Allan yn awr

18 Ebr

Gildas

Dyma lyfr sylfaenol hanes y Cymry.

Mae ‘Dogfen Gildas’, fel y gelwir hi yn y golygiad newydd hwn, yn cynnwys dwy elfen: yn gyntaf, llythyr o gerydd chwyrn i arweinwyr seciwlar a chrefyddol Prydain y chweched ganrif; ac yn ail, crynodeb o hanes Prydain hyd at gyfnod yr awdur.

Ai un awdur sydd i’r ddwy elfen? Ynteu dau? Mae’r cwestiwn wedi ei godi o’r blaen; yma ystyrir ef yn ofalus iawn, a daw’r golygydd at ei gasgliad ei hun.

Y rhan hanesyddol – pwy bynnag oedd ei hawdur – yw’r ymgais gyntaf ar glawr i adrodd hanes Prydain a’i phobl. Bu’n ddylanwadol trwy’r canrifoedd a hyd y dydd hwn, nid yn unig ar y modd yr ysgrifennwyd yr hanes, ond ar y modd y lluniwyd ef hefyd. Credodd y Cymry, yn gam neu’n gymwys, mai hwy yw etifeddion y ‘Britanni’ a ddarlunnir yn yr adroddiad hanesyddol. Ydym, ‘ry’n ni yma o hyd’, chwedl y gân, ond yma gyda ni o hyd hefyd y mae’r teimlad o israddoldeb.

Mewn cyfieithiad newydd awdurdodol ynghyd â thrafodaeth fanwl, dyma’n gwahodd eto i ystyried beth yn union oedd ystyr a diben ‘Dinistr Prydain’.

Ceir yma’r testun Lladin a’r cyfieithiad Cymraeg wyneb yn wyneb.

Bellach ar gael am £15 ar dalennewydd.cymru.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: