Diwedd cofio ?

11 Tach

Ar fore ym mis Tachwedd, yn ôl yr hanes, yr oedd fy nhaid ar ei daith o Garmel yn Arfon i ymweld â’i deulu yng ngwlad Llŷn, lle’r oedd un o’i frodyr newydd farw. Yn gyntaf, cerdded i lawr y gelltydd i’r Groeslon i ddal y trên. Ac yntau’n mynd ar drot yng nghyffiniau Penfforddelen, yn sydyn canodd holl gyrn y chwareli ar adeg anarferol. ‘Be sy wedi digwydd?’ gofynnodd fy nhaid i’r cyntaf a welodd. ‘Y rhyfel wedi gorffen.’ Can mlynedd i heddiw oedd hi. Pump o’i feibion, nid yn ddianaf, ond o leiaf yn fyw: pedwar yn y byddinoedd ac un ar y môr. Aeth yntau’n syth i Dafarn Pen Nionyn yn y Groeslon ac ordro gwydraid o rỳm; ei unig un erioed, mae’n debyg. Yna neidio ar y trên ac am Bwllheli.

Diau fod gan bron bob teulu ei hanesyn am y diwrnod.

**

Tebyg na bydd diwedd ar y cofio, ac ar ryw olwg ni ddylai fod. Ond dyma ddiwedd ar y rownd hon o gofio, wedi codi i fath o anterth yr wythnos ddiwethaf yma. Wrth edrych yn ôl dros y pedair blynedd caf ryw argraff neu deimlad na chafodd y Sefydliad a’r Adain Dde mo’r holl enillion yr oeddent wedi gobeithio’u cael o’r peth. Fe ddaeth y Brexit i lenwi bryd ac i lyncu egnïon Prydeinwyr.

Nid â mis Tachwedd heibio heb ryw drafod, a pheth anghytuno, ar ba fath gofio sy’n briodol. A do, fe ddangoswyd Blackadder eto er gwaethaf rhybudd Paxman bedair blynedd yn ôl na fyddai hynny’n gweddu. (Gweler Meddyliau Glyn Adda, tt. 33-5. Neu hwyrach yr hoffech ymweld â hen flogiadau 14 Ionawr, 16 Chwefror a 26 Gorffennaf 2014.) Dyna un wedd gadarnhaol ar y coffâd eleni, i’w gosod gyferbyn â’r fersiwn anferth gelwyddog y mae’r Sefydliad yn ei rhoi allan bob blwyddyn. Gyda’i groesdoriad o gnafon a ffyliaid y genhedlaeth, a’r cyfan yn gorffwys ar ysgwyddau’r taeog tlawd Baldrick, Blackadder yw’r darlun mwyaf cywir eto o’r gyflafan anferthol ddi-chwaeth, ddiangen a di-gyfiawnhad.

Ond deil llawer eto, y mwyafrif mae’n debyg, i fethu neu i wrthod gweld hyn. Hysbyseb yn y Radio Times, ar ran elusen hollol deilwng nid wy’n amau, yn datgan ‘We all have a lot to thank the First World War generation for.’ Ond am beth? Ie am beth, mewn difri? Beth oedd cyfraniad, beth oedd rhodd, cenhedlaeth y Rhyfel Mawr? Ateb: y Rhyfel Mawr, ynghyd â’i holl ganlyniadau, yn cynnwys rhyfel arall. Rwyf wedi meddwl llawer am hyn dros y blynyddoedd, ac rwy’n dal i feddwl. Cabinet Asquith y galluocaf erioed efallai i gwrdd o gwmpas bwrdd Stryd Downing, gwerin gwlad yn fwy deallus a goleuedig na ni mewn llawer o bethau. Ond nhw cawliodd hi.

Beth ddigwyddodd? Darllenwch Hen Lyfr Bach Lloyd George, tt. 30-2, cyfieithiad o ddarn o War Memoirs enillydd y rhyfel. Ugain mlynedd wedi’r trychineb, mae Lloyd George yn ceisio galw i gof yn union sut y dechreuodd. Yn ôl doethineb confensiynol, ac yn ôl fersiwn llywodraethau yn aml, fe benderfynir ar ryfel fel modd i ddatrys problem ar ôl i bopeth arall fethu. Y gwrthwyneb yw’r gwir, o leiaf am ryfeloedd rhwng gwladwriaethau: wedi i’r awch am ryfel gychwyn a chydio, fe ddyfeisir y broblem wedyn. Gwelai Ll.G. yn hollol glir, yn 1934 o leiaf, mai o eigion calon gwerinoedd ar draws y gwledydd y cododd yr awydd yn sydyn ddechrau Awst 1914. Gwallgofrwydd neu hysteria torfol ydoedd, a llywodraethau’n rhy wan i’w atal. A oedd Ll.G. yn gweld hynny ar y pryd? Rwy’n amau ei fod, ond fod cymhellion personol a phwysau lawer yn ei yrru i roi gwedd wahanol ar bethau, fel mai ei ddylanwad ef – yr unig ddyn, hwyrach, a allai fod wedi cadw Prydain Fawr allan o’r gwrthdaro, neu hyd yn oed wedi rhwystro’r gwrthdaro – a sicrhaodd undod a oedd bron yn llwyr o blaid ymladd.

Trasiedi’r ugeinfed ganrif.

7 Ymateb to “Diwedd cofio ?”

  1. gaynor Tachwedd 11, 2018 at 4:21 pm #

    Meddylies I yr union ryn fath a chi heddi wrth weld clip o Black Adder

  2. commanjack Rhagfyr 26, 2018 at 1:58 am #

    Mae can mlynedd megis doe : bydd rhai (ac nid rhai hen iawn, chwaith) yn cofio gweld par o fwledi reiffl wedi mowntio a’u gosod ar silff ben tan ty taid a nain (lle oedd gwr y ty wedi bod yn filwr cyffredin) ac yn cael eu gloywi yn rheolaidd fel yr “ornaments” pres eraill gan nain. Fel y dywedwch, trychineb oedd y Rhyfel Mawr, un na ddaeth i ben ym 1918, ond a ddeorodd yn hytrach ryfel mawr arall mewn chydig, chydig iawn o amser – mor fawr nes nad oedd dim yn ddigonol ond eu galw yn rhyfeloedd byd. Yn y trigeiniau, yn fath o sgil effaith i’r gwrthwynbiad daear eang yn y diwedd- globol fuasai’r gair erbyn hyn – i’r asgell dde go-hung ymyrraeth yn Fietnam, daeth gobaith cynyddol fod y byd cyfan yn mynd yn wrthwynbus i ryfel, ac na fuasai arweinwyr y gwladwriaethau byth eto yn cael y bobol gyffredin mor barod i ymladd eu rhyfeloedd drostyn, bod “grym serch” yr hippies cynnar yn ennill y dydd, a’r marsiandwyr rhyfel tra chyfoethog yn mynd i lwgu o eisiau ymborth i’w twyll, ac yn marw o’r tir. Stori arall ydyw beth ddigwyddodd wedyn, ond digon dweud bod bod eu llais erbyn heddiw yn gryfach a’u coffrau yn llawnach nag erioed o’r blaen. Rhif 3, pryd y daw, dyna’r cwestiwn a beth fydd ar ol wedyn.

    • glynadda Rhagfyr 26, 2018 at 1:55 pm #

      Diolkch Commanjack. Dau bwynt:

      (1) Wedi ei gychwyn gan Kennedy (Democrat) a’i derfynu gan Nixon (Gweriniaethwr) — cofier hynny — rhyfel Vietnam, hyd y cofiaf i, fu’r rhyfel cyntaf erioed â gwrthwynebiad cyson iddo tra pharhaodd. Gwir fod y mwyafrif oi’i blaid ar bob adeg (buddugoliaet5h ysgubl Nixon yn erbyn McGovern. 1972); ond yr oedd gwrthwynebiad. Nid oedd hynny’n wir am ryfeloedd byd hanner cynta’r ganrif.

      (2) Mae hi’n flêr iawn mewn llawer rhan o’r byd heddiw, gwaetha’r modd. Ond nid oes, ar hyn o bryd beth bynnag, ‘sefyllfa ryngwladol’ (international situation) yn yr ystyr o debygrwydd rhyfel rhwng ymerodraethau. Bu hyn yn welliant, ac un rheswm amdano yw diflaniad ymerodreaeth Prydain.

      • commanjack Rhagfyr 26, 2018 at 3:54 pm #

        Mae eisiau cofio hefyd wrth gwrs o ran ymyrrath Kennedy’r Democrat yn gyrru’r “Cavalry” i mwn i wneud rhywbeth o’r llanast adawodd Ffrainc yno elfennau politicaidd gormesol gartref fel panic y “reds under the bed,” a thramor effaith ddiamheuol, meddid, y domino disgynnol – y naill bisyn ar ol y llall, pe collid y wlad i gomunyddiaeth, heb son am ystrywiau FBI Hoover yn gweithio’r tannau allan o olwg y Bobol. A’r “dyn drwg,” y Republican Nixon wedyn, yn y diwedd, pwy feddyliai?, yn dwad a’r holl smonach truenus i ben, yn ogystal a chychwyn yr ymgom newydd a Sina ( Sina Mao-Tse-Tong (os cofiaf)- y Jaw-Jaw -( “Jaw Jaw is better than war war,” mae pennod gyfoes y stori ryfel yn nwylo y daffodwr (datodwr) Trump, fo ydyw’r Golygydd, math newydd o weriniaethwr. Ond ydyw o?

  3. commanjack Rhagfyr 26, 2018 at 4:20 pm #

    (Cofiaf weld brolio (neu ganmol ella) achau Cymreig Nixon yn y Drych, cyn y darostwng yn y Watergate _ “There will be no whitewash in the White House.” Onid oedd llawer o’r papur ddim yn dal yn Gymraeg yr adeg hynny? Nage, nid y Washington Post!)

  4. commanjack Rhagfyr 28, 2018 at 2:19 am #

    Gan obeithio nad ydyw fy nghroeso i gynnig sylwadau yn ‘ch wedi mynd yn rhy denau, gair bach sydyn, os caf, ar y “jaw jaw,” i’m cywiro fy hun o bosib. Wedi dechrau amau fy mod wedi cymysgu rhwng Nixon a Rgan yn y dyfyniad yna, mi eis i ofyn barn Mr Google ar y pwnc. Dim son am y naill arlywydd na’r llall ynglyn a’r geiriau, er bod un cyhoeddwr yn honni mai camddyfyniad o ryw eiriau gan Churchill ydyn nhw, yn son am drafod (ar heddwch) “jaw to jaw.”

    • glynadda Rhagfyr 28, 2018 at 10:15 am #

      Ie, i Churchill y clywais innau briodoli’r geiriau gyntaf.

Gadael sylw