Colli Meic Stephens

3 Gorf

Chwith iawn oedd clywed fore heddiw am golli Meic Stephens o’n plith. Chwith, ac anodd ei gredu hefyd rywsut: oherwydd arloesi, cynllunio, annog, gyrru pethau ymlaen oedd bywyd Meic.

Cofiaf yn dda ei ddyfodiad i Goleg Bangor yn 1961. Daeth i Fangor i ddilyn cwrs athro, yn dilyn tair blynedd o gwrs gradd yn Aberystwyth a threulio cyfnod yn Llydaw hefyd fel myfyriwr Ffrangeg. Gwnaeth wahaniaeth. Yr oedd yn wahanol i’r rhelyw ohonom ni, Gymry bach confensiynol a braidd yn ofnus, o gefndiroedd Cymraeg. Heb lawer o Gymraeg y pryd hynny, yr oedd eto’n genedlaetholwr diargyhoedd, digyfaddawd. Llefarai’n heriol a diflewyn-ar-dafod mewn cyfarfodydd Saesneg lle tueddai’r rhan fwyaf ohonom i gadw’n pennau i lawr, ac ymhlith ei arfogaeth yr oedd profiad fel newyddiadurwr Saesneg yng Ngholeg Aberystwyth.

Fel gweinyddwr ym myd y celfyddydau ac yn ddiweddarach fel Athro coleg, ni orffwysodd Meic funud ar ei rwyfau, ond bwrw ati a dyfalbarhau gyda’i waith golygyddol helaethlawn a’i waith creadigol ei hun, ac yn anad dim annog, symbylu a chefnogi eraill. Wedi rhoi addewid i Meic, nid oedd dim dianc.

Yn gyfochrog â’i dueddfryd radicalaidd, yr oedd ochr deimladwy iawn i Meic, – yn wir nid oes dim eithriadol yn y cyfuniad hwnnw chwaith. Daw hyn yn amlwg drwy ei hunangofiant, Cofnodion (a adolygais ar y blog hwn) a thrwy ei gyfrol gwbl arbennig o gerddi, Wilia. Yn y ddau waith mae yna chwilio fel petai am ryw allwedd i’w gefndir ei hun ac i’w fath ei hun o Gymreictod. Bron na ddywedid iddo atgyfodi’r Wenhwyseg fel cyfrwng yr ymchwil hon. Fel y gwyddom, daeth rhai o gerddi Wilia o fewn dim i ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol; odid na osodir rhai ohonynt gan feirniaid y dyfodol yn nosbarth dethol ac anrhydeddus y cerddi a ddaeth yn ail ac a ddylasai ddod yn gyntaf.

Gweinyddwr a gwleidydd, newyddiadurwr, llenor ac athro, bu Meic yn dŵr o nerth i ddwy lenyddiaeth Cymru, ac yn gyfryngwr rhyngddynt. Ac ar wastad personol, ni ellid gwell cefnogwr a chyfaill. Gedy fwlch mawr, ac estynnwn ein cydymdeimlad i Ruth a’r teulu.

 

Advertisements

3 Ymateb to “Colli Meic Stephens”

  1. Dei Tomos Gorffennaf 3, 2018 at 11:47 pm #

    Teyrnged gwerth chweil a haeddianol, gobeithio y gwelwn ni eu tebyg yn rhai o bapurau Llundain, y bu Meic ei hun yn ysgrifennu cofiannau ar eu cyfer, am amryw Gymry da. Coffa da amdano a’i lu cymwynasau y ‘Cydymaith’ yn eu plith ac wrth gwrs rhaid cofio’r ymchwil am ei wreiddiau yn sir Faesyfed, a’i ymateb i’r dargynfyddiadau mewn gair a cherdd

  2. Wendy Lloyd Jones Gorffennaf 4, 2018 at 7:32 am #

    Cofiaf ofyn i’r Dr Elin Jones dybed a wyddai am rywun a fyddai’n fodlon adolygu Wilia i mi ar gyfer ei gynnwys yn Y Wawr. Cafodd drafferth cael neb i gytuno ac fe adolygodd y gyfrol ei hun yn y diwedd. – Rhifyn 187 (Haf 2015). Cyfrol hynod o gerddi, a chyfraniad Meic Stephens i’r Gymru Gymraeg a di-Gymraeg yn anrhaethol. Diolch am y deyrnged iddo.

  3. Gaynor Gorffennaf 4, 2018 at 2:27 pm #

    da iawn

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: