Cofio ’66

7 Gorf

A dyma Loegr gam yn nes at gael ail-fyw blwyddyn fawr Alf Garnett. ‘Who won i’ mate? Who won i’? You tell me tha’, you long-’aired Scouse git! Who won i’? Eh? Eh?’

I Gymru hefyd bu ’66 yn flwyddyn gofiadwy. Mis Awst, awdl ‘Cynhaeaf’. A phythefnos cyn hynny, daeargryn Caerfyrddin.

Am yr ail, bu amryw ffactorau’n gyfrifol. Yn Gwilym Prys Davies, dewisodd Llafur ymgeisydd rhy ddeallus ac anrhydeddus i blesio’i thwpsod o gefnogwyr yn Sir Gâr, ac arhosodd carfan ohonynt gartref. Yr un pryd cododd ton o gefnogaeth i ddyfalbarhad a didwylledd Gwynfor.

Ble mae ffrwyth hynny i’w weld heddiw? Ateb: yn yr Alban. Llanw a thrai fu hynt cenedlaetholwyr yr Alban dros y blynyddoedd, – trai torcalonnus weithiau, megis yn etholiad cyffredinol 1979. Ond am fod yr Albanwyr yn genedl mewn ffordd nad yw’r Cymry ddim, caed llwyddiannau eto, gydag uchafbwynt ysgubol yn etholiad 2015. Ychydig golli tir yn etholiad y llynedd, ond arwyddion gobaith da iawn eto, gyda Lloegr dan lywodraeth yr iâr ffrwcslyd wedi ei gosod ei hun mewn twll na bu ei fath.

A Chymru? Oddi ar Ddatganoli: dadrith, rhwystredigaeth, methu cynhyrchu arweiniad. Y ffrwt fel petai wedi mynd allan, yr hwyl wedi darfod. Un ffactor difrifol iawn: DIFFYG GWASG. Ffactor arall: penderfyniad y dosbarth proffesiynol Cymraeg i’w ddinistrio’i hun drwy anfon ei blant o Gymru.

Pedair plaid yng Nghymru yn wynebu dewis arweinydd.. I UKIP ni wna unrhyw wahaniaeth, oherwydd mae’n mynd i ddiflannu. I Lafur ni wna wahaniaeth, oherwydd dan ba arweinydd bynnag fe geidw Llafur Cymru at ei hegwyddor ganolog, sef peidio â gwneud llawer o ddim byd neilltuol. A fydd yr arweinydd newydd am gael Trident i Gymru yr un fath â Carwyn? Dyna’r unig gwestiwn o unrhyw ddiddordeb y gallaf feddwl amdano. Ni allaf ond eiddigeddu at y Torïaid. Petai ond Paul Davies a Suzy Davies yn sefyll, bydd ganddynt ddewis da iawn. Mae’r Torïaid yn credu yn eu pethau ac yn dal atynt. Yn wahanol i bob plaid arall nid oes raid iddynt ofni’r Torïaid. Oherwydd hwy yw’r Torïaid.

A Phlaid Cymru? Rwyf wedi dweud sawl gwaith ar y blog hwn beth sydd angen i Leanne ei wneud. Rhoi ei throed i lawr. Rhoi rhybudd o ddiarddeliad i unrhyw ymgeisydd sy’n mynd yn groes i bolisi gwrth-niwclear y Blaid, a cherydd hallt i gynghorwyr gwallgo Gwynedd am eu hantics anhygoel dros y blynyddoedd diwethaf. Ond na feiwn yr arweinydd am bopeth. Caf yr argraff fod gweinyddiaeth y Blaid bellach yn eithafol wan; ni chaed llaw gadarn yn y swyddfa ganolog ers blynyddoedd lawer, ac nid ymddengys fod gan y Blaid beirianwaith ar wastad cenedlaethol na gwastad etholaeth i ddatblygu polisi a chadw ato.

Wedi dweud hynny oll, Leanne yw’r un. Heb unrhyw amheuaeth o gwbl.

Advertisements

12 Ymateb to “Cofio ’66”

  1. Robat Gruffudd Gorffennaf 8, 2018 at 7:22 am #

    Dafydd, cofnod diddorol eto — ond trueni na fuasai Leanne yn gallu bod yn gliriach a chryfach yn erbyn ynni niwclear. Ti’n iawn, mae ‘na rywbeth mawr yn bod ar drefniadaeth ganolog plaid. Ond newydd sylweddoli bod ‘na wall yn yr ymateb brysiog anfonais i i’r eitem “Gwerthwyr Gwael”. Dylai “nad nad Nielsen” fod yn “gan nad Nielsen”. Diolch os gelli gwiro hyn. Pob hwyl i Glyn Adda. Gyda llaw wedi bod yn dilyn Craig Murray hefyd, ers i ti ei argymell — difyr iawn. Ond siomedig yw Nation Cymru yn aml. Robat Robat Gruffudd ar robat@ylolfa.com ffôn yn Y Lolfa: 01970 832 304 ffôn bach: 07703 163 447

    ________________________________

    • glynadda Gorffennaf 8, 2018 at 10:30 am #

      LLawer o ddiolch Robat. Efo’r system sy gen i beth bynnag, all awdur y blog ddim cywiro ymatebiadau. Ond cofnodwn unwaith eto mai ‘gan nad Nielsen’ yw’r darlleniad cywir. Hwyrach y dychwelaf at fater gwerthu llyfrau. Ie, Craig Murray, ugain mil o ymweliadau mewn awr weithiau ! Eiddigedd yw f’ ymateb unwaith eto. ‘O anadl, tyred oddi wrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn hyn, fel y byddont byw.’

  2. Martin Williams (@MartinWilliam34) Gorffennaf 8, 2018 at 3:57 pm #

    DIFFYG GWASG. Gall Saeson difyr fwynhau mymryn o lonydd a distawrwydd ambell waith. Paned a’r papur i. Albanwyr? The National? Gwyddelod: yr Irish Times?
    Gallaf barchu lot o Bleidwyr. A hyd yn oed y cyn-Bleidiwr Dafydd El- ond dim ond ambell waith.
    Ar ei waethaf, mae’n hollol amlwg fod yna ochr cegog i bel-droed a gwleidyddiaeth. Credaf yn ddi-flewyn-ar-dafod fod yn rhaid i Bleidwyr a Chenedlaetholwyr hefo mymryn o class (safon, nid dosbarth) roi mwy o bwyslais ar drafod call yma yng Nghymru.
    Pe bawn i yn cael dewis rhwng a) tim pêl-droed Cymru yn ennill Cwpan y Byd neu b)papur dyddiol Cymraeg cenedlaethol amhleidiol call rhydd i bawb ei farn o fewn rheswm HEFO LEFEL GWERTHIANT DA IAWN yna b) y byddwn yn ei ddewis.
    Problemau Cymru: diffyg darllen a gwasg gref. Colli gormod o Gymry talentog i Loegr.
    Mewn difrif, faint o aelodau Plaid Cymru sy’n trafferthu darllen y blog yma?
    Nid ydym yn byw mewn democratiaeth iach. Dylai hyn fod yn fater o gonsyrn i Bleidwyr hefo mymryn o class!

    • glynadda Gorffennaf 8, 2018 at 5:55 pm #

      Diolch eto Martin. Siwr iawn dyna fyddai fy newis innau, a phawb ag unrhyw synnwyr yn ei ben. Darllenwyr y blog hwn? 61 hyd yma heddiw. 98 ddydd Mawerh diwethaf, ac roedd hynny’n eithriadol. Hofran o gwmpas rhyw 20-30 fel arfer. Pathetig yntê.

      • Martin Williams (@MartinWilliam34) Gorffennaf 14, 2018 at 11:14 pm #

        Miliwn o siaradwyr Cymraeg? Mae’n beth da anelu i gyrraedd targed am wn i. Dim eisiau swnio’n snobyddlyd, ond weithiau mae gen i fwy o diddordeb yn y syniad o fil yn rhagor o ddarllenwyr achlysurol Cymraeg.
        Os ydym yn mynd i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yna mae’n gwneud synnwyr i geisio cefnogi pethau call i gyd-fynd hefo’r twf yma. Papur Sul Cymraeg rhydd i bawb ei farn o fewn rheswm? Dwi ddim yn ddigon o foi i greu un. Ond os y bydd papur o’r fath yn cael ei greu yna fe wnaf i ei brynu.
        ‘Dyw hi ddim yn fusnes i mi os ydi Mr ap Dafydd yn dymuno bod yn Archdderwydd hynod o ddi-flewyn-ar-dafod a chynnig beirniadaeth adeiladol am gyflwr Cymru, Senedd Bae Caerdydd a’r Gymraeg. Rhydd i bawb ddewis ei steil ei hun pan yn Archdderwydd. Ond a ydi’r byd Cymraeg wedi mynd mymryn yn fflat ers cychwyn datganoli? Dim digon o dan yn y bol?
        Rydych yn flogiwr di-flewyn-ar-dafod sydd yn dweud eich dweud. A ydych wedi cysidro cystadlu am un o brif wobrau yr Eisteddfod Genedlaethol, ennill ac yna trio bod yn Archdderwydd? Defnyddio’r job i drio cael mwy o ddylanwad a chael y maen i’r wal?
        Nid ydym angen gwasg Gymraeg sy’n taflu baw a busnesu. Ond mae’n holl bwysig trio cael mwy o gyffro HEB ANGHOFIO MWY O DDARLLENWYR.
        D Trump ydi ceg fawr enwocaf trydar. Dywed synnwyr cyffredin ei fod yn blatfform hefo manteision, ond hefyd lot fawr o sŵn negyddol.
        Yn fy marn i rhaid i aelodau Plaid Cymru dderbyn y gwirionedd fod Yr Alban yn gallu teimlo’n wlad aeddfetach na Chymru hefo mwy o fwrlwm gwasg print. Yna trio gwneud rhywbeth er mwyn gwella’r sefyllfa.Dwi’n hoff iawn o ddarllen Golwg a Y Cymro. Ond os ydym am gael miliwn o siaradwyr Cymraeg mae’n gwneud sens i obeithio y bydd cylchrediad y ddau gyhoeddiad yma yn cynyddu!

  3. glynadda Gorffennaf 15, 2018 at 10:24 am #

    Mae Martin yn llygad ei le fel mor aml. Mae llythrenogrwydd, a’r arfer o’i darllen yn rheolaidd yn allweddol i barhad iaith. Diolch am y papurau bro, llwyddiant mwyaf a phwysicaf y deugain mlynedd diwethaf.

    Ceisiodd cwmni Dalen Newydd wneud rhywbeth ym maes y wasg, a cheir peth o’r hanes yn yr hen flogiad ‘Gwasg mewn Gwasgfa’, 30 Mawrth ’17.

    ‘Fflat’, ie dyna’r gair. Pam tybed? Be sy wedi mynd ar goll?

    Os yw am fynd yn archdderwydd, gwell i’r hen G.A. ddechrau barddoni heb ragor o lol.

    • Martin Williams (@MartinWilliam34) Gorffennaf 15, 2018 at 11:20 pm #

      Fflat? Pam? Dwi’n falch, ar un lefel fod gennym Gynulliad. Ond weithiau, bydd rhai yn ei alw’n Gynlleied! Pe bai’r refferendwm wedi ei cholli dros ugain mlynedd yn ôl yna dwi’n fodlon betio y byddem wedi gweld mwy o brotestio angerddol dros yr iaith yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Nifer aelodau CYIG yn chwyddo? Sut siâp fyddai ar yr wasg Gymraeg? Dim Cynulliad ond hefo papur dyddiol a Sul? A fyddai pobl wedi mynnu mymryn bach o help gan y Swyddfa Gymreig? Dim ond dyfalu sy’n bosibl.

      Fflat? Dim papur dyddiol Cymraeg. Dim Byd. Y cyfle mawr a gollwyd. Sylweddolaf mai diflas ydi ail-adrodd pethau a son am yr un hen bwnc o hyd. Dwi wedi son am Y Byd sawl gwaith ers rhai blynyddoedd. Ond rydych yn son am lwyddiant pwysig dros ben y papurau bro. Maent yn wych. Maent yn cynrychioli y Gymraeg fel iaith gymunedol. Pwysig dros ben. Roedd Y Byd am wn i, yn cynrychioli IAITH CYNNYDD. Sydd hefyd yn bwysig. Diolch am golwgtrichwechdim. Ond yn cynrychioli delifro anghyflawn gan wleidyddion.
      Y Byd: Taro’r Post ar bapur. Neu Prifwyl 5 gwaith yr wythnos a 52 wythnos y flwyddyn i’w fwynhau hefo paned?
      Be ydi pwynt cael Coleg Cymraeg Cenedlaethol heb i ni hefyd drio cael papur dyddiol a Sul Cymraeg?

      Pob lwc i Steddfod Genedlaethol Caerdydd. Dwi ar ddeall fod pobl Y Dinesydd yn bwriadu argraffu 5 mil o gopïau. Yn rhad ac am ddim i bobl sydd a diddordeb. Da. Gobeithio fod modd efelychu y math yma o fwrlwm ym mhob Steddfod Genedlaethol deithiol pob blwyddyn.

      • glynadda Gorffennaf 16, 2018 at 10:28 am #

        Gwych clywed am gynlluniau’r Dinesydd. Fydd hyn yn ddyddiol? Hyd yma, papurau bro dyddiol ambell Eisteddfod (Y Gadlas yn y Gogledd, a phapur yn Eisteddfod Casnewydd 1988 os cofiaf yn iawn) fu’r unig bapurau dyddiol Cymraeg. Esiampl ardderchog.

        Daw cof am ein paput rag Bronco, a werthodd (yr hen bisyn chwech yr un) 24,800 ar ei ymddangosiad cyntaf (1963). Roeddem yn trio llenwi Tarian Môn a Tarian Arfon â’r un math o stwff, ond dydi pobl ddim yn deall hiwmor bellach; does ganddyn nhw mo’r iaith, a dydyn nhw ddim yn nabod cyfeiriadau. Pob dim mor FFLAT.

  4. Martin Williams (@MartinWilliam34) Gorffennaf 17, 2018 at 11:28 pm #

    Eich geiriau chi yn y llyfr difyr Problem Prifysgol: “…Nid ei deallusion yw prif ogoniant cenedl. Eto mae’n rhaid eu cael…”
    “…Prif ogoniant cenedl yw etholaeth neu boblogaeth neu werin oleuedig…”
    “…Cragen wag fydd y Cynulliad ei hun os na allwn ni gadw gafael ar ein plant mwyaf galluog…”
    Tydw i na 99%(?) o boblogaeth Cymru wedi darllen gwaith gan Goethe, Shakespeare neu Saunders Lewis. Ac yn y pendraw, gellir dadlau fod yna lot mwy i fywyd na bod yn andros o glyfar neu diwylliedig. Ond y mae mymryn o ddarllen a diwylliant yn gorfod bod yn bwysig.
    Beth yw pwrpas Plaid Cymru? Does gen i ddim gwrthwynebiad chwyrn i gael pasbort Cymraeg/Cymreig sy’n dangos yn glir fod Cymru yn wlad annibynnol. Fel ee Gweriniaeth Iwerddon. Neu’r Alban yn y dyfodol? Ond y mae darllen cynnwys pasbort yn ddiflas a biwrocrataidd. Wrth gwrs, gall darllen papur dyddiol neu Sul cenedlaethol efo paned fod yn brofiad llawer difyrrach. Dim ond dweud. O leia bydd rhifyn diweddaraf Y Cymro yn gweld golau dydd yn fuan iawn. Diolch am hynny. A diolch am y tim o bobol brwdfrydig sy’n gweithio’n galed i gynhyrchu’r papur.
    Cragen wag di’r Senedd? Y mae yna rai pethau difyr ar trydar. Ond hefyd gormod o gecru a sŵn negyddol. Yn y pendraw, gwell gen i ddarllen sdwff miniog, adeiladol a heriol ar bapur go iawn. Gadewch i ni fod yn onest, pe bai gan y Gymraeg fwy o egni positif yna byddai yn hawdd i flogiwr difyr fel chi ddenu dros gant o ymatebion gan bobl gwahanol. Wna i ddim ymateb eto. Ond gobeithio y bydd rhywun arall yn trafferthu ymateb!
    Dwi ddim yn derbyn fod yn rhaid i bapur dyddiol neu Sul Cymraeg fod yn rhy elitaidd. Byddai trio siarad mymryn bach o sens a rhoi cyfle i bawb fynegi barn o fewn rheswm yn hen ddigon da i mi.
    Dwi ddim yn gwybod beth ydi’r diweddaraf ynghylch Cyngor Mon: gweinyddu mewnol trwy’r Gymraeg? Ond efallai fod hyn yn lygedyn o obaith o ran normaleiddio a hybu darllen Cymraeg.

    • glynadda Gorffennaf 18, 2018 at 10:33 am #

      Gobeithio daw rhywbeth i ysgogi Martin i ymateb eto. Tebyg iawn y daw.

  5. Aled Jones Williams Awst 1, 2018 at 6:16 pm #

    Dof yn gyson at y blog hwn. Yn bennaf oherwydd y crebwyll goleuedig-proffwydol yn aml, i ddefnyddio hen syniad belach-sydd y tu ol iddo. A iaith y dweud ar ben hynny. Mae’r awdur yn llinach Emrys ap Iwan, W.J.G,, S.L., Alwyn D. Rees. Ioaniaid Fedyddwyr ein cenedl yn aml yn llefaru mewn anialwch. Lleisiau angenrheidiol i bob cenedl fel y dirnada wedyn pam a sut mae hi’n genedl. Ond yn bwysicach efallai, sut y mae hi’n methu a bod yn genedl. Parhaed am yn hir lais dilys ac anhepgorol y blog hwn. Aled J.W.

    • glynadda Awst 2, 2018 at 10:18 am #

      Llawer o ddiolch Aled. Go ysbeidiol yw’r hen flog y dyddiau hyn. oherwydd prysurdeb, ond fe ddaw ambell ebwch eto gobeithio ! Ie, y ‘methu â bod yn genedl’, dyna’r cefndir i bob dim a ddywedwn. Neu, ac edrych o’r ochr arall, parhad cyndyn RHAI o briodoleddau cenedl, sy’n peri o hyd i rai ohonom ddyheu am gwblhau’r adeilad, gorffen y job yn iawn. Ar yr union bwnc hwn, disgwyliwch (o hyn i’r Gwanwyn) olygiad newydd awdurdodol Iestyn Daniel o ‘Ddogfen Gildas’ (‘Coll Prydain’ fel yr arferid ei galw). Beth aeth o’i le ar y dechrau un? Bydd yma drafodaeth fanwl iawn ar ystyriaethau ieithyddol, llenyddol, crefyddol, gwleidyddol, gan geisio gosod y testun gwir broblematig hwn, cyn belled ag y gellir, yn ei wir gyd-destun. Daliwn ati !

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: