Dinistr Prydain a Yes Cymru

20 Medi

STORI’R GOLLED

Unwaith eto ar y blog, dyma dynnu sylw at y gyfrol eithriadol bwysig Llythyr Gildas a Dinistr Prydain, golygiad a chyfieithiad newydd Iestyn Daniel yn ein cyfres ‘Cyfrolau Cenedl’.

gildas

Gellir gofyn: pam mae hi’n ‘gyfrol cenedl’ i ni’r Cymry?  Yr ateb: am ei bod yn cynnwys o’i mewn yr ymgais gyntaf erioed i ysgrifennu hanes pobl yn yr ynys hon, a ninnau’r Cymry wedyn drwy’r canrifoedd wedi cymryd mai ni yw disgynyddion neu etifeddion y bobl yr adroddir eu hanes.

Mae’r testun cyfan yn 110 o benodau byrion. 25 o’r rhain, sef penodau 2-26, sy’n ffurfio’r adran ‘hanesyddol’.  Codwyd y cwestiwn droeon o’r blaen, ai gwaith yr un awdur yw’r cyfan?  Fe’i codir eto yn y golygiad hwn, gan ein gwahodd i feddwl yn ofalus iawn ai gwaith y gwir Gildas, gŵr eglwysig a ysgrifennai ar draws canol y chweched ganrif, yw’r crynodeb 25 pennod o hanes Prydain a’i phobl. Gan gytuno â rhai dehonglwyr blaenorol, yn arbennig yr hanesydd A.W. Wade-Evans, ochra Iestyn Daniel yn gryf at y farn fod yma waith awdur arall, yn byw efallai ganrif a hanner ar ôl Gildas. Ac yn ôl coleddwyr y farn hon, ar y 25 pennod ‘hanesyddol’, a’r rheini’n unig, y dylem roi’r enw De Excidio Britanniae, ‘Dinistr Prydain’.  Peth gwahanol yw ‘Llythyr Gildas’, epistol o gerydd llym ar arweinwyr bydol a chrefyddol teyrnasoedd bychain yng ngorllewin Prydain canol y chweched ganrif.  Dyna pam y mae’r ‘a’ yng nghanol teitl y golygiad newydd hwn.

Pwy bynnag yw eu gwir awdur, mae’r penodau ‘hanesyddol’ hyn yn cyfleu un neges ac un thema yn annileadwy o glir, sef dirmyg tuag at bobl gynhenid Prydain. Britanni y’u gelwir unwaith; dro arall indigenes (brodorion), incolae (trigolion) a cives (dinasyddion). Roeddent yn llwfr, yn ‘gywion ofnus’, yn ‘fenywaidd’ (ferched, maddeuwch y gair!), ond hefyd yn wrthryfelgar! Gwargaled, balch, ond hefyd ‘meddal gan ddiogi a syrthni’.  ‘Pobl grwydrol ac ansefydlog’, ‘fel anifeiliaid disynnwyr’, annheyrngar, anniolchgar a heb allu ‘glynu’n sefydlog wrth ddim’.  Yn ‘giwed ddifeddwl, amddifad o arweinydd’, ni allent godi wal yn iawn na’i gwarchod yn effeithiol.  A gafwyd pobl erioed a’u hanes yn cychwyn â darlun mor dila?  Beth oedd cymhelliad yr awdur hwn?  Pwy oedd wedi bwyta’i bwdin?  Fe gewch ystyried y cwestiwn wrth ddarllen y testun a’r rhagymadrodd.  Ond nid ydym wedi clywed y gwaethaf eto.  Down at y digwyddiad  – honedig o leiaf – sydd wedi taflu ei gysgod drwy’r canrifoedd. Daw ym mhennod 23.

‘Yna dallwyd yr holl gynghorwyr, ynghyd â’r teyrn balch, pan ddyfeisiasant yr amddiffyn hwn – dinistr, yn wir – i’w mamwlad, sef derbyn i mewn i’r ynys, fel bleiddiaid i ganol corlannau, y Sacsoniaid ffyrnig hynny, melltigedig eu henw ac atgas gan Dduw a dynion, er mwyn hel yn eu holau y cenhedloedd gogleddol.’

Beth a ddaeth gyntaf, y disgrifiad ‘y teyrn balch’, ynteu’r enw Vortigernus – ‘Gwrtheyrn’ fel yr ydym wedi ei adnabod byth wedyn, a’r ‘teyrn balch’ (superbus tyrannus) yn chwarae arno?  Beth a olyga illi Saxones, ‘y Sacsoniaid hynny’, yn hwn yr unig ddefnydd o’r enw drwy’r testun cyfan: ai ‘y Sacsoniaid ’na’ yn gyffredinol, ynteu ‘y fintai arbennig honno o Sacsonaid’?  Testunau dyfalu a thrafod.   Beth bynnag, tri llwyth llong i ddechrau, rhagor atynt wedyn, ‘fel dynion â’u bryd ar ymladd dros y famwlad ond mewn gwirionedd ar ymosod arni.’ Y rheini’n hawlio mwy a mwy o dâl, gan fygwth os na chaent ef: ‘y byddent yn torri’r cytundeb ac yn anrheithio pob cwr o’r ynys. Ac ni fuont yn fyr o roi eu bygythion ar waith.’  Y dinistr wedyn:

‘O fôr i fôr fe fflamiai tân dialedd cyfiawn am droseddau cynharach, a’i ddwysáu gan y llu dihirod o’r dwyrain; ac wrth iddo ddifa’r holl ddinasoedd a thiroedd cyfagos, ni phallodd, o’r foment y’i cynheuwyd, nes llosgi bron y cyfan o wyneb yr ynys a llyfu’r eigion gorllewinol â’i dafod coch, ffyrnig.’

A’r fföedigaeth:

‘Delid rhai o’r gweddillion truenus, o ganlyniad, ar y mynyddoedd a’u difa’n domennydd. Âi eraill, wedi eu trechu gan newyn, at y gelyn ac ildio’u hunain yn gaethweision iddynt am byth – onis lleddid yn y fan a’r lle, yr hyn a gyfrifid cystal â’r gymwynas bennaf. Ceisiai eraill wledydd tramor gan wylofain yn uchel … Glynai eraill, er yn ofnus, wrth eu mamwlad gan ymddiried eu bywydau, yn wastadol bryderus eu bryd, i fryniau cribog bygythiol, clogwynog a chaerog, ac i goedwigoedd tewfrig a chreigiau glannau’r môr.’

Dyna adroddiad yr hanesydd blin cynnar.  Dim mwy a dim llai. Ni ddywedir yn benodol fod gweddill y Brytaniaid wedi ffoi am eu hoedl o dir bras yr hyn a ddaeth yn Lloegr i dir uchel a garw’r gorllewin a Chymru’n arbennig. Ond o’r cychwyn cymharol fychan hwn, dyna’r stori a lynodd ac a dyfodd, am bobl yn colli eu gwlad, Ynys Brydain, oherwydd eu ffolineb eu hunain, a’r ffolineb hwnnw’n gosb gan Dduw oherwydd eu pechodau blaenorol.

Daeth y Cymry i feddwl mai eu stori hwy oedd hon.  Collwyr o’r cychwyn.

Yn y man, daeth gwrthateb.  Gyda chwedl a dameg ‘y ddraig goch a’r ddraig wen’ daeth disgwyliad  a darogan am adfywiad mawr eto ac ennill yn ôl y cyfan a gollwyd. Bu hynny’n gyfeiliant i ganrifoedd o hanes ac yn ddylanwad gweithredol, tyngedfennol ar yr hanes hwnnw.

Eto, yn gyfochrog ac yn wydn, parhaodd y teimlad o golled. Ac o annheilyngdod, achos y golled. Teimlad o fod yn is-rywogaeth. ‘Atalnwyd y taeog’, ‘cymhlethdod israddoldeb’. Dangoser dogfen Gymraeg i rai pobl  – llawer o bobl – heddiw. ‘Oes ’na eiria mowr?’

Ers pa bryd, yn benodol, y bu’r teimlad o israddoldeb yn fygythiad i’r Gymraeg?  Ateb: ers 1847.  O’r 16eg ganrif ymlaen bu olyniaeth o sylwedyddion, gan ddechrau â William Salesbury, yn ymwybodol fod perygl i’r iaith ac yn rhybuddio yn ei gylch. Ond ni thorrodd y perygl hwnnw allan ar raddfa fawr hyd nes i dri Chomisiynydd ar ran llywodraeth y dydd gynghori’r Cymry i fwrw heibio eu hiaith er mwyn bod yn dderbyniol a blaengar o fewn gwladwriaeth ac ymerodraeth a oedd i barhau am byth  …  a’r Cymry wedyn yn cytuno!  Daeth yr ildio hwn yn sydyn, dan bwysau ideoleg lywodraethol yr oes; ond ni byddai wedi digwydd heb fod y teimlad o israddoldeb yn llechu yno’n dawel drwy’r adeg.  Ni allwn honni mai penodau ‘Dinistr Prydain’ oedd wedi creu’r teimlad hwnnw; ond hwy a’i cofnododd gyntaf.

DWY SIARS  S.L.

(1)   Yn ei ddarlith allweddol Egwyddorion Cenedlaetholdeb (1926) fe ddywedodd Saunders Lewis bethau gwir a phethau a ddeil. Er enghraifft rhybuddiodd yn daer fod gwahanol fathau ar genedlaetholdeb, a rhai mathau yn bendant i’w hosgoi.  Ond beth am yr hyn a ddaeth efallai yn siars enwocaf a mwyaf cofiadwy’r ddarlith?  ‘Nid annibyniaeth.  Nid hyd yn oed ryddid di-amod. Ond llawn cymaint o ryddid ag a fo’n hanfodol i sefydlu a diogelu gwareiddiad yng Nghymru; a rhyddid yw hwnnw a fydd nid yn unig yn lles i Gymru, ond hefyd yn fantais ac yn ddiogelwch i Loegr a phob gwlad arall a fo’n gymydog inni.’

Y ddeuair ‘nid annibyniaeth’.  Adwaith, gallaf feddwl, i’r defnydd difeddwl o ‘annibyniaeth’ yn rhethreg y genhedlaeth gynt. A phwysicach efallai, cyfystyru ‘annibyniaeth’ â llwyr ymddibyniad, arwahandod, troi cefn ar gymdogion ac ar y byd.  Nid ein lle yw amau diffuantrwydd y sylw.  Ond creodd broblem.

Y broblem honno yw nad dynodiad cyfansoddiadol mo ‘rhyddid’.  Mae ‘datganoli’, ‘ffederaliaeth’ ac ‘annibyniaeth’ yn enwau ar raddau a mathau adnabyddadwy o ymreolaeth.  Nid yw ‘rhyddid’ felly.  Rhoddodd Plaid Cymru heibio rannau o neges S.L., ond glynodd yn rhyfedd at ‘nid annibyniaeth’.  Bu hyn yn gloffrwym arni, yn rhyw fath o tabŵ.  Fe’i gorfododd i dreulio llawer o egni trwy’r blynyddoedd yn dweud yr hyn nad oedd hi’n ei olygu!

A yw mudiad ‘Yes Cymru’ eleni wedi torri’r tabŵ?

(2)   36 mlynedd yn ddiweddarach, a dyma siars gan yr un dyn eto. Tybiaf y bydd rhai o’m darllenwyr yn gwybod ar eu cof ddiweddglo Tynged yr Iaith:

‘Mae’r iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth.  Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o’n gwlad, ni cheid mohoni’n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.’

Bwriwch felly fod Yes Cymru yn llwyddo. Fod annibyniaeth yn dod. Ai dyna fydd ei diwedd hi? Angau’r Gymraeg, diwedd y Cymro?

Nodaf ddwy ffaith, am eu bod yn wir.  (a) Ni wn am neb, ac ni chlywais am neb  – cenedlaetholwr nac arall – a bleidleisiodd ‘na’ yn refferenda 1979 a 1997 oherwydd rhybudd S.L.  (b) Profiad yr ugain mlynedd wedi datganoli: cyfnod o fethu â chynhyrchu arweiniad gan na llywodraeth na gwrthblaid. Ystadegau iaith 2011. Dymchwel a thanseilio’n sefydliadau. Ymddatodiad bywyd Cymru,.

Unwaith eto, ni wn am unrhyw bleidleisiwr ‘na’ yn ’97 sy’n mynd o gwmpas heddiw gan ddweud ‘mi ddwedais i, do’.  Ond nid drwg inni fyddai ailddarllen ac ystyried rhai o benodau’r gyfrol Pa beth yr aethoch allan i’w achub?

BETH AMDANI ?

Rhoi’r gorau iddi felly, cyn inni wneud mwy o ddrwg?  A fyddai’n well i holl ganghennau Yes Cymru (55 erbyn hyn?) gau’r siop?

Yn erbyn hynny, yr wyf am gynnig damcaniaeth.  Ac fel arfer mae’r blog ar agor i unrhyw un sydd am anghytuno  – neu gytuno.

Awn yn ôl at ‘Ddinistr Prydain’.  Nid yw’r testun hwnnw’n ymwneud ag iaith o gwbl.  Ond yn ystod y canrifoedd wedyn, beth a ddaeth yn farc neu fathodyn yr is-rywogaeth a gollodd ei thir yng ngwawr ei hanes?  Beth yw’r arwydd digamsyniol, i’r rhai na feddant mohono, ond pwysicach lawer i’r rhai sy’n ei feddu, o berthyn i’r hen hil israddol?  Ateb: medru’r Gymraeg.  Dyma’r arwydd o fod wedi colli rheolaeth, rywle ar y daith.  Fe gymerodd y Cymry, yn gam neu’n gymwys, mai hwy yw etifeddion y Britanni diafael, di-glem a’i cawliodd hi yn y bumed ganrif OC.  Bwriodd y Cymry di-Gymraeg y goel heibio gyda’r iaith;  ond mae ei heffaith yn aros ar y gweddill ohonom.

Drwy adennill rheolaeth, os yw ac os bydd hynny’n bosibl o gwbl, daw newid yn yr enaid. (Cofiwch mai siarad yn ffigurol yr ydym – defnyddio llaw-fer am newid seicolegol-gymdeithasol, peth â’i wreiddiau bob amser mewn amodau gwleidyddol ac economaidd.) Ni byddai gwybodaeth o’r Gymraeg wedyn yn arwydd y collwr; byddai’r atalnwyd yn cilio.

Gall unrhyw un gyfeirio at hanes Iwerddon, hanes o ennill gwlad a cholli iaith.  Y cwbl a ddywedaf heddiw yw fod y ffactorau a’r dylanwadau a holl rawd y digwyddiadau yn wahanol yno.  Nid yr un stori yw hi.

Pa fath o reolaeth, pa radd o ymreolaeth?  Oherwydd rhawd pethau yn yr Alban, annibyniaeth bellach yw’r unig ddewis ar y bwrdd.  Ni ddyfalaf ddim heddiw am ragolygon Yes Cymru nac am y ffactorau a all weithio o’i blaid ac yn ei erbyn. Ond rhaid dymuno’i lwyddiant.

Caf deimlad nad yw Yes Cymru wrth fodd pob cenedlaetholwr. Nid yw’n fudiad protest. Ac mae ganddo enw hannerieithog.

Ateb i’r broblem olaf, cael hefyd enw hannerieithog y ffordd arall?  Beth am ‘Wês Wês Wêls’ ?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: