Cysondeb

8 Awst

Ffordd o fynd yn wallgo yw disgwyl cysondeb llwyr mewn bywyd. Ond mae gennym hawl i ddisgwyl RHESYMOL gysondeb ar law llywodraeth a sefydliadau. Dwy enghraifft:

(1) Yr wythnos hon yn yr Eisteddfod, Gweinidog y Gymraeg a Chomisiynydd newydd yr Iaith, a’r miliwn yna mewn golwg, yn mynegi llawer o bryder ynghylch y cyflenwad o athrawon Cymraeg ac athrawon i ddysgu pynciau trwy’r Gymraeg. Os yw’r llywodraeth yn gwir geisio ateb i’r broblem, pob lwc iddi, a phob nerth o’i chefn. Ond does dim llawer ers pan oedd llywodraeth Cymru’n clochdar am ei chynllun uchelgeisiol i ‘roi cyfle i rai o fyfyrwyr … mwyaf disglair Cymru gael cymorth i fynychu prifysgolion gorau’r Deyrnas Unedig’ – sef, a’i aralleirio’n gynnil, eu pacio i ffwrdd i rywle heblaw Cymru. A yw hyn yn fwriad o hyd, ai ynteu un o weledigaethau disglair Huw Lewis ydoedd? Os yw’n dal yn bolisi, mae’n rhaid ei wyrdroi yn llwyr, a’r unig ffordd o wneud hynny yw ymorol y bydd hi’n talu ar ei chanfed i’n plant galluog barhau â’u haddysg yng Nghymru. Heb hynny, chwiban yn y gwyll yw’r hyn a glywsom gan y Gweinidog a’r Comisiynydd yr wythnos hon. Rhag gorfod ailadrodd, gweler fy llyfr Meddyliau Glyn Adda, tt. 26, 102, 107.

(2) Ardderchog yw clywed am lwyddiant Llyfr Glas Nebo, a chlywed bod drama ohono i’w chyflwyno yn Eisteddfod Tregaron. Erbyn hynny byddai’n dda cael cadarnhad fod y cysylltiad rhwng yr Eisteddfod a’r ‘Hen Linell Bell’, sef cwmni niwclear Horizon, wedi ei dorri’n derfynol.

Cysondeb. Llaw chwith, llaw dde.

Advertisements

2 Ymateb to “Cysondeb”

  1. Martin Williams Awst 10, 2019 at 8:20 pm #

    Cymru Annibynnol tra’n colli gormod o bobl talentog deunaw oed i Loegr?Hefo rhai byth yn dychwelyd i Gymru?Dim diolch yn fawr.
    Gall fod yn beth llesol iawn i unigolyn fyw y tu allan i’w wlad ei hun.Ac a bod yn onest, dim ond un ddinas gyffrous sydd gan Gymru sef Caerdydd.Mae pobl ifanc ddawnus yn aml iawn yn cael eu denu gan fwrlwm dinas gyffrous.Diwedd y gan yw’r geiniog.

  2. Martin Williams Awst 13, 2019 at 7:01 am #

    Pob lwc i Gymro neu Gymraes sydd isho astudio yn Lloegr.Ond os ar ol graddio y byddant yn dewis bod yn feddyg, cyfreithiwr, ysgolhaig, peirianydd,gwyddonydd yn Newcastle neu Swydd Buckingham yna mae cwestiwn amlwg: sut mae hyn yn mynd i helpu tynged economaidd Cymru mewn ffyrdd amlwg ag uniongyrchol?!
    Mymryn o fantais ariannol (ond nid gormod) i ddinesydd 18oed o Gymru sy’n dewis astudio am radd yng Nghymru yn lle gweddill y DU. Dyma dwi o’i blaid.
    Mae Rhun ap Iorwerth wedi cyffwrdd ar y pwnc ar lawr y Senedd ym Mae Caerdydd. Chwarae teg iddo.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: