Yr ‘adolygiad’ eto

18 Mai

‘Nac ateb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd,’ rhybuddir ni yn llyfr y Diarhebion.

Ond mae’r ‘adolygiad’ (blog echnos) yn gwrthod mynd o fy meddwl, gan ei bwysiced i efrydwyr ein llên.

Yn y pedwar darn bach a ddyfynnais, mae o leiaf bump o FFEITHIAU HOLLOL NEWYDD am hanes llenyddiaeth Gymraeg. Ai yn yr ‘adolygiad’ y ceir hwy gyntaf, ynteu yn y llyfr a ‘adolygir’, ni allaf ddweud nes darllen y llyfr – ‘superbly researched’, fe’n sicrheir. Ond rhaid yw gofyn cwestiwn, a’i ofyn yn ddifrifol: John Morris-Jones, Ifor Williams, W.J. Gruffydd, Thomas Parry, G.J. Williams – ble roeddech chi na ddatgelasoch inni’r wybodaeth y mae’r ‘adolygydd’ hwn yn ei harlwyo mor hael? Sut na roesoch fys ar DDIM UN o’r pum ffaith?

A cherydd i haneswyr mwy diweddar hefyd. Pam nad ydych eto wedi trafod arwyddocâd Richard Burton a Stanley Baker mewn llenyddiaeth Gymraeg ac iddi? Dowch o’na’r pwdrod !

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: