Affwysol

5 Ebr

Gwell dweud rhywbeth am isetholiad Gorllewin Casnewydd mae’n debyg. Chwerthin ai crio uwchben canlyniad fel hwn? Gallaf gofio adeg y byddai o leiaf rai ohonom yn ateb ‘crio’. Ond heddiw gallwn ei dderbyn fel rhan o’r llanast cyffredinol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Does raid ond edrych ar gwr arall y wlad: niwcleargarwch cynghorwyr PC Môn, ac ymddygiad tra rhyfedd cabinet Gwynedd.

**

Clywn dipyn o ofyn ar y cwestiwn ‘ai Theresa May yw’r prif weinidog salaf erioed?’ Na, go brin. Yn un peth, mae’r hen ddywediad yn eithaf gwir, ‘bydd pob gyrfa wleidyddol yn diweddu mewn dagrau’. Yn ystod yr ugeinfed ganrif, y prif weinidogion nas goddiweddwyd gan y dynged honno oedd Campbell-Bannerman a Bonar Law, y ddau a fu farw yn y swydd cyn cael cyfle i wneud rhyw lanast ofnadwy. Gwobr ‘Y Prif Weinidog Gwaethaf’? Mae’n mynd heb amheuaeth i Asquith, am fynd â ni i mewn i’r Rhyfel Byd Cyntaf. A oedd yna rywun yn ei lywodraeth ef, neu yn senedd y dydd, a allasai rwystro’r hyn a ddigwyddodd? Lloyd George? Darllenwch fy stori ‘Wythnos yng Nghymru Fu’ yn y gyfrol Camu’n Ôl a Storïau Eraill.

**

Ydi pobl yn callio? Stori flaen y Times heddiw. Abaty Westminster (Wemus Barabi chwedl yr hen gymeriad o Ben-y-groes) yn mynd i gynnal gwasanaeth i anrhydeddu criwiau llongau tanfor Trident. Rhai eglwyswyr, chware teg iddyn nhw, yn mynegi anfodlonrwydd, ond tebyg mai ymlaen yr â’r ddefodaeth ddi-chwaeth. Twm o’r Nant a’i dwedodd hi:

Clyw Eglwys Loeger ffraethber ffri,
Hap lwyra’ stad, pa le’r eist ti,
Yng nghanol d’urddol frawdol fri,
I’r fath drueni anian?
’Nôl dwediad Gildas atgas wawr
Y gwyfaist lawr yn gyfan,
Cans dy weinidogion sydd dan ffêr
Yn haeddu eger ogan.

Trwm achos ofni’n enbyd sy,
Beth wnaiff y wlad, gyffredin lu,
Tra bo’r blaenoriaid, harddblaid hy,
Wedi dallu gan dywyllwch?
A’r dall, truenus, warthus wall,
Yn t’wyso’r dall, deëllwch,
Mai yn y ffos, anniddos nerth,
Mewn galar serth y syrthiwch.

(A sôn am ‘Gildas atgas wawr’, ewch am eich copi o’r llyfr eithriadol bwysig Llythyr Gildas a Dinistr Prydain, golygiad newydd Iestyn Daniel yng nghyfres Cyfrolau Cenedl. Yn y siopau yn awr, neu trwy wefan dalennewydd.cymru)

**

A dychwelyd at ganlyniad chwerthinllyd Casnewydd. Un peth amdano: o leiaf allwch chi ddim beio Leanne.

3 Ymateb to “Affwysol”

  1. Marconatrix Ebrill 5, 2019 at 5:07 pm #

    “Y dall, truenus, warthus wall” : Dyna fo i’r ddim am lywodraeth y DU a’r hyn o bryd, dwi’n meddwl.

    • glynadda Ebrill 5, 2019 at 6:26 pm #

      Ond beth am bobl Casnewydd yn rhoi Neil Hamilton yn drydydd, uwchlaw PC?

      • Marconatrix Ebrill 5, 2019 at 7:24 pm #

        Rhas o ddau geffyl oedd Casnewydd mewn gwirionedd, felly difater le mae’r ‘also-rans’ wedi mynd? Problem o FPTP ??

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: