Gwerth troi’n alltud ?

12 Tach

Do, bu’r hen flog yn ddistaw am tua thair wythnos, tan ddoe. Prysurdeb a thrafferthion oedd y rhesymau, a gor-ddweud yw unrhyw adroddiadau fod yr hen G.A. wedi mynd i’r Blogfyd Mawr Tragwyddol. (Dim byd fel hen jôc, nac oes? Diolch, Mark Twain.)

Yn ôl felly at ambell stori fach o’r wythnosau diwethaf.

Stori na chafodd ryw lawer o sylw yw fod Glyn Davies AS (Sir Drefaldwyn) yn cyflwyno mesur a fydd yn estyn hawl i allfudwyr o Brydain bleidleisio mewn etholiadau Prydeinig ar bob lefel. Dan y ddeddf fel y mae fe gollir yr hawl ar ôl byw i ffwrdd am bymtheng mlynedd. Deellir y bydd y llywodraeth yn cefnogi’r mesur.

Ambell bwynt a chwestiwn; dichon fod atebion i’r cwestiynau rywle ym mesur Mr. Davies, a gweler ei flog hefyd.

(1)  A fydd y Prydeiniwr alltud wedyn yn colli ei bleidlais yn ei wlad fabwysiedig? Dibynna, mae’n siŵr, ar ei statws dinasyddol ef yn y wlad honno, ac ar bolisi ei llywodraeth hithau. Wedi’r Brexit – os bydd Brexot – dyn a ŵyr …

(2)  A fyddem yn camgymryd, neu’n hel meddyliau drwg, pe baem yn awgrymu’n gynnil mai rhyw help bach i’r Ceidwadwyr fyddai hyn? Yn amlach na pheidio pobl ar y dde yw allfudwyr, pobl sy’n mynd am borfa newydd yn hytrach na cheisio gwella’r borfa gartref. Y dyddiau hyn cawn Saeson yn ymfudo i Ganada, Awstralia, Zeland Newydd a Chymru i osgoi mewnfudwyr i Loegr. Clywais ddyfynnu’n ddiweddar: ‘It’s lovely ’ere [sef yng Nghymru]. Everybody speaks English. It’s just like England used to be thirty years ago.’

(3)  Tebyg mai i’r allfudwr unigol yr estynnir y fraint, os daw’r mesur yn gyfraith, nid i ddisgynyddion allfudwyr hyd y nawfed ach. Go brin y bydd Cymry Patagonia yn cael pleidleisio yn ’Rhen Wlad, na disgynyddion y cannoedd a allfudodd o Sir Drefaldwyn yn ystod y 19eg ganrif.

(4)  Ble bydd yr allfudwr yn arfer ei hawl? Yn yr etholaeth lle ganed ef? Neu lle cofrestrodd ef ddiwethaf cyn mynd? Oni fyddai’n hwyl estyn yr hawl hon i ymfudwyr o Loegr i Gymru? Cael dal i bleidleisio yn (dyweder) Wolverhampton yn hytrach nag yn (dyweder) Llanllechid, lle na wyddant ddim o’i hanes ac nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb yn ei hynt a’i helynt? Syniad da hefyd, ond go brin fod hwn ym mesur Mr. Davies: fod myfyrwyr i bleidleisio gartref, nid fel adar tramwy yn eu trefi prifysgol. Dan drefn felly, gellid, o bosib achub pen Plaid Cymru yn Arfon a Cheredigion.

(5)  Ond o ddifri. Mae egwyddor y mesur hwn yn anghywir. Cymry, at bwrpas democratiaeth, yw pawb sydd wedi cofrestru yng Nghymru. Ie, yn cynnwys y 46% – dyna’r ffigiwr medden nhw – sydd wedi eu geni tu allan i Gymru. Ni allwn symud ymlaen ar unrhyw sail arall. Gofynnwch i genedlaetholwyr yr Alban: pwy yw’r Albanwyr heddiw? Fe atebant: pawb sy’n byw yn yr Alban. Pregeth ry gyfarwydd gan wrth-Gymry a gwrth-Albanwyr yw ‘and I’m half Scots/Welsh meself’.

(6)   Yn yr Alban fe allai’r newid arfaethedig wneud niwed bach i achos annibyniaeth. Yng Nghymru ni wnâi unrhyw wahaniaeth, oherwydd ar ôl y MWD nid oes wleidyddiaeth ystyrlon yng Nghymru. Yn wir, o’r fan rwy’n sefyll y funud hon, ac oni ddaw rhyw newid  nad oes olwg ohono ar hyn o bryd, ymddengys nad oes dyfodol i’r Cymry o gwbl.

(7)   Pwy sy’n gweld yn wahanol?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: