Cyfarchion Gŵyl Ddwynwen!

25 Ion

Os awn am dro ‘dros yr Aber’ yng Nghaernarfon, a cherdded ar hyd glan y Fenai i gyfeiriad y clwb golff, a chadw’n golygon i lawr, cyn bo hir fe ddown at yr arysgrif hon wedi ei thragwyddoli yn y concrit:

daveshirl

A faddeuir parodi fach ar yr anwylaf o holl ganeuon serch y byd ?

Mae’r hon a gâr fy nghalon i
Ymhell oddi yma’n byw,
A hiraeth am ei gweled hi
A’m gwnaeth yn llwyd fy lliw.

Cyfoeth nid yw ond oferedd,
    Tŷ nid ydyw ond tent,
Ond DAVE a SHIRL a gafodd WHIRL
    I bara tra bo sment.

Mae f’annwyl riain dros y lli, –
Gobeithio’i bod hi’n iach;
Rwy’n caru’r tir lle cerddo hi
Dan wraidd fy nghalon fach.

Cyfoeth nid yw ond oferedd,
    Glendid ni thâl y rhent,
Ond SHIRL a DAVE a gafodd RAVE
    Fydd yma tra bo sment.

Gŵyl Ddwynwen Hapus i holl ddarllenwyr y blog !

Advertisements

3 Ymateb to “Cyfarchion Gŵyl Ddwynwen!”

  1. Henry Ionawr 25, 2019 at 2:20 pm #

    Gwyyych!

    • glynadda Ionawr 25, 2019 at 5:25 pm #

      Diolch Henry, a disgwyliwch ragor o’r un cwr !

  2. Jig Ionawr 25, 2019 at 8:02 pm #

    aaaaa! Hyfryd! Dyna ffordd i gael anfarwoldeb felly, sgwennu mewn sment a disgwyl am y gerdd…. noson Ddwynweb gobog i bawb!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: