Dau fath o oglau drwg

13 Tach

Wedi llwyddiant Eisteddfod y Bae, nid rhyfedd fod trefi eraill erbyn hyn yn dechrau meddwl am Eisteddfod Stryd, ac nid syndod mai Caernarfon yw’r dref gyntaf i godi at yr abwyd. Gellir rhagweld problemau, ond posibiliadau gwir ddeniadol hefyd.

Un amod ar gyfer llwyddiant, ac amod gwbl hanfodol hefyd. Ar adegau arbennig – pryd a pham yn union, nis gwn – fe gyfyd rhyw ddrewdod ofnadwy o rywle nes llethu’r dref a’r cyffiniau am rai oriau … a chwythu heibio wedyn. Cyn gwahodd yr Eisteddfod, rhaid mynd at wraidd y malltod hwn a bod yn sicr y gellir ei symud ymaith cyn Gŵyl y Cyhoeddi.

Ond mae oglau drwg arall hefyd, a gobeithio y daw chwa o wynt iachus i’w sgubo ymaith er lles yr Eisteddfod a lles pawb ohonom. Yn fyr: rhaid torri’r cysylltiad rhwng yr Eisteddfod a chwmni niwclear Horizon.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: