Dewis digrifwr

22 Ebr

Wcráin wedi dewis arlywydd newydd, sef digrifwr a wnaeth enw drwy ddynwared ei ragflaenydd.

Ar y radio y bore ’ma, rhyw bapur (Y Guardian ?) Yn cael ei ddyfynnu’n gofyn ‘Pa fath o wlad fyddai’n gosod clown yng ngofal ei lluoedd arfog?’ ATEB: llawer o wledydd, a daw dwy i’r meddwl yn syth, un bob ochr i’r Iwerydd. Mi soniais o’r blaen (8 Mawrth) am Gavin Williamson, Ysgrifennydd Amddiffyn Prydain Fawr. Darllenais wedyn ei fod yn cadw tarantiwla yn ei ddesg. Boi call.

A heno ’ma, rhywun ar y radio’n gobeithio y bydd y digrifwr etholedig yn yr Wcráin ‘o ddifri’! Wel ie. Ond mae hanes digon anrhydeddus i ‘ddigrifwch o ddifri’ yng ngweithiau llenorion – Dafydd ap Gwilym, Molière, Twm o’r Nant, Daniel Owen, Wil Sam …

Fy meddwl yn rhedeg wedyn. Beth am gael tîm cryf o gymeriadau digri’r genedl i ffurfio llywodraeth Cymru yn lle’r clowns amatur yr ydym yn llwyddo i’w hethol mor ddi-ffael?

Amaeth – Ffarmwr Ffowc. Pwy arall?
Trafnidiaeth – Ifans y Tryc
Iechyd – Y Dyn Sâl
Diwylliant a Chwaraeon – Mr. Arthur Picton
Cerdd Dant – Sioned Grug
Iaith – Mr Canterbury Kent

A Phrif Weinidog? Tudur Owen? Ifan Gruffydd? Syr Wynff? Plwmsan y Twmffat Twp? Dowch o’na ddarllenwyr! Eich dewis chi!

2 Ymateb to “Dewis digrifwr”

  1. teilosant Ebrill 23, 2019 at 6:54 pm #

    Dewi Pws fel gweindiog Iechyd – agor cinigau chwerthin ar yr NHS!

    • glynadda Ebrill 23, 2019 at 8:56 pm #

      Da iawn Teilo. A beth am Y Dewin Dwl yng Ganghellor y Trysorlys ?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: