Enwi trên

25 Awst

Y North Wales Chronicle trwy’r drws yma ddoe. Tudalen 9, ‘War veterans name train to mark the centenary of RAF’.

‘A Virgin train has been named “Royal Air Force Centenary 1918-2018”  to commemorate the RAF’s 100th birthday and its historic links with the railway in North Wales.’ Dadorchuddiwyd yr enw gan gyn-Asgell-Gomandiwr, a gwraig a fu’n ‘posted to Flying Training Command at Penrhos, Pwllheli.’

Ond beth am yr enw? Pam na fyddai rhywun wedi meddwl am enw Cymraeg bachog, hanesyddol, cyfarwydd a chyfoethog ei gysylltiadau?

‘Yr Ysgol Fomio’ siŵr iawn.

A byddai’n cyd-daro’n briodol â phenderfyniad diweddar cynghorwyr Gwynedd (P.C.) i roi rhodd o hanner miliwn o bunnau tuag at Ysgol Ddrôns Meirionnydd.

Advertisements

5 Ymateb to “Enwi trên”

  1. gaynor Awst 25, 2018 at 9:04 pm #

    ie y drons ma sydd yn lladd plant yr Yemen

  2. Cadi Twll Clo Awst 26, 2018 at 3:00 pm #

    Yr un RAF sy’n cael rhwydd hynt i hedfan yn isel uwchben rhannau helaeth o Wynedd gan darfu ar heddwch cefn gwlad a dychryn pobol mewn oed, plant ac anifeiliaid. Dyna sy’n esbonio ei ‘historic links with North Wales’, mae’n debyg; ein defnyddio at eu hamcanion afiach ei hunan ers gormod o lawer o amser.

    Ble mae’r aelodau seneddol yn sefyll ar hyn?

    • glynadda Awst 26, 2018 at 5:13 pm #

      A’r aAelodau Cynulliad?

  3. Martin Williams Awst 27, 2018 at 2:26 pm #

    Y NWC. ‘Dwi ar hyn o bryd yn pori drwy Cymeriadau Gogledd Cymru gan y diweddar Rodney Hughes. Cymeriadau fel D Orwig, Wilbert Ll Roberts, B Lewis Jones. Tud. 12-13: “…Mi roedd Rodney yn wahanol. Mae’r gyfrol hon yn dyst i hynny. Pwy fuasai’n meddwl, ym Medi 1973, am gael colofn Gymraeg mewn wythnosolyn a oedd mor Seisnig ei agwedd? Er bod y Chronicle yn ymwneud a phynciau a digwyddiadau lleol, eto i gyd gogwydd Seisnig oedd i’w weld yn ei gynnwys. Ac yn sicr, bryd hynny, doedd Cymreictod ddim mor ffasiynol a hynny. A dyma’r cyfnod y dechreuodd Rodney sgwennu ei erthyglau ac o’u darllen fe welwn yn glir gymaint oedd dylanwad y Bywyd Cymreig arno”.
    A ellir cynnwys mwy o Gymraeg yn y NWC cyfredol/modern? Llai Prydeinllyd? Yn aml yma yng Nghymru y mae angen mwy o’r bobl cywir yn y swyddi cywir(?)
    Maddeuwch i mi am grwydro, ond a ydyw’r North Wales Pioneer (Bae Colwyn, Llandudno a Chonwy) yn rhyw fath o chwaer-bapur i’r NWC? Porais drwy gopi yr wythnos ddiwethaf. Tipyn o sylw i ddisgyblion disglair Cymru sydd wedi llwyddo gyda’u lefelau A. Da iawn nhw. Llongyfarchiadau iddynt. Roedd rhai wedi cael lle i astudio yn y prifysgolion canlynol (os y cofiaf yn iawn): Warwick, Rhydychen, Coleg y Brenin, Llundain, Durham, Caergrawnt, Sheffield, Caerfaddon Bryste Keele, Caerlyr, Edge Hill, Nottingham, Caerefrog…??
    Dwi ddim yn gweld y pwynt o feirniadu dinasyddion Cymru am ddewis astudio yn Lloegr. Mae gan bob unigolyn ddewis personol. Ond rargian, ydi hyn yn sefyllfa iach i wlad uchelgeisiol fel Cymru? Cywirwch fi os ydwyf yn anghywir, ond ni ddaru’r NWP grybwyll Prifysgol yng Nghymru??
    Faint o’r disgyblion/myfyrwyr, ar ôl graddio fydd yn cael job yn Lloegr? Am ba hyd y byddant yn aros yn Lloegr? A fyddant yn dychwelyd i weithio i Gymru o gwbl??

    • glynadda Awst 27, 2018 at 7:31 pm #

      Diolch Martin.

      (1) Dyna hanes y Cronicl o’i ddechreuad, tua dau gan mlynedd yn ôl. Ac fel yna mae bron y cyfan o’r wasg wythnosol Saesneg yng Nghymru. A’n bai ni yw methu â chynnal gwasg Gymraeg gyfatebol. Gweler fy mlog ‘Gwasg mewn Gwasgfa’, sy wedi ymddangos droeon.

      Dydw i ddim yn cofio a ydi’r Pioneer o’r un stabal â’r NWC. Un ai hynny neu mae’n perthyn i Trinity Mirror yn y pen draw.

      (2) Am destun eich ail baragraff, rwyf wedi pregethu a phregethu ar hyn.
      Gweler fy llyfr ‘Problem Prifysgol’. . A dywedaf: os na fedrwn ni setlo’r broblem hon o fewn rhyw bum mlynedd eto, bydd ar ben ar y Cymry. Pam mae’r Alban heddiw gymaint mwy blaengar na ni? ATEB: am ei bod yn cadw’i phobl ifainc alluog gartref. Mae ei llywodraeth yn ymorol fod hynny’n digwydd drwy eu gwobrwyo’n ariannol, nid fel llywodraethau gwirion Cymru yn rhawio llwythi o bres i Loegr i ganlyn ei phlant ar wasgar.

      Dyma ddau fater HOLLOL GANOLOG os ydym yn gobeithio goroesi o gwbl.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: