Rhywbeth arall oedd i fod gan yr hen G.A. heddiw, ond wir mae stori ar GOLWG 360 yn mynnu blaenoriaeth !
Yr Arglwydd yn serennu yn Llanystumdwy wrth ochr pennaeth y Llu Awyr, ar achlysur dathlu canmlwyddiant sefydlu’r Awyrlu yn ystod prif weinidogaeth Lloyd George. Darllenwn y bydd gardd ynghlwm wrth Amgueddfa Ll.G. i dragwyddol goffáu’r cysylltiad. Ac yn ôl cadeirydd (P.C.) Cyngor Gwynedd mae hyn oll ‘yn bwysig i Wynedd a gogledd Cymru’.
Cwestiwn bach yn codi. Ysgol be losgwyd? Ysgol Nofio oedd hi deudwch? Ysgol Arlwyo? Ysgol Wnïo? Ysgol Glocsio? Nage … Methu cofio’r funud yma. A rhaid bod ein gwleidyddion lleol a Chynulliad/Arglwyddi yn methu cofio hefyd.
Ond o ddifri. Ewch am eich copi o Hen Lyfr Bach Lloyd George, tt. 74-5, i weld sylwadau Ll.G. ei hun yn 1936.
Ac o ddifri eto. Mewn byd sydd yn hollol tu chwith allan, a allwn ni ddisgwyl yn awr i’r Blaid Geidwadol (gyda help Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon efallai) drefnu ‘Gŵyl Cofio Penyberth’? Beth amdani, Guto Bebb a’r Weinyddiaeth Amddiffyn?
Bang on !
Gadael Ymateb