Cwestiwn yn y Nant

17 Chw

‘Any Questions?’ o’r Nant! Syniad rhyfedd ac ofnadwy! Gallwn glywed yr hen Hengist yn siarsio’r hen Wrtheyrn: ‘Reit, fi sy’n dewis y panel a’r gynulleidfa. Gei di ddewis un Cymro i esgus ei gyfiawnhau ei hun yn ffau llewod, ond dim mwy cofia! Fy siou i ydi hon. Dallta di hynny neu mi fydd dy groen di ar y pared!’ ‘Iawn mistar.’ Gan hynny doeddwn i ddim am wrando ar y rhaglen. Ond mi glywais ambell ddarn wrth daro i mewn ac allan. Doedd hi ddim mor ddrwg.

Yn lle’r ‘cwestiwn olaf gwirion’ arferol (y Prins, y Panda, y gêm rygbi a ‘be rowch chi’n bresant pen-blwydd i hwn-a-hwn …?’) cafwyd cwestiwn gan Phil Lovell, yn Gymraeg i ddechrau ac yna’i gyfieithu i’r Saesneg: ‘Pam mae cymaint o bobl ddeallus ym Mhrydain mor anwybodus, a hyd yn oed yn hiliol, yn eu hagwedd at y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg?’

Nid atebwyd y cwestiwn gan NEB o’r panelwyr.

Ond dywedodd Kenneth Clarke AS un peth gwerth ei nodi. Heb ddigwydd siarad â neb gwrth-Gymreig ers blynyddoedd, yr un grŵp o bobl sy’n aros yn ei gof fel gwrth-Gymreigwyr pybyr yw hen wleidyddion Llafur De Cymru. Rhag cael ei baeddu â’r un brwsh, prysurodd Carolyn Harris (AS Dwyrain Abertawe) i ddweud mor falch ydyw fod ei hŵyr yn rhugl yn yr iaith.

Digon teg. Ond beth am y cwestiwn? Sef, a’i grynhoi: ‘Pam mae deallusion Seisnig yn wrth-Gymreig?’ I ddechrau ei ateb, gallwn edrych ar weithiau’r cynharaf ohonynt y gwyddom amdano, sef yr hanesydd Beda, a oedd yn sgrifennu ddechrau’r wythfed ganrif – ‘The Venerable Bede’, neu ‘Beda Ddoeth’ fel y dywedai’r hen Gymry’n faddeugar. Ie, dyn dysgedig, goleuedig hefyd ar y rhan fwyaf o bethau; ond dyn ag yr oedd unrhyw gyfeiriad at y Brythoniaid yn ei yrru’n benwan. Nid y gwahaniaeth iaith oedd yn ei boeni, er bod y Gymraeg wedi ymffurfio ers dros ganrif ac eisoes yn gyfrwng llenyddol pan sgrifennai ef. Pethau o fyd crefydd oedd yn ei gythruddo’n bennaf, sef dull y Brythoniaid o bennu dyddiad y Pasg, a hefyd eu steil gwallt mynaich. Dyma ddau arwydd nad oedd y Brythoniaid fel pobl eraill; doedden nhw yn normal; roedden nhw’n gwneud y lle’n flêr. Dan y cyfan mae rhyw islais o anesmwythyd fod y bobl wahanol hyn yn bresennol yn Ynys Brydain o gwbl.

Y tu ôl i waith Beda, ac yn ysgogiad iddo mae’n bur bosibl, mae gwaith arall. Dyma ‘Ddogfen Gildas’ fel y gwelwch ei galw mewn cyfrol sydd i’w chyhoeddi eleni yng nghyfres ‘Cyfrolau Cenedl’. Llythyr Gildas a Dinistr Prydain fydd teitl cyfieithiad a golygiad newydd Iestyn Daniel, hyn yn ein gwahodd i ystyried yn fanwl iawn ai gwaith un awdur ynteu dau sydd yma. Byddwch yn barod i ddilyn yn ofalus, linell am linell a gair am air, y dadleuon ynghylch y cwestiwn hwn. Fe welwch y bydd gan y golygydd ei gasgliadau ei hun. (A rhag bod unrhyw amheuaeth ynghylch unrhyw ddehongliad, fe gewch y testun Lladin hefyd wyneb yn wyneb â’r cyfieithiad Cymraeg bob cam.)

Mewn rhan o ‘Ddogfen Gildas’ – ie, wrth ystyried popeth, diogelach dweud ‘rhan’ – fe gawn ddarlun o bobl a elwir ‘Britanni’, fel rhyw bobl anfoddhaol, annheilwng, collwrs ac yn haeddu colli, pobl heb fawr o ddyfodol iddynt hyd y gellir gweld. Pwy yn union a greodd y darlun hwn, beth oedd ei gefndir a beth yn union oedd yn ei gymell, y mae’n anodd iawn dweud: darllenwch ac ystyriwch y drafodaeth. Ond rywsut, a thrwy’r canrifoedd, fe gredodd ac fe dderbyniodd y Cymry mai hwy yw disgynyddion y ‘Britanni’, gan etifeddu’r teimlad o israddoldeb. Yng ngolwg awdur gwreiddiol y darlun, ddim mwy nag yng ngolwg Beda, nid mater o iaith oedd hyn: ond yn y man fe ddaeth y Gymraeg yn arwyddnod, yn fathodyn aelodaeth o’r grŵp israddol, fel bod gwybodaeth ohoni yn diddymu pob cymhwyster arall a all fod gennych. Fel yna y mae’n gweithio, hyd y gwêl yr hen G.A.; ond ni ddaeth neb o banelwyr y Nant yn agos at ei weld.

Cymhlethdod israddoleb y Cymry: mae’n ddyfnach na gwrth-Gymreigrwydd etifeddion Beda, ac yn fwy difäol.

Beth yw’r ateb iddo? Testun at eto.

Advertisements

4 Ymateb to “Cwestiwn yn y Nant”

  1. Gwenddolen Chwefror 18, 2019 at 10:49 am #

    Mae’r grasfa a roes Cadwallon brenin Gwynedd i wyr Northumbria — a lladd eu brenin Edwin yn 633 — yn ffactor bwysig wrth ystyried agwedd meddwl Beda.

    • glynadda Chwefror 18, 2019 at 11:29 am #

      Pwynt gwerth ei gofio. Do, bu bron i’r fantol droi y diwrnod hwnnw. Ond byddaf yn cofio hefyd am stori ddifyr Roger Boore, ‘Maelgwn Deyrn a’r Bachgen o Frynaich’, yn ei gyfrol ‘Ymerodraeth y Cymry’. Pe bai’r Cymry wedi cael y llaw uchaf yn y cyfnod tywyll hwnnw, a fyddai Prydain wedi creu ymerodraeth fyd-eang yr un fath? Tueddaf at ‘na fyddai’, oherwydd wedyn byddai un ffactor yn absennol — y Normaniaid a’u hetifeddion.

  2. Corgi balch Ebrill 15, 2019 at 5:19 pm #

    “Beda ddoeth” meddai’r hen Gymry faddeugar! Gwell fyddai i haneswyr heddiw (os am ddefnyddio’r “handlen” Venerable o gwbl, droi at y gair modern a ddefnyddia’r Eglwys Sefydledig, sef “Hybarch”. Mae modd parchu ffŵl hyd yn oed, ac yn wir oni ddylid gwneud hynny bob amser – ond nid yw galw ffŵl yn ddoeth ond yn dangos i bawb mai’r galwr yw’r wir ffŵl, ac yn gynffonwr at hynny!!

    • glynadda Ebrill 15, 2019 at 5:39 pm #

      Y dehongliad a roddir yn aml yw fod y ‘doeth’ yn cyfieithu ‘doctus’, ac mai ystyr hynny oedd ‘yn medru Lladin’.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: