Diwygio defod

22 Awst

Yn dilyn yr Eisteddfod bu ychydig o fwmian am ddiwygio defodau’r Orsedd.

Mater i’r Orsedd ydyw, yn llwyr ac yn hollol. Ond fel un o’r tu allan rhaid imi gyfaddef teimlo ers blynyddoedd dipyn bach o’r ‘anesmwythyd’ y sonia bardd y gadair amdano ynghylch rhan y merched. Yn draddodiadol, mewn myth a symbolaeth, gall y Fenyw gynrychioli gwahanol bethau: (a) Doethineb; (b) Awen; (c) Daear, Pridd, Ffrwythlondeb. Awgrym o’r olaf sydd ym ‘Mam y Fro’ a ‘Morwyn y Fro’. A bodau bach wedi dod am dro o’u trigle tanddaearol yw Tylwyth Teg y Ddawns Flodau. Fel yna y daeth hi pan ddiwygiwyd i gynnwys y pethau hyn, a diau bod yna ryw ragdybiaeth mai pethau i ddynion, ac yn fwy felly i hen ddynion, ac yn arbennig i hen weinidogion yr Annibynwyr, oedd geiriau, barddas, meddylwaith, cynghanedd. Gwelwn bethau ychydig yn wahanol bellach, ond wir – pe bai gorfod arnaf – fyddai gen i fawr o syniad sut i ddiwygio. O safbwynt y pasiantri mae mentyll coch y Fam a’r Forwyn yn cyferbynnu’n ddymunol â’r gwyrdd, glas a gwyn, a byddai llawer o neiniau Cymru’n dra siomedig pe na bai rhan i’r merched bach.

Ond wrth ddiwygio – os diwygio a fydd – rhaid cofio un peth, ac rwy’n hyderus y bydd y Gorseddwyr yn ei gofio. Os nad yw’r ddefod yn wir hynafol (ac ychydig iawn o ddefodau seciwlar heddiw sydd felly), rhaid iddi fod yn ffug-hynafol. Dyna’r holl bwynt. Gwyddai Iolo hynny, a gwyddai Cynan pan aeth yntau ati pan aeth ati i geisio cael tipyn o drefn a gwedduster yn lle pantomeim shambolaidd yr ambaréls a’r sashys, yr hetiau caled a’r godreon trywsusau. Does dim diben ‘moderneiddio’ defod. Sut y byddem yn ‘moderneiddio’ defodau beunyddiol, drudfawr a manwl-gywir y wladwriaeth Brydeinig? Hanfodion defod yw: gwisg ffansi, symudiadau annaturiol, iaith ddyrchafedig. ‘GweinIER [gorchmynnol amhersonol] y cledd, ac eisteddED [gorchmynnol trydydd person] y bardd yn hedd yr Eisteddfod.’ ‘Atolwg iti dderbyn …’. ‘Diolwch, fy merch’.

Yn ogystal: cadw at y sgript, dim ychwanegiadau personol (ac eithrio mewn anerchiadau oddi ar y Maen Llog), a chadw wyneb. Gwyddai’r rôg Iolo mai tipyn o jôc oedd ei Orsedd, a siawns gen i na wyddai Cynan hefyd yn ddistaw bach. Ond trwy’r gweithrediadau rhaid bod o ddifri. Dyna yn ei dro sy’n gwneud yn bosibl yr is-fath hwnnw ar hiwmor Cymreig, sef yr Orsedd ddoniol neu’r ffug-Orsedd.

Ysgrifenna’r hen G.A. fel un na allai byth wisgo’r un o’r Gwisgoedd, ond sydd wedi gwerthfawrogi cyfraniad yr Orsedd drwy’r blynyddoedd. Mae’r Orsedd yn rhywbeth gwahanol, mae’n hollol groes i’r hyn a ystyria’r gwladwriaethau yn ‘smart’. Mae hefyd yn llwyddo i wylltio’n flynyddol y math o bobl na allant ddioddef gweld (a) Cymry ar eu hymdaith, a (b) Cymry’n ffurfio cylch. Mae hyn yn rhan o gynnal ein bodolaeth.

Diau y bydd y Gorseddogion yn troi meddyliau. Ond fel y soniais y tro diwethaf, mae mater mawr iawn y mae’n rhaid i’r Eisteddfod ymorol yn ei gylch y dyddiau hyn, sef ymryddhau o afael cwmni niwclear Horizon. A dyma beth y gall yr Orsedd chwarae rhan allweddol ynddo.

Advertisements

6 Ymateb to “Diwygio defod”

  1. Harri Wyn Awst 22, 2018 at 2:13 pm #

    Eisoes mae bardd y gadair wedi creu chwyldro beth bynnag, gyda’r geiriau dethol sydd ganddo yn ei Awdl. Mae hwnnw’n ddiwygiad o’r mwyaf ac yn ddigon am sbel i’r werin gyffredin.

  2. awelshdawn Awst 22, 2018 at 3:56 pm #

    Beth oedd yn ddiddorol i fi yn sylwadau Gruffudd Owen oedd ei anfodlonrwydd y gwerthoedd oedd yn cael ei arddangos yn seremoni, yn enwedig y ‘patriarchaidd’. Werth cofio creodd Iolo’r Orsedd yn Llundain mewn cyfnod o fygythiad dan gyfundrefn ormesol William Pitt fel modd cudd i ddathlu gwerthoedd gweriniaethol fel brawdoliaeth, cydraddoldeb, heddychiaeth, hawliau dynol, , rhyddid, gwrth gaethwasiaeth – yn hollol groes i’r agweddau imperialaeth Siôr 111. Mae sylfaen gwleidyddol cryf i’r Orsedd.
    Yn y cyfnod cyfoes, pan mae diffyg cyfartaledd, atgasrwydd rhwng cenhedloedd, hiliaeth, rhywioldeb a jingoistiaeth Prydeindod yn bygwth, bydd yn beth rhagorol i bawb yn yr Eisteddfod cofio’r gwerthoedd sydd ar sail bob Seremonïau’r Orsedd. Tybed dyna’r ffordd i feddwl o diwygio’r ddefod?

    • glynadda Awst 22, 2018 at 8:32 pm #

      Gwir. A chydag arweiniad oddi mewn, a fyddai modd deffro eto gydwybod radicalaidd a dyngarol yr Orsedd?

      Yn y cyfamser, ‘if it ain’t bust, don’t fix it,’ meddai dyn doeth. Nid yw’r Orsedd yn ‘bust’ o bell ffordd. Ond meddyliwch am yr holl bethau eraill sy’n hollol ‘bust’ yng Nghymru.

      1. Mwd ymbelydrol ar y ffordd.
      2. Cyflwr ein gwasg.
      3. Dinistr Prifysgol Cymru, a chyflwr enbydus ein colegau.
      4. Cynghorwyr PC yn trefnu Armed Forces Day.
      5. Yr un rhai, cau ysgolion.
      6. Yr un rhai, cau clybiau ieuenctid.
      7. Yr un rhai, rhodd i’r Ysgol Ddrôns.
      &c &c &c

    • gaynor Awst 23, 2018 at 8:03 am #

      clywch clywch

  3. Syr John Morris Jones Awst 25, 2018 at 5:27 pm #

    Iolo a Cynan. Dau brif bensaer yr Orsedd.

    Yn rhyfedd iawn roedd y ddau hefyd yn aelodau o’r seiri rhyddion.

    Dwi ddim yn aelod o’r frawdoliaeth, (na’r Orsedd) ond ai seremoniau’r seiri rhyddion sydd wrth wraidd seremoniau’r Orsedd hefyd ? Mond gofyn.

    • glynadda Awst 25, 2018 at 8:20 pm #

      Mae ysgrif gan yr Athro Griffith John Williams, ‘Gorsedd y Beirdd a’r Seiri Rhyddion’, yn y cylchgrawn Llên Cymru, VII (1966), tt.213-16. Dywed iddo’i jysgrifennu ar gais cyfeillion oedd yn aelodau o’r ddwy gymdeithas.

      Beth yw ystyr y Nod Cyfrin? Mae Cynan yn ei esbonio, e.e. yn y llyfryn ‘Eisteddfod y Cymry:Llawlyfr i Blant Cymru’, t. 17. Felly nid yw’n gyfrin!

      Beth yw cyfrinach y Seiri? Yn sicr ni wn i. Byddaf yn amau weithiau nad oes ganddyn nhw ddim cyfrifanch, ond eu bod nhw’n dweud o hyd fod ganddyn nhw un yn rhywle. A oes rhyw Saer am anfon i mewn i’n goleuo?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: