Dyna ni felly …

5 Gor

Dyna ni felly, P.C. am gadw draw. Rhan o gynghrair nad yw’n bod … hyd y gwyddom ni. Ynteu a oes rhyw ddealltwriaeth fach yn y cefndir? Darllenwn fod Vince Cable yn werthfawrogol iawn, a hefyd yr ymgeisydd Jane Dodds. O’r gorau, disgwyliwn glywed beth a roir yn gyfnewid …

Fel y dywedais echnos, yr help mwyaf y gall y D.Rh. ei roi i B.C. fydd sefyll ym mhobman fel ag i rannu tipyn bach ar y bleidlais unoliaethol. Lle byddai’r D.Rh. heb ymladd nid oes unrhyw fath o sicrwydd, nac yn wir debygrwydd, y byddai ei phleidleiswyr yn trosglwyddo’u cefnogaeth i B.C.: y gwrthwyneb, mwy na thebyg.

A bod Jane Dodds yn ennill, beth am iddi ddweud gair yn un o ralïau’r mudiad amlbleidiol Yes Cymru? Neu air yng nghlustiau rhai o gynghorau cymuned ei hetholaeth eang, iddynt ddilyn arweiniad Machynlleth Ryddfrydol? Rhyw bethau bach fel yna? A saif hi yn nhraddodiad goleuedig Richard Livesey? Ynteu mwy o Ryddfrydiaeth ddiweddar Ceredigion a gawn?

Cawn weld, cawn weld …

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: