Biblioffobia

5 Tach

Ym mlogiad Hydref 4ydd mi soniais am y profiad digri sydd i’w gael bron yn rheolaidd yn ffeiriau llyfrau Cymdeithas Bob Owen: ‘Lle rhyfedd yw’r Ffair Lyfrau. Mae’n llawn o bobl oedrannus sy’n cwyno fod ganddynt eisoes lawer iawn gormod o lyfrau, nad oes ganddynt le i’w cadw, ac na fyddant o unrhyw ddefnydd na diddordeb i’w plant. Cymeriad cyfarwydd yn y Ffair yw’r gŵr sy’n adrodd bod ei wraig yn cwyno am y llyfrau (byth fel arall) ac eisiau iddo gael eu gwared.’

Un amlygiad yw’r hyn yr wyf yn ei grynhoi yma o gyflwr seicolegol arbennig. Yr enw technegol arno, mae’n debyg, yw ‘biblioffobia’ – neu ‘ofn llyfrau’. A daw i’m cof amlygiadau eraill ohono.

(1) Y gŵr (ie, gŵr, sylwer eto) sy’n llyfrgarwr, ie digon posib yn ysgolhaig neu lenor ei hun, ond sy’n addef yn ddistaw bach wrth gyfeillion ei fod yn gorfod SMYGLO ambell lyfr i’w stydi heb i’w wraig sylwi.

(2) Y llyfrgarwr sydd wedi gwneud rheol iddo’i hun ers blynyddoedd, fod llyfr i fynd allan am bob un a ddaw i mewn.

(3) Un o’m cydnabod (fe’i galwn yn X) yn awyddus i gael gwared â llyfrau ei dad, ‘achos, fel y gwyddost ti, dydw i ddim yn llenor.’ Fy ymateb distaw innau: ‘Ia mi wn i, X, ac mi ŵyr y byd, nad wyt ti ddim yn llenor. Ond fedri di ddarllen?’ (A bron yn ddi-feth mewn achos fel hyn fe’n hysbysir fod y llyfrau’n hen; yn wir maent yn hen iawn, ac yn ofnadwy o hen. Ran amlaf fe geir eu bod cyn hyned â hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.)

(4) Ysgolhaig yn cael gwared â rhai silffeidiau o lyfrau i wneud lle i … ornaments!

(5) Brys annuwiol gweddw i werthu llyfrau ei diweddar ŵr bron cyn i’r creadur oeri yn ei arch. Mae gennyf amryw eitemau yn y tŷ yma ac arnynt lofnodion gwŷr llên a’u trysorodd unwaith, tystion mud o’r chwalfa hon.

(6) Taro i siop elusen, a rhyw gip dros y silffoedd llyfrau Cymraeg. Onid llofnod hwn-a-hwn sydd yma, gŵr o ddiwylliant, ie tipyn o awdur neu ysgolhaig ei hun, eto fyth? Onid oes plant iddo, hwythau wedi cael ysgol a choleg a’u codi yn sŵn y Pethe? Y genhedlaeth yn amlwg wedi penderfynu, nid yn unig nad oes ganddi hi ddefnydd i lyfrau’r hen ddyn, ond hefyd na bydd gan ei phlant hithau, na’i hwyrion, na neb, ddefnydd iddynt na diddordeb ynddynt byth eto.

Yn wir mae rhif (6) yn ein harwain at ffenomen seico-gymdeithasol ehangach ac un o’n problemau canolog – efallai y fwyaf o’r cyfryw – yng Nghymru heddiw, sef ymddiswyddiad neu yn wir ymddiorseddiad y dosbarth proffesiynol Cymraeg. Gollwng gafael, rhoi’r gorau i’r job, ‘rhoid gif-yp’. Digwyddodd o leiaf deirgwaith o’r blaen yn ein hanes, ac un o’r dyddiau hyn fe ddigwydd un waith yn ormod.

4 Ymateb to “Biblioffobia”

  1. Henry Tachwedd 5, 2019 at 10:33 pm #

    Gawn ni wybod pryd oedd “y tair gwaith” os gwelwch yn dda?

    • glynadda Tachwedd 6, 2019 at 11:04 am #

      (1) Meddwl yr oeddwn am y ddamcaniaeth, pe bai’r tywysogion Cymreig wedi goroesi, mai wedi troi’n Eingl-Normaniaid y byddent mewn cenhedlaeth neu ddwy. Llywelyn Fawr yn priodi ei blant I GYD â Normaniaid. Y Dywysoges Elinor de Montfort, o hiliogaeth y gangsteriaid Normanaidd gwaethaf oll. Beth yw’ch barn am y ddamcaniaeth hon, Henry? Gweler fy llyfr ‘Wele Wlad’, t. 81. (3) Wedi cymryd lle’r tywysogion ar ôl 1282, bu i’r uchelwyr Cymreig wasanaethu ein diwylliant yn dda am ddwy ganrif a hanner. Ond gyda’r Ddeddf Uno — trwy’r giât fel haid o ddefaid. Blewyn glasach yn y cae arall. (3) Be ddaeth o blant bwrdeisiaeth Gymraeg, Ymneilltuol, lenyddfol Oes Victoria? Rwyf wedfi dyfynnu o’r blaen brofiad a glywais gan lyfrwerthwr: rhyw ddieithryn yn dod i’r siop — ‘my grandfather was a famous Welsh preacher and poet. D’you know anything about his work?’ Rhyw bethau fel’na.

      • owenwh@tiscali.co.uk Tachwedd 8, 2019 at 2:08 pm #

        Diolch am yr ateb. Dydw i ddim digon o hanesydd nac ysgolhaig i fynegi barn mae arna i ofn. Ddrwg gin i fod mor hir yn ateb. Gaeafgwsg yn fy llethu.

  2. Martin Williams Tachwedd 13, 2019 at 10:36 pm #

    Credaf weithiau eich bod wedi taro’r hoelen ar ei phen mewn brawddeg yn eich llyfr Problem Prifysgol: “Prif ogoniant cenedl yw etholaeth neu boblogaeth neu werin oleuedig.”
    ‘Dwi ddim yn gwybod llawer am Gymdeithas Bob Owen. Ond a drefnwyd taith i’r canlynol erioed? Y Gelli Gandryll. Tref ryfeddol Wigtown yn yr hen sir Wigtownshire yn Yr Alban? Buchmesse yn Yr Almaen? Tripiau gwerth chweil.
    Wrth drafeilio a chrwydro yma yng Nghymru sawl gwaith ydwyf wedi sylwi ar rywun yn darllen testun Cymraeg call? Yn ystod y deuddeg mis diwethaf? Dwywaith os y cofiaf yn iawn. Dwywaith! Un person yn darllen cylchgrawn Golwg mewn ffreutur. Person arall yn darllen Llais Ogwan ar fws Arriva. Dwywaith!
    Nid swnio’n snobyddlyd yw fy nod. Ond weithiau er mwyn i Gymru deimlo fel gwlad ddifyr rhaid ymdrechu i fynychu pethau difyr. Bum yn y ffair lyfrau yn Ysgol David Hughes. Profiad difyr.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: