Gweledigaeth Blair a phethau eraill

3 Mai

1. Dyma Tony Blair yn ei ôl o rywle, yn pryderu’n fawr am undod Prydain. Yr Albanwyr sy dros annibyniaeth, meddai, mae’r rheini fel y Brexitwyr. (TROEDNODYN: Fel mae’n digwydd, mae’r rhan fwyaf o ddigon o genedlaetholwyr yr Alban yn wrth-Frexitwyr cryf. Ond hidiwch befo pethau felly …) Syniad Mr. Blair i gryfhau’r wladwriaeth unedol: cael un cynghrair pêl-droed i Brydain gyfan. Ardderchog yntê, ac yn wir mae Cymru wedi cychwyn y ffordd iawn drwy fod ein prif dimau eisoes yn chwarae yng Nghynghrair Lloegr. Rwan dowch chwithau, Rangers, Celtic, Partick Thistle, Queen of the South, Heart of Midlothian, Dundee United, Alloa Athletic, Hamilton Academicals … Efo’n gilydd!

Ond mae eisiau mynd ymhellach. Rhwystr mawr ar undod y Deyrnas yw’r timau rygbi ‘cenedlaethol’ fel y’u gelwir. Beth am ddileu’r rhain i gyd a chadw dim ond y British Lions? Er mwyn rhoi’r GREAT yn ôl ym Mhrydain, ymaith â thîm rygbi Cymru!

2. Harry Belafonte’n canu yn 1956: ‘Hide the deadly black tarantLAAA’. A bellach – inni gael cymysgu ffigurau’n ofnadwy – dyma TartantlAAA wedi cael yr hwi ar gyhuddiad o ollwng y gath. Ac yn ei le, ein Gweinidog Amddiffyn fenywaidd gyntaf. A fydd Ms. Mordaunt, fel yr hen Thatcher gynt, am ei phrofi ei hun yn fwy o ddyn na neb o’r dynion? Pwy gaiff ei fomio gyntaf? Gwyliwch eich pennau, bawb!

3. Etholiadau lleol Lloegr ddoe, Tori a Llafur wedi cael colledion go drwm, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar eu hennill. Fel rheol nid yw trwch pleidleiswyr y D.Rh. yn uniaethu ag unrhyw bolisi, ond y tro hwn mae’n ddigon posib eu bod wedi hel tipyn o wrth-Frexitwyr oddi ar y ddwy blaid fawr. A dyma esiampl i Blaid Cymru, os oes rhaid inni gynnal etholiad Ewrop: nid y byddai’n ennill rhyw lawer, ond ni byddai ganddi ddim i’w golli o apelio’n gryf at yr ‘Arhoswyr’. Etholiad San Steffan, dyna stori arall: bydd myfyrwyr Bangor ac Aberystwyth yn pleidleisio’n ethnig, a dyna hi.

Advertisements

Un Ymateb to “Gweledigaeth Blair a phethau eraill”

  1. Henry Mai 3, 2019 at 5:33 pm #

    Amau Glyn fod Adam Price wedi achub y blaen y tro yma. Ddoe ddwetha roedd o’n apelio sr yr Arhoswyr i gefnogi ei blaid.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: