Unwaith eto: Brycheiniog a Maesyfed

3 Gor

Byth er pan ddechreuais gyntaf ymddiddori yng ngwleidyddiaeth Cymru – ac mae hynny flynyddoedd go faith yn ôl erbyn hyn – rwyf wedi mwydro a phendroni llawer ynghylch dau beth:

(1)  Cynrychiolaeth gyfrannol. Ers talwm roedd yn fy mhoeni fod posib i Aelod gael ei ethol dros ranbarth heb fod ganddo fwyafrif o’r rhai a fwriodd bleidlais. Nid yw’n fy mhoeni gymaint bellach. Ar ôl trosi meddyliau am lawer blwyddyn ac ochri at system weddol gymhleth y ‘bleidlais unigol drosglwyddadwy’ (STV fel y’i gelwir), tueddaf yn awr i feddwl mai hen system ‘y cyntaf i’r fei’ yw’r leiaf anfoddhaol wedi’r cyfan. A chymryd esiampl, fe ddyfeisiwyd system gyfrannol senedd yr Alban i geisio atal cynnydd yr SNP; nid yw wedi llwyddo’n ysgubol, ond mae wedi llwyddo i ryw fesur, ac mae’n ffactor negyddol yno.

(2)  Clymbleidio. Yn ystod y blynyddoedd diffaith wedi 1979 bûm yn meddwl llawer am bosibiliadau cynghreirio rhyngbleidiol yng Nghymru, fel ffordd o helaethu sylfaen y mudiad gwleidyddol cenedlaethol a symud ymlaen tuag at ryw radd o ymreolaeth. Ac yn wir, Plaid Cymru a’r Rhyddfrydwyr oedd y ddau brif chwaraewr yn fy meddwl. Cofiaf wneud rhyw syms damcaniaethol o flaen nifer o etholiadau, ond fel y deuai pob etholiad yn ei dro, dôi yn amlwg nad oedd pâr o seddau yn unman – a rhaid cael pâr, onide byddai’r cyfan yn ddiystyr – lle byddai’r rhifyddeg yn gweithio allan.  Hollol wir mai cynghrair o fath a enillodd refferendwm ’97, ond dealltwriaeth rhwng pobl o ewyllys da oedd hyn, ac nid oedd yn ganlyniad clymbleidio etholaethol.

Sut mae’n edrych heddiw? Unwaith eto, beth am isetholiad Brycheiniog a Maesyfed? Ar wefan Nation Cymru mae Jason Morgan yn dadlau’n gryf y dylai Plaid Cymru ymgeisio. Mae rhai o’r ymatebwyr yn meddwl fel arall, ac yn awgrymu – yng nghyswllt Brexit yn arbennig – nifer o seddau a allai fod yn rhan o fargen. Y D.Rh. i ymatal yn y Rhondda a Blaenau Gwent? Neu’n wir ym Môn, Arfon, Dwyfor-Meirion a Chaerfyrddin? P.C. yn ad-dalu drwy gadw draw o Faldwyn, Brycheiniog-Maesyfed, Mynwy, Canol Caerdydd, Gorllewin Abertawe, Wrecsam? Amod llwyddiant unrhyw gytundebau o’r fath fyddai trafodaeth fanwl ac ystyriol ar bolisi ymlaen llaw, a datganiad cryf ar y cyd o gytundeb mewn nifer o feysydd allweddol. Hefyd, bellach, byddai raid i’r D.Rh. ddatgan o blaid annibyniaeth i Gymru. Tebygol? Annhebygol i’r eithaf. Posibl? Prin iawn iawn. Gallaf ddychmygu cyfran go uchel o gefnogwyr P.C. – er nad pawb – yn cadw’u rhan o’r fargen, gydag arweiniad cryf gan yr arweinyddiaeth. Cefnogwyr y D.Rh. yr un modd? Na chymerwn ein camarwain gan amgylchiadau arbennig y dwthwn hwn: ydyw, am y tro, mae’r D.Rh. i’w gweld yn hel atynt eu hunain gyfran dda o’r Arhoswyr: pleidlais ar sail polisi, am unwaith yn eu hanes, a thros dro. Nid yw trwch pleidleiswyr arferol y D.Rh. yn uniaethu ag unrhyw bolisi, ac ni byddent yn derbyn cyfarwyddyd gan eu harweinwyr i gefnogi P.C. hyd yn oed pe bai cyfarwyddyd o’r fath – peth sy’n hynod annhebygol. Prydeinwyr yw’r rhan fwyaf ohonynt, a gwerth eu cyfranogiad yn y seddau a restrwyd uchod yw eu bod yn rhannu’r bleidlais unoliaethol dipyn bach. Drwy beidio ag ymladd Caerfyrddin, Arfon a Meirion-Dwyfor (seddau San Steffan yn awr), gallent fod yn gyfrwng i suddo P.C. yn y tair; a thrwy ymatal ym Môn gallent helpu gwthio P.C. hyd yn oed ymhellach i lawr.

Mae Jason Morgan yn iawn. Rhaid edrych tu hwnt i ddadleuon Brexit. Cofiwch yr hyn a ddywedais echnos am y botwm niwclear. Pe gallai P.C. , drwy ymladd yr isetholiad hwn, sbwylio parti’r D.Rh., dyna fyddai dial am driciau mwnci a chastiau mul Ceredigion, a dyna fyddai ei chyfraniad mwyaf adeiladol yn y sefyllfa sydd ohoni.

Advertisements

2 Ymateb to “Unwaith eto: Brycheiniog a Maesyfed”

  1. Aled Jones Williams Gorffennaf 5, 2019 at 3:43 pm #

    Annwyl Adam, Diolch o waelod calon am yr hwb a gawsom o wybod na fyddwch yn ymgeisio am sedd Brycheiniog a Maesyfed. Mae canu can i nain yn llamu i’r cof wrth glywed y newydd da. Felly medraf gadarnhau na fydd ein plaid ni yn cwffio sedd Ceredigion nac Arfon ychwaith pan ddaw yr Etholiad o, hirddisgwyliedig nesaf. Ond rhyngom ni mae hyn. Cofion brawdol a charedicaf fel erioed, Vince

    • glynadda Gorffennaf 5, 2019 at 8:57 pm #

      Diolch yn fawr iawn Vince.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: