Achub cadair !!

15 Rhag

‘Cadair wag fu Cadair Rhŷs – ers amser,
A simsan iawn megis …’

Canodd R. Williams Parry.  A do, bu’n wir ar fwy nag un cyfnod oddi ar sefydlu’r Gadair Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1877.

Ond hwrê! Yn ôl yr adroddiadau dyma Brifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i’r adwy gyda chlennig hael i helpu Rhydychen a Choleg yr Iesu yn eu tlodi eithafol. Ardderchog yntê!

Ond ambell gwestiwn:

(1) O’r swm a gyfrennir, a wyddom faint sy’n dod (a) gan Brifysgol Cymru, a (b) gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant? Bydd yr atebion, mae’n debyg, yng nghofnodion cynghorau’r ddwy brifysgol, ond gobeithio (mewn un achos o leiaf) na bydd talpiau helaeth o’r cofnodion wedi ei blacledio y tro hwn.

(2) A oes cyfraniadau gan rai o’r ‘prifysgolion’ newydd a ymddangosodd yng Nghymru yn 2007? Faint, er enghraifft, gan Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor?

(3) A welwn ni Rydychen, wedi iddi osgoi crafangau Gwiddanes Tlodi, (a) yn helpu Aberystwyth i adfer hen gadeiriau Gwynn Jones a Parry-Williams, a (b) yn achub Adran Gemeg Bangor? Byddai hynny’n gyfnewid teg oni fyddai?

(4) Ai Cymru y tro hwn sy’n dwyn y baich i gyd? A ddaw cyfraniadau o wledydd ‘Celtaidd’ eraill tuag at ddysgu ‘iaith Manaw, Llydaw a’i llu’ (Williams Parry eto) yn hen Gartref yr Achosion Coll?

* * *

Rhag bod camddeall, a chan fawr obeithio nad wyf innau’n camddarlunio’r sefyllfa erbyn hyn, noder mai cwrs diploma, yn draddodiadol beth bynnag, oedd cwrs Rhydychen mewn Astudiaethau Celtaidd. Ond byddai’r ‘Athrawon Celteg’ yn yr olyniaeth o Rhŷs ymlaen yn cyfarwyddo gwaith graddedigion (o Rydychen ei hun neu ble bynnag) a fyddai’n gweithio tuag at raddau uwch. Gellir hefyd astudio’r Gymraeg (ac, am wn i, unrhyw iaith Geltaidd arall) yn y cyrsiau M.Phil (cyrsiau’n cynnwys traethawd estynedig ac arholiadau) mewn Saesneg ac mewn Llên Gymharol. Ei swm a’i sylwedd hi yw mai dyrnaid bychan bach bach a fyddai’n efrydu yn y meysydd hyn mewn unrhyw flwyddyn; amherthnasol felly yw’r ystadegyn a ddyfynnwyd yr wythnos hon fod ‘400 o ddisgyblion o Gymru yn ceisio am le yn Rhydychen bob blwyddyn’.

* * *

A thra bôm ar bwnc Addysg Uwch, digrif, pathetig yn wir, oedd yr adroddiad fod ein cynrychiolwyr o Blaid Cymru (Cynulliad a San Steffan) yn Arfon a Môn yn erfyn ar Brifysgol Bangor i ‘droi pob carreg’ cyn diswyddo staff ! Mae Prifysgol Bangor yn llawer iawn rhy fawr: dyna’n safbwynt ni fel Cymry a chenedlaetholwyr oddi ar y 1960au. Mae’r cyfeiriad a gymerodd pethau wedi bod yn andwyol i ddinas Bangor ac i’r wlad ar ddwylan Menai. Ac os digwydd etholiad cyffredinol yn ystod tymhorau’r colegau, mae mawr berygl mai Plaid Cymru fydd yn talu’r pris. Wedi ‘troi pob carreg’ faint o ddiolch a gaiff ein gwleidyddion gan staff traddodiadol a pharhaol wrth-Gymreig ‘Coleg Bangor’ (fel y mae rhai ohonom yn dal i’w alw)? Yr ateb yw DIM, a LLAI NA DIM.

Dyma blaid wedi colli’r plot yn llwyr.

Advertisements

10 Ymateb to “Achub cadair !!”

  1. Dei Tomos Rhagfyr 15, 2018 at 2:35 pm #

    Cwestiwn bach, pam ar wyneb y ddaear nad oes neb yn eistedd yng nghadeiriau Gwyn Jones a Parry Williams, yn bwysicach pam nad oes yr un Athro yn Adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, a pham nad oes neb, wel neb bron, yn holi nac yn poeni yn gyhoeddus? Mi wn fod un neu ddau wedi bod yn gweithio’n dawel tu ôl i’r llenni, ond hyd yma ddaeth dim o hynny, mae’n amser clochdar yn gyhoeddus.
    Gwir hefyd eich casgliad hefyd am faint ‘Coleg Bangor’, ac mae’r busnes Rhydychen yma yn nonsens llwyr, er cystal y tradddodiad ynghlwm a Chadair John Rhys a’r llu ysgolheigion Cymreig a fu yno, onid gwell fyddai cael rhywbeth tebyg yn un o Brifysgolion Cymru neu Iwerddon dyweder? O diawch mi anghofiais mae prifysgolion Lloegr mae’n ymddangos yn well na rhai Cymru, ydyn nhw ddiawl?

    • glynadda Rhagfyr 15, 2018 at 4:26 pm #

      I fod yn gwbl sicr o’r ffeithiau, gwell pe bai rhywun o Aberystwyth yn ateb. Ond rwy’n credu fy mod yn weddol agos ati. Yn nyddiau Gwynn Jones a Parry-Williams yr oedd Cadair Llenyddiaeth a Chadair Iaith yn Adran y Gymraeg, Aberystwyth. Am gyfnodau wedyn un ‘Gadair Gymraeg’ fu yno, ond ‘Cadair Wyddeleg’ yn ogystal. HYD Y GWN (a brysied rhywun i’m cywiro os wyf yn anghywir) nid oes deiliad ar hyn o bryd i’r un o’r ddwy gadair. Y mae wrth gwrs Bennaeth Adran, ac yn ymarferol mae popeth yn iawn. Eto mae rhywbeth yn chwithig os mai gwag yw’r ddwy gadair draddodiadol. A oes rhywun o Aberystwyth am esbonio pam na lenwir hwy? A wyf yn gywir hefyd nad oes cadeiriau personol yn y Gymraeg yn Aberystwyth, fel sydd ym Mangor?

      Trawodd fi wedyn ddau beth na wyddwn, ac na wn, am Rydychen, ac mae’n siwr fod atebion syml i’r ddau gwestiwn. (1) Pwy fu’n talu cyflog yr Athro Celteg o’r cychwyn, Coleg Iesy ynteu’r Brifysgol? Ynteu ar y cyd? Yng Ngholeg Iesu y mae’r gadair, ond mae’r Athro (pan fydd yn) yn dysgu drwy’r Brifysgol. (2) A ellir astudio’r Gymraeg, neu unrhyw iaith Geltaidd, fel rhan o’r radd ddechreuol mewn Ieithoedd Modern?

      • Gruffydd Aled Williams Rhagfyr 16, 2018 at 7:18 pm #

        Ar un ystyr peth da o safbwynt y ddisgyblaeth yw’r bwriad i adfer Cadair Gelteg Prifysgol Rhydychen, ond testun syndod i lawer ohonom yw nawdd Prifysgol Cymru a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant yn y cyswllt hwn. Gobeithio nad estynnir y nawdd hwn ar draul ariannu’n deilwng sefydliadau fel y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Gwasg Prifysgol Cymru, sefydliadau sy’n gwbl allweddol o ran ffyniant ysgolheictod Cymraeg yng Nghymru ei hunan.

        Fel deiliad diwethaf y Gadair Gymraeg yno, tristwch mawr i mi yw nad oes Cadair yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth. Cafodd Adran y Gymraeg yno ei thrin yn gywilyddus yn ystod teyrnasiad anffodus yr Is-Ganghellor diwethaf (2011-2016). Yr oedd gan rai ohonom obaith y byddai’r sefyllfa yn gwella o dan yr oruchwyliaeth newydd, ond, ysywaeth, rhaid dweud yn awr mai ein siomi a gawsom hyd yma. Fel yr awgryma Dei Tomos fe fu peth ymdrech ‘y tu ôl i’r llenni’ i geisio unioni’r sefyllfa. Ysgrifennais at yr Is-Ganghellor presennol, yr Athro Elizabeth Treasure, ynghylch y mater ym Mehefin 2017 a thrachefn ym Mehefin 2018 (a gwn i eraill hefyd fod yn gohebu a thrafod â hi). Mewn ateb (dyddiedig 27 Mehefin 2018) a dderbyniais gan yr Is-Ganghellor nodwyd a ganlyn:

        ‘Carwn weld deiliad Cadair unwaith eto yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac rwy’n ymwybodol o arwyddocâd a phwysigrwydd hyn i’r Adran. Serch hyn, mae’n rhaid ystyried ein sefyllfa ariannol, ac ar hyn o bryd, nid oes modd i mi wneud hynny. Wrth i ni symud ymlaen ar ôl y cyfnod hwn o ailstrwythuro, bydd yn rhywbeth y gallaf ai ailystyried.’

        Bu’r ailstrwuythuro y cyfeirir ato ar droed eleni, ond, hyd y gwn, nid oes argoel hyd yma o unrhyw symudiad mewn perthynas â phenodi i Gadair yn Adran y Gymraeg. Fel y nodais yn fy llythyrau at yr Athro Treasure mae’r sefyllfa o ran diffyg Cadair yn yr Adran yn gwbl anfoddhaol, a gellid ei dehongli fel arwydd o ddiffyg ymrwymiad ar ran Prifysgol Aberystwyth at y Gymraeg yn gyffredinol ac yn benodol at astudio’r iaith a’i threftadaeth ddiwylliannol.fel disgyblaeth academaidd. Dyma gamwri y dylid ei unioni ar fyrder. Gwir fod sefyllfa ariannol mwy nag un o brifysgolion Cymru yn anodd. Ond os yw sefyllfa ariannol unrhyw Brifysgol gyfryw fel na all fforddio penodi i un Gadair mae lle i boeni’n ddirfawr ynghylch ei dyfodol.

  2. glynadda Rhagfyr 16, 2018 at 8:32 pm #

    Dyma dystiolaeth allweddol gan un sy’n gwbl gyfarwydd â’r sefyllfa. I ba gyfeiriad bynnag yr edrychwn yng Nghymru, gwelwn ein sefydliadau’n dymchwel ac yn chwilfriwio dan law asynnod. Meddylier mewn difri am Goleg Harlech.

  3. Cadi Twll Clo Rhagfyr 18, 2018 at 1:04 pm #

    Onid ydi Medwin Hughes, Dirprwy-Ganghellor Prifysgol Cymru, yn frodor o Fodffordd?

    Deallaf fod Cyngor M^on am gau ysgol y pentref hwnnw oherwydd diffyg arian.

    Oni allai Medwin Hughes, sydd wedi cyfrannu mor hael o bwrs Prifysgol Cymru dlawd i Brifysgol Rhydychen gyfoethog, sbario rhyw hanner miliwn arall i achub ysgol bro ei febyd?

    • glynadda Rhagfyr 18, 2018 at 1:11 pm #

      Syniad gwych, Cadi ! Syniad disglair ! Pam na feddyliais i am hyn?

  4. Syr John Morris Jones Rhagfyr 19, 2018 at 4:34 pm #

    Wedi gwglo ‘chydig, a chanfod fod gan Brifysgol Rhydychen waddol sy’n werth £5,592.2 miliwn o bunnau ( yn 2017) mae yna un gwestiwn bach syml y mae’n rhaid i mi ei ofyn.

    Pam, ydan ni yma yng Nghymru fach dlawd, hyd yn oed yn trafod y syniad o roi mwy o arian i un o sefydliadau addysgol cyfoethocaf y byd gorllewinol ?

    • glynadda Rhagfyr 19, 2018 at 5:56 pm #

      Da iawn Syr John. Dyma ddarn o ymchwil gwerthfawr i’w osod gyda’ch Welsh Grammar a’ch Cerdd Dafod.

      A pham nad yw’n cyfryngau yn pwyso ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau fel hyn i’w hesbonio a’u cyfiawnhau eu hunain? Pam yr ydym mor llipa yn wyneb y ffars sy’n digwydd ym myd addysg Cymru?

  5. Cadi Twll Clo Rhagfyr 20, 2018 at 10:32 am #

    Mae Prifysgol Cymru’n elusen. Hefyd Prifysgol Rhydychen, rwy’n meddwl.

    A fedr rhywun efo gwybodaeth gyfreithiol ddweud a ydi’n iawn i un elusen roi arian i elusen arall?

    • glynadda Rhagfyr 20, 2018 at 12:53 pm #

      Agwedd o bwys arbennig. Diolch am dynnu ein sylw C.T.C.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: