Unwaith eto, y Cymro a’i hafod

20 Maw

Echdoe daeth Newyddion Gwynedd drwy’r drws yma, ac eitem ar ei dudalen flaen yn hysbysu perchenogion ail gartrefi yn y sir y byddant eleni yn talu 50% yn rhagor o dreth ar yr eiddo.  Polisi yw hwn sydd dan ystyriaeth ers tro, a deallwn y bydd nifer o awdurdodau eraill yn gweithredu yr un modd.

Tybed a oedd rhai o’r cynllunwyr polisi wedi darllen fy hen ysgrif ‘Hafod y Cymro’ (Meddyliau Glyn Adda, t. 140, neu ar y blog hwn 23 Chwefror 2016)?  Go brin efallai.

Nid ailadroddaf y ddadl yma, dim ond dweud:  iawn, codwch y dreth ar ail gartref, ond gwnewch eithriad os mai Cymro a’i piau.

Nid oes byth ddiffiniad terfynol o beth yw ‘Cymro’, ‘Sais’ na neb arall, ond at bwrpas gweinyddiaeth fe ellir gweud diffiniad syml.  Rhywbeth fel hyn:

UN AI
(a)  Rhywun wedi ei eni a’i fagu yng Nghymru, ac yn gallu dangos prawf o hynny.  (Wedi ei fagu at ba oed? Penderfyner, rhodder ffigiwr.)

NEU
(b)  Rhywun o unrhyw fan yn y byd os yw’n medru Cymraeg.  (Pa mor dda?  Digon, dyweder, i gynnal deng munud o sgwrs.)

Dywedaf eto; nid mai dyma a DDYLID ei wneud, ond mai dyma y BYDDID yn ei wneud gan blaid genedlaethol a honno o ddifri.

Bwriwch yn awr fy mod i’n methu fforddio’r dreth ychwanegol, ac yn gorfod gwerthu’r tŷ bychan sy gen i yn fy hen ardal.   A fyddai’r Cyngor yn ei brynu i’w ychwanegu at ei stoc tai cymdeithasol?  Hyd y gwn, nid oes gan y Cyngor y cynllun  na’r adnoddau i wneud dim o’r fath.

Pwy a brynai’r tŷ?

Isio rhoi bet arni?

Advertisements

2 Ymateb to “Unwaith eto, y Cymro a’i hafod”

  1. Jig Mawrth 21, 2018 at 11:43 pm #

    Cytunaf 100% gyda’r sylwadau hyn. A’r diffiniad clir o bwy sy’n ‘ Cymro/Cymraes ‘
    Pam cosbi Cymry sydd yn ceisio dal gafael ar eu hetifeddiaeth? Gwell trethi’ r perchnogion estron dwbl, 200%, a chaniatau eithrio ail gartrefi’r Cymry yn fy marn i. Sdim fawr o ots gan gyngor Gwynedd pwy piau’r tai, maen nhw mor ddesparet am bres. Sy’n cadarnhau ofnau Glyn Adda am ddiffyg gweledigaeth na gallu i gynyddu stoc tai cymdeithasol y sir, er yr angen mawr.
    Cwestiwn dyrys yw’r angen am dai fforddiadwy. Mae’n gallu sôn am dai ar werth am bris llai na phris y farchnad, ond yn aml yn parhau i fod yn rhy ddrud i gyflogau bychain bobl. Ond mae hefyd tai fforddiadwy sy’n dai cymdeithasol, ar rent (debyg i’r hen dai cyngor ers talwm). Ymddengys bod y ddau yn cael eu cymysgu gan swyddogion ein cyngor i gyfiawnhau codi tai, gydag ond canran bychan yn ‘ fforddiadwy’ yn y pen draw. Lle mae’r tai ar rent, am rent fforddiadwy ? Isel iawn ar flaenoriaethau pawb mae arnaf ofn.

    • glynadda Mawrth 22, 2018 at 10:40 pm #

      Diolch yn fawr Jina. Cytunaf innau 100%. A dylwn fod wedi dweud ‘Cymraes’ hefyd wrth gwrs.

      Sut mae cael pethau i bennau pobol ?

      I bwy ar wyneb y ddaear fawr y gall dyn fotio ?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: