (8)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: