Diwedd yr hwyl ?

6 Rhag

‘Sut mae hi’n dwad ymlaen yn y senedd, fechgyn?’ yw cwestiwn Jona’r Teiliwr yn stori anfarwol Tegla, ‘Mesur Tir’. Ac ateb Nedw: ‘Pasio i fesur tir mae nhw.’

Wel ie, sut daw hi ymlaen ddydd Mawrth nesaf yma? Be basian nhw? Mae swllt yr hen G.A. yn dal ar yr un ceffyl: Dim Brexit.

Tŷ’r Cyffredin yn gwrthod cefnogi’r cytundeb. A fydd raid i’r llywodraeth ymddiswyddo? Dim o’r fath beth. Gallwn gymryd mai ar ‘gynnig seneddol’ y bydd y bleidlais (nid ar fesur), ac nid yw pleidlais ar gynnig yn rhwymo neb. Rywdro cyn y Rhyfel Cyntaf pasiwyd cynnig o blaid ymreolaeth ffederal i bedair gwlad Prydain fel yr oedd bryd hynny (‘Home Rule all round’); ie, syniad bach reit dda … gwerth meddwl amdano … ryw dro efallai … gawn ni weld. Ond wrth gwrs ni ddaeth dim o’r peth.

Theresa’n colli. A fydd raid iddi fynd? Na fydd, onibai ei bod yn dewis. Tebyg y bydd gofyn i Lafur fynd drwy’r mosiwns o ‘bleidlais o ddiffyg ymddiriedaeth’, ond fe wna hynny gan weddïo ar Dduw na bydd mwyafrif drosto. Oherwydd rhodder i’r Blaid Lafur heddiw – neu i unrhyw un – y dewis rhwng (a) pigyn clust a ddannoedd, a (b) gorfod dal y babi stranclyd Brexit, (a) fyddai piau hi yn ddi-ffael.

Y dewisiadau wedyn? (1) Ymadael fis Mawrth heb gytundeb, ‘crashio allan’ fel y dywedir. (2) Yn ôl i Frwsel, gofyn am fwy o amser, lloffa am ryw fymryn o delerau gwahanol. (3) Refferendwm arall. (4) Ei gadael hi fanna, hogia. Ddaw hi ddim.

Proffwydaf mai (4) fydd y ffefryn. Nid yw mwyafrif yr Aelodau Seneddol, ac nid yw’r Sefydliad, am weld Brexit o gwbl. Efallai mai’r ffordd hawsaf allan ohoni fydd pleidlais rydd yn y Tŷ, a phenderfynu aros. Hanner gair wrth Ewrop ein bod yn aros, yn ôl cyngor twrnai mawr y Gymuned. A dyna ni. Y cwbl ar ben.

Gall y Sun, yr Express a’r Mail refru faint a fynnont. Ni allant wneud dim arall. Ac erbyn y daw etholiad cyffredinol eto bydd Brexit yn hen hanes.

Bu’n hwyl tra bu. Yr hwyl orau ers Profumo. Yr oedd cyfle i’r Ceidwadwyr ei chawlio hi go-iawn, ond nid aethant ymlaen â hi. Buan y bydd y blaid Dorïaidd yn eu hatgyweirio ei hun, fel y gwna bob amser – efallai dan arweinydd newydd, a all fod yn rhywun amlwg neu’n ‘geffyl tywyll’.

Tawela pethau yn Iwerddon unwaith eto, ond cilia’r posibilrwydd o Iwerddon Unedig.

Bydd yr Alban wedi colli cyfle aruthrol, hanesyddol. Ni bydd iddi ond dal gafael, a disgwyl am ryw gyfle arall.

A ninnau’r Cymry? Suddo’n ddyfnach yng nghors ein hanallu?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: