Enw Gorsedd

18 Awst

Trech Awen na thywydd, fel a ddigwyddodd droeon yn hanes yr Eisteddfod; trech na llawer peth arall hefyd. Llongyfarchiadau i holl drefnwyr Llanrwst, petai ond am hwylustod y parcio a’r bysus gwennol.

Gorsedd Cymru? Mae ar batrwm Gorsedd Môn, Gorsedd Powys a Gorsedd Cernyw, ac efallai bod rhyw synnwyr yn hynny. (Yn fy hen ardal byddai Gorsedd Mynydd y Cilgwyn yn cael ei galw drwy S.O.S. tuag amser te ddydd Sadwrn yr eisteddfod. ‘Hei, ma’ isio iti ddŵad i’r Orsadd. [Sibrwd] Hwn a hwn sy wedi ennill.’ Tân arni wedyn i wneud pennill cyfarch.)

Eto i gyd, nid yn ddifeddwl y creodd Iolo Orsedd Beirdd Ynys Prydain, i’w lansio ar Fryn y Briallu yn yr hen Gaerludd. Gwnaeth hynny yng ngrym myth a thraddodiad, yn union fel y gwnaeth y Morrisiaid a’u ffrindiau wrth greu’r Cymmrodorion yn yr un ddinas ddengmlwydd ar hugain ynghynt. Y Cymry fel y ‘Cyn-frodorion’ neu’r ‘Priodorion’, gwir berchenogion Ynys Brydain, dyna’r drychfeddwl, a dyna fu ysgogiad cychwynnol yr holl broses o greu’r amrywiaeth sefydliadau cenedlaethol sy’n llenwi’r Maes o flwyddyn i flwyddyn. Byddai rhywbeth yn chwithig mewn bwrw hyn dros gof, oherwydd nid ‘Prydeindod’ J.R. Jones sydd yma ond ‘Brytaniaeth’ yr hen Gymry, myth pwerus a oroesodd genedlaethau lawer gydag amrywiaeth o ganlyniadau, drwg a da.

gildas

Wrth ddweud ‘myth’ yr ydym yn cydnabod rhyw amheuaeth ynghylch sail hanesyddol y cyfan. Nid am yr Ynys Brydain ddaearyddol yr ydym yn sôn, ond am ryw wlad y galon neu’r dychymyg. Yn ôl y myth, y Cymry oedd piau’r ‘Ynys’ gyfan unwaith, ond fe’i collasant, un ai oherwydd eu pechodau neu drwy gamgymeriad gwleidyddol neu drwy gyfuniad o’r ddeubeth. A oes unrhyw wirionedd yn y syniad hwn neu y tu ôl iddo? Dyma inni yn awr gyfle i ailgodi’r holl gwestiwn mawr hwn a meddwl yn galed amdano, gyda chyhoeddi eleni gyfieithiad awdurdodol Iestyn Daniel, Llythyr Gildas a Dinistr Prydain, sef y llyfr lle mae cychwyniad bach stori’r golled, a ddatblygwyd ac a helaethwyd lawer gan olyniaeth o awduron diweddarach. Dyma lyfr y dylai pob aelod o’r Orsedd, ynghyd â phob Cymro llythrennog, ei ddarllen yn ofalus. Fe welir fod Iestyn Daniel yn ei ragymadrodd yn rhoi sylw helaeth, yn ogystal ag i’r testun ei hun, i’w ddehonglwr A.W. Wade-Evans: mae ei syniadau pendant ac efallai anuniongred yntau yn dal i hawlio sylw ac ystyriaeth. At ddiwedd y flwyddyn gobeithiaf gyhoeddi yn Y Faner Newydd gyfres fer o ysgrifau ar ‘lyfr Gildas’ a dehongliad Wade-Evans ohono. Yn y cyfamser fe ellir ailddarllen fy hen ddarlith ‘Cyfrinach Ynys Brydain’ yn y gyfrol Agoriad yr Oes (Y Lolfa, 2001); gw. tudalennau 100-101 yn benodol.

§

Gwelais adroddiad fod y newid ‘wedi ei basio drwy fwyafrif’ gan Lys yr Eisteddfod. Nid dyna’n union a ddigwyddodd yn y cyfarfod ddydd Gwener. Fe adroddwyd fod yr Orsedd wedi cymeradwyo’r newid; caed sŵn cadarnhaol o’r llawr, a chlap (os cofiaf yn iawn). Ni wnaed unrhyw gynnig, ni bu pleidlais, ac ni buasai hynny’n angenrheidiol na phriodol, oherwydd mater i’r Orsedd yn llwyr ydoedd, ac ydyw.

Cymdeithas wirfoddol ac annibynnol yw’r Orsedd ac mae ganddi’r hawl i’w galw ei hun beth bynnag a fyn. Ai Gorsedd Cymru a sefydlwyd yn 1792? Ai yn 1792 y sefydlwyd Gorsedd Cymru? Sut bynnag y gosodir y cwestiwn, rhyw ‘ie a nage’ yw’r ateb iddo, ac ni ellir bod yn fwy pendant ar dir cyfansoddiadol. Gyda chorff statudol neu siartredig mae’n dra gwahanol, ac nid oes eglurach achosion o hynny na phrifysgolion Cymru’r awron. Er enghraifft, os mai gorau dawn deall, fe ddylai arfbais Prifysgol Bangor ddwyn y dyddiad 2007 canys dyna’r flwyddyn y daeth i fodolaeth dan ei henw a than ei siarter bresennol.

§

Gyda llaw, a sôn am newid enw. Aethom i mewn eleni i gyfarfod y Llys drwy babell Llywodraeth Cymru, a’n cael ein hunain yn ‘Cymdeithasau 2 / Societies 2’. Ai am fod y Llywodraeth yn noddi’r ddwy babell? A derbyn am y tro mai mater i’r Llywodraeth oedd ei henw ei hun, pwy a benderfynodd ar enwau’r ddwy babell? A phryd y dechreuodd yr arferiad hwn? Pwnc i’r Llys ei ystyried efallai.

§

Yn ôl at ein prif destun. Oes, mae gan gymdeithas wirfoddol bob hawl i ddewis ei henw ei hun. Ond cymered ofal mawr rhag anghofio neu ddibrisio’i hysgogiad gwreiddiol a’r cefndir y crewyd hi ynddo.

Ac o’m rhan i, croeso i’r bechgyn gael dawnsio. Ond wrth foderneiddio – os dyna’n wir ydyw – gofalwn ar boen ein bywyd beidio â dweud ein bod yn moderneiddo. Wrth gynnal defod, rhaid inni i gyd gredu am y tro ei bod hi’n hen a thraddodiadol. Os na allwn fod yn wir hynafol, byddwn yn ffug-hynafol. Dyna a welodd Iolo. Hir y parhaed Gorsedd Beirdd Ynys Prydain i gwrdd ar Alban Hefin yn wyneb haul a llygad goleuni.

4 Ymateb to “Enw Gorsedd”

  1. awelshdawn Awst 18, 2019 at 7:13 pm #

    Diolch o’m calon am eich sylwadau. Cytuno’n llwyr. Crëid yr enw ‘Gorsedd Beirdd Ynys Brydain’ fath hyder yn ein cenedl yn ystod y cyfnod gwaethaf o wrth-Gymreictod y bedwaredd ganrif ar bumdeg i oroesi bob ymosodiad. Fel dywedodd Geraint Phillips mae’n warthus inni ildio’r teitl ‘Prydeindod’ i’r fath a Nigel Farage i’w eiddo a cham-drin.

    • glynadda Awst 18, 2019 at 7:23 pm #

      Diolch yn fawr awelshdawn. Gwyddoch mae’n debyg am drydariadau Simon Brooks ar y testun hwn.

      • awelshdawn Awst 18, 2019 at 7:49 pm #

        Ydw – a nifer eraill. Mae Non Tudur, gohebydd celfyddydau Golwg yn bwriadu sgrifennu erthygl ar y testun. Anfonaf y ddolen gyswllt eich safle we ati hi.

  2. Martin Williams Awst 20, 2019 at 10:41 pm #

    Ai Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru ydoedd yr hen enw ar y Steddfod erstalwm? Gwell gen i Steddfod Gen, Yr Eisteddfod Genedlathol neu Prifwyl. Enghraifft o gam ymlaen positif yn fy marn bach i. Ond duwcs, pe bai ee Charles yn penderfynu ymweld a’r maes rhywbryd yn y dyfodol (a thalu pris mynediad fel Eisteddfodwyr cyffredin!) rhaid derbyn y byddai ganddo hawl i fod yno.
    Ond o ran newid enw/teitl llawn yr orsedd :dwi ddim yn gweld y pwynt o newid yr enw. Sut mae’n mynd i gyflawni pethau positif ag amlwg? Ys dywed y Sais:if it’s not broken why fix it?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: