Cwestiwn i Olynydd

24 Ebr

Gyda chyhoeddi ymddeoliad Carwyn Jones a’r dyfalu ynghylch ei olynydd, ni chlywais eto yr un o’r sylwebyddion yn galw i gof yr UN PETH MAWR a wnaeth Carwyn yn ystod ei dymor fel Prif Weinidog, sef cyhoeddi y byddai ‘mwy na chroeso’ i longau tanfor Trident angori yng Nghymru pe bai raid iddynt ymadael â’r Alban.

Dylai rhywun ofyn i’r olynydd, pwy bynnag  fydd ef neu hi, a yw hyn yn dal yn bolisi gan Lafur Cymru.

Nid y gwna unrhyw wahaniaeth yn etholiadol, oherwydd nid yw polisi’n golygu dim byd i drwch pleidleiswyr Llafur.  Gallai, hwyrach, fod yn berthnasol pe codai eto, mewn rhyw amgylchiadau, bosibilrwydd clymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru, rhyw ‘Gymru’n Un, rhif 2’.

Ond wedyn, a yw ‘Plaid yr Ysgol Ddrôns’ yn poeni mwyach am bethau felly?

Advertisements

Un Ymateb to “Cwestiwn i Olynydd”

  1. Marconatrix Ebrill 24, 2018 at 9:47 am #

    Gofynion diddorol dros ben, yn wir. Ond fel Albanwr sy’n byw ar hyn o bryd yng Nghernyw, rhaid i fi dweud, gwell cael Trident yng Nghymru nag yn yr Alban nag e.e. Aberplym. Wrth gwrs, gwella oll fydde cael gwared o’r pla ‘ma i gyd ag am byth!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: