Cyfoeth y Gymraeg. Mwd, llaid, llaca, llacs, pwdel, stecs. Beth bynnag y galwn ef, heddiw roedd tunelli lawer ohono i’w dadlwytho ar draethau Morgannwg. Ond darllenwn fod y gwaith wedi ei ohirio tan ‘rywbryd ym Medi’.
Mae gan ein hawdurdodau lleol a chenedlaethol felly ryw fis i ymorol na fydd hyn yn digwydd. Ac i’r gwleidyddion sy’n ymgeiswyr am arweinyddiaeth tair plaid, dyma gyfle eithriadol, cyfle mewn oes, i ddangos faint o sylwedd sydd ynddynt.
Unrhyw ymgeisydd sydd o blaid y niwclear p’run bynnag, mae allan o’r gystadleuaeth wrth gwrs.
§
Down yn ôl at wir sgandal yr Eisteddfod, sef y modd y mae hi’n dal i ymrwbio yng nghwmni niwclear Horizon. Wrth ochr hyn … sylwch ar yr italeiddio, ac fe’i dywedaf eto: wrth ochr hyn doedd jôcs hen-ffasiwn yr Archdderwydd a’r Llywydd yn DDIM BYD. Fe’i dywedaf eto: DIM BYD.
Diolch am y sylw am Horizon yn prynu eu ffordd i mewn i’r sefydliad diwylliannol dosbarth canol Cymraeg. Cwbl afiach. Y diffyg chwaeth eithaf oedd presenoldeb gweladwy eu nawdd yn ‘Hwn yw fy mrawd’, y cyngerdd agoriadol oedd yn dathlu cysylltiad Paul Robeson â Chymru. Byddai’r cyfaill hwnnw a ymladdodd yn wrol yn erbyn grymoedd tywyll cyfalafieth a grym gwladwriaeth yn troi yn ei fedd.
Yn hollol. Dylai’r Eisteddfod roi sylw difrif iawn i hyn dros y misoedd nesaf. A chan mai aelodau’r Orsedd yw mwyafrif aelodau’r Llys, mae’n fater i’r Orsedd hefyd. Tybed beth yw barn yr Archdderwydd newydd?
Roedd Horizon yn noddi rhan o’r Arddangosfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg hefyd. Rwy’n deall fod rhai gwyddonwyr Cymraeg yn cael eu cyflogi gan y diwydiant niwclear, ond a gafwyd trafodaeth am hyn mewn pwyllgor cyn yr Eisteddfod ?
Edrych ymlaen at glywe beth fydd gan Myrddin i’w ddweud.