Hwyr eto

7 Chw

Ddoe y dylasai hwn ymddangos.  Yr oeddem i gyd, o’r Santes i lawr, yn nodi can mlynedd oddi ar roi’r bleidlais i ferched ym Mhrydain.

Digwyddodd hynny mewn ffordd wirion a sarhaus, drwy ganiatáu’r hawl i ferched dros 30 oed ! Ond dyna ddechrau, ac fe’i cywirwyd ddeng mlynedd yn ddiweddarach, i gynnwys pawb dros 21.  Hefyd, yn ôl yr hyn a ddywedid ar y pryd ac a ailadroddwyd gan genedlaethau o haneswyr, fe ‘deilyngodd’ y merched y bleidlais, nid am fod hynny’n beth cyfiawn ac angenrheidiol, a rhai ohonynt wedi ymladd ac aberthu drosto, ond am iddynt helpu i ymladd y rhyfel drwy weu sanau, casglu ticedi bysus, llenwi siels &c.  Lol nawddogol !

Dirgelwch hyd y dydd hwn yw gwrthwynebiad cyndyn y prif weinidog Rhyddfrydol, Asquith.  Fel yr wyf wedi dweud droeon o’r blaen, cabinetau Asquith, 1906-10, oedd y rhai disgleiriaf erioed o ran dawn a dysg; ond nhw cawliodd hi, gan dynnu trychineb yr ugeinfed ganrif am ben y miliynau diniwed.

Clywsom ychydig o sôn ddoe am roddi ‘pardwn rhad’ i’r rheini a dorrodd gyfreithiau a chael eu cosbi yn ystod yr ymdrech hir am y bleidlais.  Addawodd yr Ysgrifennydd Cartref feddwl am y peth, ond gan ddweud bod ‘anawsterau’.  Pa anawsterau?  Dylid pwyso arni’n galetach i ddweud.  Fel y crybwyllodd rhai, bu’n bosibl estyn pardynau i filwyr a saethwyd yn ystod y Rhyfel Mawr ar gyhuddiadau o ‘lwfrdra’.

Am yr achosion hynny, ac am achosion Merched y Bleidlais hefyd, fe ddylid meddwl yn galetach a gofyn cwestiynau mwy difrifol.  Wrth sôn am ‘bardwn’ yr ydym yn dal i ragdybio fod yr awdurdodau’n iawn.  Ond yr oedd yr awdurdodau ar fai, a dylid datgan hynny mewn ffyrdd mwy helaeth ac amlwg.  Sut?  Pa gydnabyddiaeth a fyddai’n deilwng, yn wir ni wn i ddim, gan fod y chwaraewyr i gyd wedi’n gadael.

Lle mae llawer o’r chwaraewyr yn fyw, tybed nad yw hi’n haws?  Gyda thair Deddf Iaith y tu ôl inni, ac yn wir ‘brwydr yr iaith drosodd’ fel y myn rhai, onid yw’n bryd i lywodraeth Cymru, fel cynrychiolydd y wladwriaeth Brydeinig yng Nghymru, dalu iawndal helaeth i bawb a gosbwyd mewn unrhyw fodd am eu rhannau mewn ymgyrchoedd iaith dros drigain mlynedd?

Yn wir, oni ddylid mynd ymhellach … ?   Darllenwch dudalennau 115-16 o’m llyfr O’r India Bell a Storïau Eraill.   Beth yw’ch barn ?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: