Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol

28 Tach

Ew, dyma ichi destun newydd, gwreiddiol, ffres, CYFFROUS !!

Fel llawer – pawb am wn i – yr oedd yr hen G.A. yn croesawu llwyddiant ‘Eisteddfod y Bae’. Ond dro neu ddau yn ystod yr wythnos ac ambell dro wedyn yr oedd rhyw hen lais bach yng nghefn ei feddwl yn sibrwd y ddau air ‘tâl mynediad’.

Bellach dyma ni’n gwybod maint y tolc. Yng nghyswllt gwario cyhoeddus heddiw nid yw £290,139 yn ddim, ond yng nghyd-destun cyllid yr Eisteddfod y mae’n llawer. Er mwyn galluogi rhagor o Eisteddfodau Stryd, faint o hen Eisteddfodau Maes-a-Mwd fydd raid eu cynnal? Ai gan Ŵyl Caeredin y mae’r ateb, sef talu wrth y drws am bob sioe? Go brin. Yr unig dro y bûm ynddi, a thalu’n unigol am bob perfformiad, gwych a gwachul (a digon o’r ail fath, credwch fi), yr hyn a’m trawai oedd cymaint o fargen yw’r Eisteddfod: i mewn i’r maes, a dyna ni.

Ac unwaith eto, tawed y mwydro fod y maes yn gwneud yr Eisteddfod yn ‘gaeedig’, yn ‘ddigroeso’ a’r holl lol yna.

Yn awr, bydd yr Eisteddfod nesaf yn Llanrwst. Peidier â synnu os daw cynnig o rywle o nawdd ychwanegol pur hael i’r Brifwyl … gydag un neu ddwy o amodau. Craffer ar yr amodau, a gofyn a fyddai unrhyw fath o bosibilrwydd iddynt arwain yn y man at … ddywedwn ni … safle barhaol, neu dipyn o … ddwyieithogi; sef yn y pen draw, diwedd yr Eisteddfod.

Petai rhyw demtasiwn fel hyn, does ond gobeithio y byddai ymhlith y swyddogion, y Bwrdd Gweithredol a’r Cyngor ddigon o ruddin i ddweud ‘dim diolch’. Byddai cyfrifoldeb ar yr Orsedd hefyd.

Cofgolofn i Iolo? Syniad digon da. Ond y gofeb orau iddo fydd diogelu’r Eisteddfod deithiol, Gymraeg.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: