Etholiadol

16 Tach

Dyna’r ymgeiswyr oll yn eu lle, a siawns na ellir mentro sylw neu ddau am yr etholiad – ond gan geisio o hyd osgoi darogan.

1. CLYMBLEIDIAU

Rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg, fyddai bod Plaid Brexit wedi ymladd ym mhob sedd drwy Brydain, drwy hynny hollti mwy ar y bleidlais unoliaethol yn yr Alban, gwneud pethau ychydig yn haws i’r cenedlaetholwyr a dwyn yn nes y ‘diweddglo i’w daer chwenychu’ chwedl Hamlet yng nghyfieithiad J.T. Jones. Rhwng etholiadau 2015 a ’17 fe ddysgodd y pleidiau Prydeinig yn yr Alban y tric o grynhoi’n dactegol tu ôl i un o’u plith, nes bod tair plaid i bob pwrpas wedi mynd yn un, ac fe gollodd yr SNP beth tir o ganlyniad. Gyda’r Brexitwyr heb fod yn ymladd yn y seddau Ceidwadol bydd raid i’r SNP ymegnïo yn y seddau hynny, ond nid oes unrhyw amheuaeth nad hynny a wna. Gall fod yn help iddi hefyd fod cefnogaeth Llafur yn chwalu, os gwir yr adroddiadau heddiw. Gall hen Lafurwyr sur fotio i’r Tori yn y seddau Torïaidd, fel i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn eu seddau hwythau, gan mai’r Blaid Genedlaethol yw eu gelyn mawr. Ond ar y llaw arall mae’r rheidrwydd seicolegol i fod ar yr ochr sy’n ennill: cofiwn am bobl hollol wrth-Gymreig a fyddai’n fotio i Blaid Cymru ar ei hanterth yn Arfon, a gall fod rhyw effaith felly ymhlith yr Albanwyr os cyfyd y llanw o blaid yr SNP.

Yng Nghymru mae dau ffactor ar waith, sef penderfyniad Farage unwaith eto a chlymblaid ogoneddus Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yma yn Arfon, yn absenoldeb y Democratiaid. mae 648 pleidlais ar gael i rywun. Unwaith eto, nid darogan yr wyf, ond edrych ar y sefyllfa. Wrth feddwl am yr ychydig Ryddfrydwyr y gwn amdanynt yn yr ardal hon, ni allaf feddwl am gymaint ag un ohonynt a fyddai’n pleidleisio i Blaid Cymru mewn unrhyw amgylchiad, boed hi’n Brexit neu unrhyw beth arall; llawer tebycach mai pleidleisio i’r ymgeisydd mwyaf tebyg o’i churo. Ond dyma Farchfilwyr Texas, yn ffurf Plaid Brexit, i’r adwy drachefn, gyda’r posibilrwydd (ni allwn honni dim mwy) o fynd â thipyn oddi ar Lafur yn rhai o barthau mwy gwerinol ein hetholaeth. A fydd hynny’n ddigon i wrthbwyso dylanwad yr ELIFFANT yn yr ystafell, sef Prifysgol Bangor, sy’n gwestiwn mawr.

Ac yng ‘ngwlad iawn Geredigiwn deg’ mae dau eliffant, mawr a bach, sef Prifysgol Aberystwyth a thua hanner Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. O blith cefnogwyr Mark Williams, faint sydd (a) yn hen Ryddfrydwyr Ceredigion, a (b) yn bleidleiswyr ethnig y colegau? Heb wybod yr ateb, gallwn gynnig cymaint â hyn. Am genedlaethau ni bu pleidleiswyr traddodiadol Rhyddfrydiaeth yn uniaethu ag unrhyw bolisi. Heddiw ceir arwyddion fod un polisi, sef Prydeindod, yn cynhesu peth ar eu calonnau. Darllenwn fod digon o hen Ryddfrydwyr De-Orllewin Lloegr hefyd yn Frexitwyr selog, a synnwn i damaid nad oes digon o’r Cardis yr un fath. Pe gallai Nigel gynnig tamaid blasus, am y tro, i’r rhain, gallai fod yn help i Ben Lake. Ond digon i wrthbwyso dylanwad yr eliffantod?

Ar wefan BBC Cymru Fyw, 12 Tachwedd, llwyddodd Vaughan Roderick a Laura McAllister i drafod Ceredigion heb gyfeirio at yr eliffantod o gwbl. Pam y mae pawb o’r sylwebyddion a’r arbenigwyr yn anwybyddu’r ffactor hwn?

(2) AMODAU

Dyna’r SNP wedi cyhoeddi’n glir ei hamodau gogyfer â chefnogi llywodraeth Corbyn petai’r llywodraeth honno’n dod yn bosibilrwydd o gwbl . Yn eu plith, yn wir yn bwysicaf un, mae’r amod fod Trident yn gadael yr Alban. Pe dôi hi i hynny, dyma fyddai’r ergyd fwyaf erioed i falchder y Sefydliad Prydeinig. I’r Albanwyr, dyma fyddai dial Wallace, ac i ni Gymry, dial Dafydd ap Gruffudd. Bydd y gwleidyddion Torïaidd, gan wybod hynny, yn gynddeiriog, a dyma Michael Gove wedi dechrau’r tanio. Bydd mwyafrif y gwleidyddion Llafur yn fwy cynddeiriog: dyma Nia Griffith AS (Llanelli) fel llefarydd yr wrthblaid ar Amddiffyn, newydd ei chyhoeddi ei hun ‘gant y cant o blaid Trident’ wrth sicrhau undebwyr llafur (sef un o’r carfanau mwyaf adweithiol yn y mater hwn) fod eu swyddi ‘amddiffyn’ yn berffaith saff o dan Lafur. Rwan Corbyn, os wyt ti’n dal yn ddiarfogwr niwclear, am ba hyd mae hon i gael aros yn llefarydd?

Os daw’r diwrnod (ac mae’n fwy tebyg o ddod trwy annibyniaeth yr Alban na thrwy unrhyw beth a wna’r Chwith Brydeinig lipa, ddiafael, ddi-ddim) i ble’r aiff y llongau tanfor wedyn? Byddai croeso mawr yn Barrow-in-Furness yn ôl rhaglen y noson o’r blaen – ‘it’s jobs’, ond yn ôl datganiad Carwyn fis Mai 2012 byddai mwy na chroeso yng Nghymru. Rwyf wedi gofyn y cwestiwn fwy nag unwaith ar y blog, a yw Adam eto wedi gofyn i Drakeford a yw hyn o hyd yn bolisi Llafur Cymru? Ond does dim pwynt gofyn bellach, gan fod Adam ei hun wedi gwneud cytundeb â Jo Botwm Niwclear.

Dyma inni wleidyddiaeth eithafol dila a chwerthinllyd.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: