Gwerthwyr gwael ?

29 Meh

Tipyn o gorddi y dyddiau diwethaf am un o brif bethau-poeni’r Cymry, sef gwerthiant llyfrau Cymraeg. Yn sgil dyfarniadau Llyfr y Flwyddyn, adroddodd y BBC nad oedd yr un o’r llyfrau a gyrhaeddodd y brig eleni wedi gwerthu mwy na dau gant. Anghywir a chamarweiniol medd rhai o’r cyhoeddwyr: cafwyd y ffigurau gan asiantaeth Nielsen, nad oes ganddi gyfrif o’r siopau llai nac o’r niferoedd a werthir mewn lansiadau.

Fel un a fu ers rhyw wyth mlynedd yn ymhel ychydig â chyhoeddi llyfrau Cymraeg, rhaid imi ddweud bod y ffigiwr o ddau gant yn swnio’n gyfarwydd iawn. 230 y byddwn ni’n eu hargraffu o ‘Gyfrolau Cenedl’. Gwerthwyd y cyfan o argraffiad cyntaf y gyfrol gyntaf, Canu Twm o’r Nant, ac argraffwyd rhagor. Ni ddigwyddodd hynny wedyn, hyd yma. Rhyw araf ddringo at y ddau gant a wnaeth y deg cyfrol arall, a phallu cyn cyrraedd y nod hwnnw.

Gwael? Oni werthodd Twm o’r Nant ei hun, o law i law a chyda help cyfeillion, ddwy fil o’i gyfrol Gardd o Gerddi yng Nghymru dlawd 1790? Do yn wir, ond cofiwn mai dyna Lyfr y Flwyddyn y flwyddyn honno, fel yr oedd Chwalfa yn 1946 a Cysgod y Cryman yn 1953 yn Llyfrau’r Flwyddyn cyn iddynt ymddangos, am fod llyfrau yr un fath â hwy yn sobor o brin. Ddaliwch chi mo’r hen G.A. yn adleisio’r gŵyn wangalon fod ‘gormod o lyfrau Cymraeg’: cyhoedder nhw i gyd os oedd modd o gwbl, rhag ofn fod clasur neu smash hit yn eu plith yn rhywle.

Un canlyniad fodd bynnag i’r cynnydd mewn niferoedd ac mewn amrywiaeth – peth na ddylid byth gwyno o’i herwydd – yw fod y siopau llyfrau Cymraeg yn rhy fychain i arddangos a gwerthu’r cyfan. Mae’r llyfrwerthwr Cymraeg o’r herwydd yn un garw am anfon pethau yn ôl i’r Ganolfan yn Aberystwyth. Silff-einioes llyfr Cymraeg yw dau fis, a dyna ni. Yn gam neu’n gymwys bydd ein cwmni ni, Dalen Newydd Cyf., yn anelu at gyhoeddi’r rhan fwyaf o’i bethau at fis Mai a mis Hydref, er mwyn dal ffeiriau llyfrau Cymdeithas Bob Owen. Rhaid dweud bod Ffair Lyfrau Porthaethwy fis Hydref yn gyfle da inni; gwan yw hi mewn mannau eraill, yn cynnwys Aberystwyth. Dau fis, yna daw Llyfrau’r Nadolig neu Lyfrau’r Eisteddfod i mewn: yn ôl ar y fan â phethau eraill. Mae eithriadau gwiw – pwysleisiaf hynny – ond yn gyffredinol byddaf yn rhyfeddu at y DRAFFERTH a gymer ambell siop o anfon UN o’r ‘Hen Lyfrau Bach’ yn ôl yn lle ei werthu!

Mae peth arall. Diffyg gwasg wythnosol Gymraeg. Erbyn y bydd yr adolygiad wedi ymddangos yn un neu ragor o’r cyhoeddiadau misol neu chwarterol, bydd y llyfr wedi ei sgubo o’r siopau, ‘a’i le nid edwyn ef mwy’. A chanlyniad arall i’r un diffyg, mae llai a llai yn llythrennog yn Gymraeg. Mae’n RHAID gwneud rhywbeth ynglŷn â hyn. A oes rhywun yn mynd i wrando yn rhywle? Fe geisiodd Dalen Newydd wneud rhywbeth yn 2006-7; dim maddeuant byth i’n cynrychiolwyr etholedig o Blaid Cymru am wrthod hyd yn oed gydnabod llythyr ar y mater.

Mae dweud y drefn am beidio prynu llyfrau dipyn bach fel dweud y drefn am beidio mynd i’r capel. Felly dim mwy o ddweud y drefn heddiw. Y tu ôl i’r cyfan mae’r hen broblem, gwendid endemig y Cymry.

Hysbyseb yn awr. I gael golwg ar gychwyniadau’r broblem honno, disgwyliwch un o’r llyfrau nesaf yn ein cyfres Cyfrolau Cenedl, ‘Llythyr Gildas a Dinistr Prydain’, golygiad newydd gan Iestyn Daniel. Dyma’r llyfr cyntaf o hanes Ynys Brydain ac o hanes ein hynafiaid ninnau, y Brytaniaid. Rhagflaenydd pob Cyfrol Cenedl.

Mynnwch eich copi pan ddaw, y cwta ddau gant ohonoch.

Advertisements

3 Ymateb to “Gwerthwyr gwael ?”

  1. Martin Williams Gorffennaf 1, 2018 at 3:29 pm #

    “Mae’n RHAID gwneud rhywbeth ynglyn a hyn”.Cytuno!
    Dwi ddim eisiau swnio’n snobyddlyd.Dwi ddim yn ddarllenwr mawr iawn fy hunan a bod yn berffaith onest. Ond dwi ddim yn cofio’r tro diwethaf i mi sylwi ar rywun yn darllen testun Cymraeg call ar dren neu fws.Mewn caffi,tafarn,ystafell aros.Mae mymryn o ddarllen yn GORFOD bod yn bwysig.Ydi bws wennol Steddfod Gen yn cyfri?Ydi a nac ydi.A dim ond am wythnos mewn blwyddyn mae’n rhedeg.
    I fod yn bositif rhaid CANMOL Heno ar S4C sydd weithiau yn ffilmio+rhoi sylw i lawnsiad llyfr Cymraeg.
    A oes angen mwy o product placement ar Pobol y Cwm,Sgorio?Dangos pobl yn darllen rwbath difyr Cymraeg?Dim yn syniad mor wirion a hynny.
    Diolch am y blog yma sydd efallai’n trio bod yn onest a pheidio brwsho materion pwysig fel yma o dan y carped.
    Dwi ddim yn ddigon o foi i agor/cychwyn siop lyfrau Cymraeg ym Mangor,Dinas Dysg.Ond taswn yn entrepeneur dawnus yna…
    Gyda pob parch i nifer o awduron dawnus y Gymraeg,a ydynt yn cofio’r tro diwethaf iddynt sylwi ar rywun diarth yn darllen eu gwaith?Nid lladd ar y byd Cymraeg sy’n gallu cynnig lot.Jesd trio bod ychydig yn onestach.
    Dwi ddim yn hen ffasiwn+byw yn y gorffennol.Sgrin yma i aros.Ond yn y pendraw mae CANOLBWYNTIO ar destun call ar bapur yn well.

    • Hwntw Mawr Gorffennaf 2, 2018 at 11:32 pm #

      Mewn rhai cylchgronau a phapurau Cymraeg – papurau bro’n arbennig – ceir tudalen gyfan yn holi rhyw ‘seleb’ Cymraeg, pobl radio a theledu fel rheol, a rhai o’r lefrod ‘ma sy’n sgwennu llyfrau Cymraeg sâl, a gwan eu hiaith. Un cwestiwn a ofynnir yn aml yw’r un sydd am gael gwybod pa lyfrau mae’r seleb d(d)iwylliedig yn eu darllen, am hoff gymeriadau llenyddol y seleb a llawer i wedd arall o’r darllen. Mae’r atebion, yn ddieithriad bron, yn cyfeirio at bethau’r byd cyhoeddi Saesneg. Yr un modd ynglŷn â rhaglenni radio a theledu – y byd Saesneg bob tro. Cerddoriaeth Saesneg hefyd. Gallaf enwi llawer iawn o’r selebs Cymraeg hyn sy’n “pesgi ar farwsolaeth mamwslad dlawd”. Llyngyr yn wir !
      Rhan yw hyn oll o’r malltod cenedlaethol a’n goddiweddodd – blynyddoedd y locust y gŵyr Glyn Adda amdanynt cystal â neb.
      Edrychaf ymlaen at gael fy mhump ar lyfr Gildas.

      Hwntw Mawr

  2. Robat Gruffudd Gorffennaf 2, 2018 at 3:50 pm #

    Dyw’r ffigwr o 200 ddim yn agos at gywir nad nad yw Nielsen yn mesur gwerthiant siopau llyfrau Cymraeg, dim ond llyfrau Cymraeg mewn siopau cadwyn fel Smiths a Waterstones. Mae’n enghraifft o newyddion hollol ffug. Ond fel pob newyddion ffug effeithiol, caiff ei drin yn y man fel petai’n newyddion cywir. Dylsai’r “newyddiadurwr” Huw Thomas gael ei ddisgyblu am greu eitem mor wallus, fel hefyd y golygydd a benderfynodd gario’r stori mlaen trwy’r dydd, hyd at Newyddion Naw y noson honno, er derbyn sawl tystiolaeth yn y cyfamser mai rwtsh pur oedd y ffigwr. Oes, mae angen cyfryngau annibynnol ar Gymru!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: