(1) Darllenwn na fydd Y Cymro newydd yn barod i ymddangos ar Ŵyl Ddewi, ond bod gobaith ei weld o fewn rhai wythnosau wedyn. Hei lwc yn wir.
Dylem fod yn wyliadwrus iawn cyn awgrymu y dylai papur newydd ddibynnu ar nawdd llywodraeth, nac yn wir ar gymhorthdal o unrhyw fath. Dylai ymgynnal ar ei werthiant a’i hysbysebion. Ond yng nghanol argyfwng enbydus y wasg Gymraeg heddiw, a hwnnw’n rhan o chwalfa ddiwylliannol y Cymry, efallai nad cwbl amhriodol awgrymu y gallai llywodraeth Cymru gamu i mewn â mesurau dros dro.
Gan lyncu’n galed felly, dim ond gofyn …
A fedr ein llywodraeth, o ryw gronfa neu’i gilydd, neilltuo swm bychan, dyweder pum miliwn o bunnau, i warantu cynhaliaeth Y Cymro am gyfnod arbrofol o, dyweder, dwy flynedd … neu hyd yn oed flwyddyn? Amcan hyn fyddai galluogi’r papur (a) i adeiladu cylchrediad, a (b) i’w gyflwyno’i hun yn egnïol i hysbysebwyr posibl drwy adael iddynt hysbysebu yn rhad ac am ddim dros y cyfnod arbrofol. Ar ddiwedd y cyfnod arbrofol, gweld pa mor bosibl fyddai i’r papur sefyll ar ei draed ei hun gyda’r hysbysebwyr yn talu. Wrth gwrs gall llywodraeth, gyda’i ffrwd o hysbysiadau cyhoeddus, bob amser fod ymhlith yr hysbysebwyr; mae hynny’n beth gwahanol i roi grant.
Os nad erys yr hysbysebwyr ar ddiwedd y cyfnod arbrofol, ac os na fydd y cylchrediad yn cyfiawnhau hynny, dyna ni, – diwedd yr arbrawf.
Efallai yr hoffech ddarllen eto y tair hen ysgrif hyn: Gwasg mewn Gwasgfa (2), Diwedd y Cymro …?, Llecyn glas?.
(2) Trist yw darllen am helbulon Theatr Ardudwy, a difrifol yw clywed am Goleg Harlech, y drws nesaf, yn dod i ben ei rawd. Ardderchog o le oedd Coleg Harlech, ond gwir fod y math o gyhoedd y darparai ar ei gyfer bellach wedi peidio â bod.
A yw llywodraeth Cymru yn wir am weld datblygiad ‘Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol’ (y ‘Coleg Ffederal’ fel y byddem yn ei alw ers talwm)? Rywfodd neu’i gilydd fe ddylai Gweinyddiaeth Addysg a Gweinyddiaeth Diwylliant ein llywodraeth roi eu pennau ynghyd yn ddiymdroi a galluogi’r CCC i feddiannu Coleg Harlech. Byddai’n ardderchog fel canolfan i holl aelodau’r CCC, myfyrwyr a darlithwyr, ddod ynghyd o’u gwahanol ganolfannau i dderbyn rhannau o’r addysg, cydgyfarfod a chyd-drafod. Yn wir mae dadl dros leoli gweinyddiaeth ganolog y CCC ynddo (gan gofio gofyn bob amser yn ddifrifol faint o weinyddiaeth sydd wir ei hangen).
Pe byddai unrhyw weledigaeth bymtheng mlynedd yn ôl gan fwy na thri ohonom, academwyr o Gymry, byddid wedi sicrhau hen Goleg Diwinyddol Aberystwyth i’r pwrpas hwn. Ond dyma gyfle o’r newydd.
Ac mewn byd sy’n hoff o’r gair ‘her’, dyma ddwy her a ddylai fod wrth fodd calon gweinidogion effro.
Wrth feddwl am ddyfodol y wasg Gymraeg ni fydd £5m gan Lywodraeth Cymru yn ddim ond megis piso dryw yn yr eigion. Yr hyn fyddai’n dderbyniol i sawl un fyddai ennill yr Euromillions a chyfrannu’r arian hwnnw at gynnal papur Cymraeg cenedlaethol. Rhaid cael unigolion o argyhoeddiad i wynebu’r ‘her’ ariannol nid gwleidyddion llugoer o’r Bae.
Cytuno’n hollol. Ail ddewis, ac yn isel i lawr y rhestr, fyddai unrhyw gyfraniad gan lywodraeth. Gallwn adrodd straeon truenus am dd9iffyg ymateb y ‘gwleidyddion llugoer’ pan oedd ein cwmni ni, Dalen Newydd, yn ceisio gwneud rhywbeth yn y maes hwn, 2006-7. Gwrthod ateb llythyr, sef y ffordd orau o sicrhau dim fôt.
Ie, dowch ymlaen yr Ewro-filiynau.
Cytuno cant y cant. Trist i weld Coleg Harlech yn dod i ben. Mi es i ar sawl Ysgol Haf yno.