I’r gad, Inglandanwêls !

8 Maw

Welais i mo’r rhaglen neithiwr ar ITV, ond dyma hysbysiad y Radio Times:

Can We Defend Ourselves? Tonight

With the Government recently announcing ambitious plans to make sure that Britain maintains its status as a world military leader, Tom Bradby explores whether our armed forces really are ready for combat should global tensions escalate at what is an increasingly volatile time. As the nature of modern warfare continues to evolve and recruitment and funding issues are a subject of growing dispute, how prepared are we to fight?’

Na phoenwch. Hollol barod. Rhaid mai dyna’r ateb.

Oherwydd ar 10 Chwefror fe gyhoeddodd Gavin Williamson, Ysgrifennydd Amddiffyn Prydain Fawr, y bydd ein hawyrenlong newydd, HMS Queen Elizabeth (£3.2 biliwn), yn hwylio i foroedd Tsieina gynted ag y bydd hi’n barod – sef ymhen rhyw ddwy flynedd – i ddangos i bobl yr ochrau hynny nad teigar papur yw Prydain. Does dim awyrennau i fynd arni, ond peidiwch â phoeni, cawn fenthyg rhai gan Trump. Siŵr y bydd hi’n iawn.

Clywaf y gwangalon yn gofyn ‘Ydi hyn yn ddoeth, dwedwch, a Phrydain ôl-Brecsit yn mynd i fasnachu ledled y ddaear, ac yn enwedig gyda gwledydd poblog Asia?’ Ond rhaid bod Gavin wedi ystyried hyn cyn gwneud ei ddatganiad. Ac nid oedd wedi anghofio’r Brecsit, oherwydd fe ddywedodd yr un pryd:

‘Brexit has brought us to a great moment in our history, a moment when we must strengthen our global presence, enhance our lethality, and increase our mass.’ Edrych eto: na,, nid ‘mess’, ond ‘mass’. Ac, ie, ‘lethality’ oedd y gair. Anfarwol yntê!

Ond howld am funud. Pwy fydd biau’r llong? Pwy fydd ddim yn deigar papur? Pwy fydd yn ‘lethal’? Prydain Fawr? Nage bobol.

Meddyliwch. Beth os bydd yr Alban wedi mynd, oherwydd y Brecsit? Beth os bydd Iwerddon wedi uno, am yr un rheswm? Fydd dim Prydain Fawr. Pwy fydd ar ôl?

Inglandanwêls.

Inglandanwêls fydd y ‘world military leader’. Inglandanwêls fydd biau’r llong awyrennau heb awyrennau. Wêls fydd yn cartrefu Trident … onibai fod polisi Llafur Cymru wedi newid.* A bydd Meirionnydd yn darparu ar gyfer yr ‘haid o dronsiau’ (swarm drones) y mae Mr. Williamson hefyd yn eu haddo. (Diolch, Gyngor Gwynedd.)

Ond mae ambell beth yn peri pryder o hyd. Sut i dalu am y cyfan, ac olew’r Alban wedi mynd? Chwedl yr hen ymadrodd cefn gwlad, ‘torri cwys yn nes at y clawdd, hogia bach’. A beth am gau ambell Ganolfan Iaith?

Pryder mwy sylfaenol eto. ‘How prepared are we to fight?’ Ie, ond yn erbyn pwy cawn ni gwffio? Yn y byd newydd wedi Brecsit, pwy fydd yn ffansïo ffeit yn erbyn Inglandanwêls?

Syniad! Beth am i ni, Inglandanwêls, ymosod ar Sgotland, i drio cael yr olew yna’n ôl? Pwy a’n harwain? Dowch o’na, Rob Brydon, Sam Warburton, Syr Gareth Edwards, – hoelion wyth ‘Let’s Stay Together’ ers talwm.

I’r gad ! I’r gad !
* Ydi Adam wedi gofyn Y CWESTIWN i Drakeford eto?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: