Ailystyried (2)

11 Awst

Dyna ni wedi cael ein cwota o ddwy row Eisteddfodol am y flwyddyn, a rhai bach eithaf diniwed oeddynt.

Mae mater y gallesid codi helynt llawer mwy difrifol yn ei gylch.

Yn wyneb y bwriad i ddympio llwythi o fwd ymbelydrol o Hinkley dros y dŵr ar forlan nid nepell o Faes yr Eisteddfod, onid peth eithafol ddi-chwaeth fu caniatáu noddi’r rhaglen ‘Hwn yw fy Mrawd’ gan – o bawb amhriodol yn y byd – gwmni niwclear Horizon? Yn wir, yn wir, mae taer angen am i awdurdodau’r Eisteddfod, yn lleol ac yn ganolog, edrych at eu safonau a’u cyfrifoldeb mewn materion fel hyn. Fe’m hatgoffir i braidd o eiriau’r Ffŵl yn un o anterliwtiau Twm o’r Nant wrth y Cybydd sy’n newid ei grefydd er mwyn priodi gwraig gyfoethog:

Rwy’n amau y troech chwi cyn y Sul
Yn fastard mul am elw.

Ond beth bynnag am yr Eisteddfod, trown yn awr at Blaid Cymru. Darllenwn yn rhifyn cyfredol Heddwch, cylchgrawn da CND Cymru, fod Leanne wedi galw am ‘adolygiad trylwyr o bolisi pŵer niwclear ei phlaid’. Os mai ystyr ‘adolygu’ fydd ‘ategu’, dyna ni, ac yn wir ni allaf feddwl am unrhyw benderfyniad arall a fyddai’n gyson ac anrhydeddus. Ond a oes perygl y cawn ni bolisi o ‘ategu polisi’r Blaid o wrthwynebiad llwyr a diamod i unrhyw ddatblygiadau niwclear pellach yng Nghymru ac eithrio yn y ddwy etholaeth lle mae sôn am godi atomfeydd newydd’?

Ni allaf gael o’m meddwl sylw Rhun ab Iorwerth yn un o’r seiadau holi dro yn ôl. Gobeithio nad wyf yn gwneud cam â’i eiriau, ond fe ddywedodd rywbeth fel hyn: na all ef wrthwynebu cynlluniau Wylfa B a’r un pryd edrych yn llygad cymydog ifanc sy’n gobeithio cael gwaith yno. Dyma rethreg tsiêp o’r math a gysylltwn â gwleidyddion Llafur o’r genhedlaeth o’r blaen. Dyma’r math o beth y byddai Goronwy Roberts yn ei ddweud. Serch ei holl wendid a’i hanwadalwch ar lawer peth yn ystod y blynyddoedd, ni chofiaf i Blaid Cymru erioed o’r blaen ddisgyn i’r lefel hon.

Advertisements

Un Ymateb to “Ailystyried (2)”

  1. Cadi Twll Clo Awst 14, 2018 at 4:45 pm #

    Hollol iawn, Glyn Adda. Un o sgandalau mwyaf Cymru a bywyd cyhoeddus Cymru’n gyffredinol, ydi gwasgaru mwd ymbelydrol o Loegr ar arfordir de Cymru. Clywais fod hyn i ddigwydd ddydd Iau, sef drennydd. Gyda’r llanw fe ddaw’r drwg yn agos i’r lan ymhobman o gwmpas ein harfordir yn y man.

    Pa fath o lywodraeth sy’n croesawu gwenwyn fel hyn, gyda’i holl beryglon i’r cyhoedd? Ydyn nhw i gyd tua Chaerdydd wedi colli eu synnwyr yn l^an? Ydyn nhw yn ein casau gymaint nes eu bod am ein difa? Pam nad oes siw na miw gan y gwrthbleidiau? A ydym ni i fod yn ddymp ar gyfer y pethau salaf o hyd – o garchardai i safleoedd ‘adar angau’ i orsafoedd niwclear?

    Mae angen protest ANFERTH dros Gymru yn erbyn y ffwlbri sarhaus yma, a chic-owt o fywyd cyhoeddus i bawb sydd o blaid ffasiwn wallgofrwydd. .

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: